Llythrennau coch enfawr yn sillafu 'Eisteddfod' ar ongl mewn cae gyda phafiliwn streipiog yn y cefndir ac awyr gymylog uwchben

Dyma’r llythrennau anferth sy’n sillafu’r gair ‘Eisteddfod’. 

Cafodd rhain eu creu gan ein crefftwr yn ein gweithdy yn Llanybydder, ac erbyn hyn, dyma’r ddelwedd fwyaf poblogaidd o’r Maes – ac i’w gweld yn eang ar-sgrin, ar-lein ac ar draws y cyfryngau cymdeithasol.

Dyma hefyd yw brand yr Eisteddfod, ac mae’r llythrennau coch llachar wedi dod yn adnabyddus yn rhyngwladol fel symbol o’r ŵyl.

Mae’r gair yn rhan o brosiect mawr i harddu’r Maes, a chreu gwedd mwy lliwgar a diddorol, yn fwy tebyg i ŵyl. 

Mae amryw o wrthrychau eraill newydd yn cael eu creu yn flynyddol i’w gosod ar draws y Maes, ond ein llythrennau coch sydd wastad i’w gweld yn y lluniau i gyd.