1. Mae’r cystadlaethau ar gyfer dysgwyr Cymraeg dros 16 oed, ar wahân i'r gystadleuaeth ar gyfer Ieuenctid sy'n agored i unigolion o dan 19 oed.
  2. Rhennir y lefelau fel a ganlyn:
    1. Mynediad: wedi derbyn hyd at 120 o oriau cyswllt
    2. Sylfaen: wedi derbyn hyd at 240 o oriau cyswllt
    3. Canolradd: wedi derbyn hyd at 360 o oriau cyswllt
    4. Agored: cystadlaethau sy’n agored i unrhyw un sydd wedi dysgu’r Gymraeg fel oedolyn hyd at ddosbarthiadau hyfedredd. Mae hefyd yn agored i’r rhai sydd yn, neu wedi astudio Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol uwchradd. Nid yw’r cystadlaethau yn agored i’r rhai sydd wedi dilyn cwrs gradd yn y Gymraeg neu unrhyw radd drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhannol neu’n llwyr, nac i’r rhai sy’n gweithio fel tiwtor Cymraeg ers mwy na 2 flynedd.
  3. Hawlfraint
    Cyfrifoldeb corau, partïon, grwpiau neu unigolion yw sicrhau hawlfraint unrhyw ddarnau hunanddewisiad. Rhaid nodi hyn ar y ffurflen gystadlu. Ceir canllawiau a chyfarwyddiadau pellach yn adran ‘Cystadlu’ ar wefan yr Eisteddfod. Dylid uwchlwytho copi o unrhyw ddarnau hunanddewisiad i’r wefan erbyn 15 Mehefin.
  4. Oedran
    Rhaid i’r cystadleuydd fod o fewn cwmpas oedran y gystadleuaeth ar 31 Awst 2024.
  5. Copïau
    Mae hi’n anghyfreithlon gwneud copïau ychwanegol eich hun o gerddoriaeth, barddoniaeth neu unrhyw waith sydd wedi’i gyhoeddi.
  6. Gwaith Cartref
    Rhaid uwchlwytho ceisiadau cyfansoddi ar lein drwy'r cyfrif porth erbyn 1 Ebrill 2024.

DS Dylech sicrhau eich bod wedi darllen y Rheolau ac Amodau Cyffredinol cyn cystadlu.

  1. Competitions are open to Welsh learners over 16 years of age, except for competition 100 and 112
  2. The levels are divided as follows:
    1. Entry (Mynediad): up to 120 contact hours
    2. Foundation (Sylfaen): up to 240 contact hours
    3. Intermediate (Canolradd): up to 360 contact hours
    4. Open (Agored): competitions open to anyone who has learnt Welsh as an adult up to proficiency classes. They are also open to those who are or have studied Welsh as a second language at secondary school. The competitions are not open to those who have completed a degree in Welsh or any degree completed wholly or partly through the medium of Welsh, or for those who have worked as a Welsh language tutor for more than 2 years.
  3. Copyright It is the responsibility of choirs, parties, groups or individuals to obtain the copyright of any selfselection pieces. This must be stated on the competition form. Further guidance and instructions can be found in the ‘Competition’ section of the Eisteddfod website. Please upload everything by 15 June 2024
  4. Age The competitor must be within the competition’s age range on 31 August 2024
  5. Copies It is illegal to make your own additional copies of music, poetry or any published work. NB You should ensure that you have read the General Rules and Conditions before competing.