Cyfansoddi
Ni ddylid anfon yr un ddrama i fwy nag un gystadleuaeth.

  1. Rhaid i’r cyfansoddiadau a’r cystadlu fod yn Gymraeg ac eithrio lle nodir yn wahanol o dan unrhyw gystadleuaeth unigol.
  2. Dylai unrhyw ddefnydd o iaith ar wahân i’r Gymraeg fod yn brin iawn, boed hynny yn y testun, yn y ddeialog neu mewn unrhyw seiniau neu gerddoriaeth gefndirol wrth lunio gwaith i’w berfformio’n gyhoeddus.
  3. Ni chaniateir gor-ddefnydd o iaith anweddus
  4. Rhaid i bob cais gael ei uwchlwytho i’r porth cystadlu ar wefan yr Eisteddfod erbyn y dyddiad cau, 1 Ebrill.

Actio Drama neu Waith Dyfeisiedig

  1. Bydd y beirniaid yn ystyried y dewis o ddrama yn ogystal â’r perfformiad ohoni.
  2. Rhaid i bob cwmni gofrestru ar-lein erbyn 1 Mawrth 2024, oni nodir yn wahanol. Hefyd, rhaid uwchlwytho copi electronig o’r ddrama fel y bwriedir ei pherfformio neu fraslun manwl o’r cyflwyniad os yn waith dyfeisiedig, gyda’r cais. Rhaid cynnal y rhagbrofion yn yr ardal a ddewisir gan y cwmnïau erbyn 18 Mai 2024.
  3. Os yn perfformio drama, rhaid i’r ddrama fod naill ai’n ddrama un act gyflawn neu’n ddetholiad o ddrama hir neu’n waith dyfeisiedig. Mae’n rhaid i’r detholiad fod yn ddealladwy i unrhyw aelod o’r gynulleidfa sy’n anghyfarwydd â’r ddrama wreiddiol a fu’n sail i’r detholiad.
  4. Ni chaniateir unrhyw ragarweiniad i’r detholiad, drwy araith na chrynodeb wedi’i argraffu.
  5. Ni ddylai’r perfformiad fod yn llai nag 20 munud o hyd nac yn hwy na 50 munud. Mae ‘amser perfformio’ yn cynnwys unrhyw amser sydd ei angen i newid golygfa yn ystod perfformiad.
  6. Rhaid i’r ddrama gynnwys o leiaf ddau gymeriad.
  7. Rhaid i unrhyw gwmni sydd wedi’i ddewis ar gyfer y prawf terfynol, ond sy’n tynnu’n ôl heb reswm digonol ym marn y Pwyllgor Theatr lleol, hysbysu’r Trefnydd o leiaf fis cyn diwrnod y gystadleuaeth neu dalu’r swm o £100.
  8. Traddodir beirniadaeth gryno ar ddiwedd pob rownd gyn-derfynol ac ar ddiwedd y prawf terfynol.
  9. Rhaid i’r cwmnïau sicrhau’r hawl i berfformio, a rhaid uwchlwytho copi o’r drwydded gyda’r ffurflen gais.
  10. Cyfrennir yn ariannol hyd at £250 tuag at gostau cynhyrchu a theithio’r cwmnïau a wahoddir yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Bydd angen gwneud cais ysgrifenedig gydag anfoneb o’r costau i Swyddfa’r Eisteddfod erbyn 1 Medi yn dilyn yr Ŵyl.
  11. Caniateir 10 munud i osod y llwyfan a 5 munud i glirio’r llwyfan.

Cystadlaethau actio - Richard Burton, Deialog a’r Monologau

  1. Rhaid i gopi electronig o’r sgriptiau a ddefnyddir gael eu huwchlwytho i wefan yr Eisteddfod erbyn 15 Mehefin.
  2. Cyfrifoldeb cystadleuwyr yw sicrhau hawlfraint y darnau. Rhaid nodi hyn ar y ffurflen gystadlu. Ceir canllawiau a chyfarwyddiadau pellach yn adran ‘Cystadlu’ ar wefan yr Eisteddfod.
  3. Rhaid dechrau a diweddu’r perfformiad gyda llwyfan gwag. Amserir y perfformiad o’r funud y dechreuir gosod y llwyfan hyd at y llwyfan gwag ar ôl y cyflwyniad.
  4. Caniateir propiau a dodrefn syml, gwisg a cherddoriaeth. Y cystadleuwyr eu hunain a ddylai osod a chlirio’r llwyfan oni bai am achosion eithriadol a fyddai’n caniatáu i’r rheolwyr llwyfan swyddogol wneud hyn.
  5. Tynnir sylw’r cystadleuwyr at Reol Iaith yr Eisteddfod. Rhaid bod cyfiawnhad artistig pendant dros ddefnyddio iaith ar wahân i’r Gymraeg mewn detholiadau a chystadlaethau hunanddewisiad ac ni ddylai fod yn ormodol.
  6. Ni chaniateir cynnwys unrhyw ddeunydd enllibus nac unrhyw ddefnydd o iaith anweddus, a allai beri tramgwydd i eraill, mewn unrhyw ddetholiadau neu gystadlaethau hunanddewisiad neu gyflwyniad byrfyfyr

      Oedran
      Rhaid i’r cystadleuydd fod o fewn cwmpas oedran y gystadleuaeth ar 31 Awst 2024.

      Copïau
      Mae hi’n anghyfreithlon gwneud copïau ychwanegol eich hun o gerddoriaeth, barddoniaeth neu unrhyw waith sydd wedi’i gyhoeddi.

      Cystadlaethau cyn-derfynol a therfynol
      Bydd disgwyl i gystadlaethau'r adran hon ymddangos mewn rownd gyn-derfynol, a dyfernir y tri gorau i gystadlu yn y rownd derfynol oni nodir yn wahanol.

      DS Dylech sicrhau eich bod wedi darllen y Rheolau ac Amodau Cyffredinol cyn cystadlu.