1. Cyflwyniad
    Rhaid canu’r caneuon yn ddigyfeiliant, ac eithrio cystadlaethau lle nodwyd y caniateir offerynnau. Gellir dewis unrhyw gyweirnod
  2. Canu a chyflwyno
    Ar gyfer cystadlaethau canu i unigolion, argymhellir cyflwyno’r gân:
    • yn naturiol
    • gan osgoi creu arddangosfa ymwybodol o’r llais canu
    • gan roi blaenoriaeth i’r geiriau, eu profiad a’u naws
    • gan ddehongli trwy liwio neu bwyntio’n gynnil, heb or-ddramateiddio
    • gan drin yr alaw yn llawforwyn i’r geiriau
    • gan adael i’r geiriau reoli rhythmau’r gerddoriaeth
    • gan ddehongli’r gân yng nghyswllt ei chefndir traddodiadol hyd y gwyddys am hynny
  3. Hawlfraint
    Cyfrifoldeb corau, partïon, grwpiau neu unigolion yw sicrhau hawlfraint unrhyw ddarnau hunanddewisiad. Rhaid nodi hyn wrth gofrestru. Ceir canllawiau a chyfarwyddiadau pellach yn adran ‘Cystadlu’ ar wefan yr Eisteddfod. Rhaid uwchlwytho copi i’r wefan erbyn 15 Mehefin
  4. Oedran
    Rhaid i’r cystadleuydd fod o fewn cwmpas oedran y gystadleuaeth ar 31 Awst 2024
  5. Copïau
    Mae hi’n anghyfreithlon gwneud copïau ychwanegol eich hun o gerddoriaeth, barddoniaeth neu unrhyw waith sydd wedi’i gyhoeddi.
  6. Parti neu gôr yn yr adran hon
    yr alaw a’r geiriau yn cael blaenoriaeth yn y trefniant a’r dehongliad, a hynny mewn arddull werinol
  7. Cystadlaethau cyn-derfynol a therfynol
    Bydd disgwyl i gystadlaethau'r adran hon ymddangos mewn rownd gyn-derfynol, a dyfernir y tri gorau i gystadlu yn y rownd derfynol oni nodir yn wahanol.

    DS Dylech sicrhau eich bod wedi darllen y Rheolau ac Amodau Cyffredinol cyn cystadlu.