1. Darnau Hunanddewisiad: Rhaid i gystadleuwyr uwchlwytho eu sgriptiau a darnau hunanddewisiad i wefan yr Eisteddfod erbyn 15 Mehefin
  2. Rheol Iaith
    Tynnir sylw’r cystadleuwyr at reol iaith yr Eisteddfod. Rhaid bod cyfiawnhad artistig pendant dros ddefnyddio iaith ar wahân i’r Gymraeg mewn detholiadau a chystadlaethau hunanddewisiad, ac ni ddylai fod yn ormodol
  3. Deunydd enllibus
    Ni chaniateir cynnwys unrhyw ddeunydd enllibus nac unrhyw ddefnydd o iaith anweddus, a allai beri tramgwydd i eraill, mewn unrhyw ddetholiadau neu gystadlaethau hunanddewisiad neu gyflwyniad byrfyfyr
  4. Hawlfraint
    Cyfrifoldeb corau, partïon, grwpiau neu unigolion yw sicrhau hawlfraint unrhyw ddarnau hunanddewisiad. Rhaid nodi hyn ar y ffurflen gystadlu. Ceir canllawiau a chyfarwyddiadau pellach yn yr adran ‘Cystadlu’ ar wefan yr Eisteddfod
  5. Oedran
    Rhaid i’r cystadleuydd fod o fewn cwmpas oedran y gystadleuaeth ar 31 Awst 2024
  6. Copïau
    Mae hi’n anghyfreithlon gwneud copïau ychwanegol eich hun o gerddoriaeth, barddoniaeth neu unrhyw waith sydd wedi’i gyhoeddi
  7. Cystadlaethau Côr Llefaru dros 20 mewn nifer a Pharti Llefaru hyd at 16 mewn nifer
    Caniateir defnyddio symudiadau, gwisgoedd, cerddoriaeth a mân gelfi cludadwy. Rhaid paratoi a chlirio’r llwyfan o fewn yr amser penodedig
  8. Cystadlaethau cyn-derfynol a therfynol
    Bydd disgwyl i gystadlaethau'r adran hon ymddangos mewn rownd gyn-derfynol, a dyfernir y tri gorau i gystadlu yn y rownd derfynol oni nodir yn wahanol.

DS Dylech sicrhau eich bod wedi darllen y Rheolau ac Amodau Cyffredinol cyn cystadlu.