Bydd y dalgylch hefyd yn cynnwys cymunedau yn ne Ceredigion a Sir Gaerfyddin, sy’n ffinio gydag ardal Sir Benfro, ac mae hyn yn arbennig o briodol, gan y bydd yn gyfle i ddathlu 850 mlyneddd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf yng Nghastell Aberteifi yn 1176.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at gynnal yr Eisteddfod yn Sir Benfro ymhen dwy flynedd, ac at weithio mewn ffordd cwbl newydd gan ddod â rhannau o dair sir at ei gilydd i greu prosiect a gŵyl sy’n ddathliad o’n hiaith a’n diwylliant yn lleol a chenedlaethol.

Rydyn ni eisoes wedi cychwyn gweithio gyda Chyngor Sir Benfro fel yr awdurdod arweiniol, ac yn falch iawn i gydweithio gyda chynghorau Ceredigion a Sir Gâr eto. Mae’n gyfle i ni weithio ar Eisteddfod mewn ffordd newydd, gan fanteisio ar arbenigedd tîm o awdurdodau lleol.

Dydyn ni heb fod yn Sir Benfro ers 2002, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd i ardal a roddodd gymaint o groeso i ni pan gynhaliwyd yr ŵyl yn Nhyddewi bryd hynny. 

Mae nifer fawr o gyfleoedd ar gael, yn trefnu a chefnogi gweithgareddau cymdeithasol yn ogystal â’r gwaith o gynnig syniadau ar gyfer ein cystadlaethau a rhaglen yr wythnos. Dewch i weld beth sydd ar gael ac i drafod sut y gallwn ni gydweithio i greu prosiect a gŵyl i’w cofio yn yr ardal. Mae croeso mawr i bawb o bob oed.

Mae'r ffurflen gofrestru ar gau ar hyn o bryd gan fod y bleidlais ar gyfer swyddogion ar ei chanol. Bydd y ffurflen ar gael eto'n fuan.