- Cystadlu
Rhaid i bob ymgeisydd ymgeisio drwy wefan yr Eisteddfod, gan uwchlwytho gwaith wrth gwblhau’r broses gofrestru erbyn 1 Ebrill 2024 fan hwyraf. Ni dderbynir copïau caled. Dylid cysylltu â cystadlu@eisteddfod.cymru gydag unrhyw ymholiadau. - Cyfyngiadau
- Ni chaniateir anfon yr un gwaith yn ei hanfod i fwy nag un gystadleuaeth.
- Ni chaniateir anfon unrhyw waith at gyhoeddwr hyd nes y bydd y feirniadaeth wedi’i chyhoeddi yng nghyfrol y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
- Rheol Iaith
- Ni dderbynnir gwaith sy’n defnyddio deunydd neu gyfeiriad enllibus.
- Tynnir sylw’r cystadleuwyr at Reol Iaith yr Eisteddfod – Gweler amod 11 (ii) Rheolau ac Amodau Cyffredinol.
- Gwobr Goffa Daniel Owen 2024
Y cyfansoddiadau i fod yn llaw’r Trefnydd erbyn 1 Hydref 2023. Dylid uwchlwytho'r cyfansoddiadau drwy wefan yr Eisteddfod. Cysylltwch â cystadlu@eisteddfod.cymru gydag unrhyw ymholiadau. - Y Fedal Ryddiaith 2024
Y cyfansoddiadau i fod yn llaw’r Trefnydd erbyn 1 Rhagfyr 2023. Dylid uwchlwytho'r cyfansoddiadau drwy wefan yr Eisteddfod. Cysylltwch â cystadlu@eisteddfod.cymru gydag unrhyw ymholiadau. - Ymrwymiadau
Os oes gan gystadleuydd ymrwymiad fel awdur gyda chyhoeddwr arbennig, rhaid iddynt roi enw’r cyhoeddwr, ynghyd â’u henw a manylion cyswllt wrth gofrestru. - Cystadleuaeth y Goron
Cystadleuaeth ar gyfer cerdd neu gerddi ar y mesurau rhydd neu benrhydd yw cystadleuaeth y goron ac ni chaniateir cerddi ar y mesurau caeth traddodiadol. Ni chaniateir ond defnydd achlysurol iawn o’r gynghanedd yn y gystadleuaeth.
DS Dylech sicrhau eich bod wedi darllen y Rheolau ac Amodau Cyffredinol cyn cystadlu.