Mae’n amlwg bod rhyw gecru wedi bod yn digwydd rhwng Cyngor yr Eisteddfod a phwyllgor lleol prifwyl Abertawe'r flwyddyn flaenorol am rai misoedd.
Yn ôl y papurau newydd i gyd (a ‘does dim un o’r papurau’n egluro’r hanes mewn ffordd sy’n hawdd i’w ddilyn), roedd y Cyngor yn disgwyl i swyddogion Eisteddfod 1863 ddychwelyd £50 yr un o’r elw a wnaethpwyd i’r Cyngor. Dychwelwyd yr arian gan un o’r swyddogion, ond nid gan Gwilym Tawe. Bu’r ffrae yn ffrwtian am beth amser cyn ffrwydro yn yr Eisteddfod yn Llandudno yng nghyfarfod y Cyngor, ac yna, bu’r cyfan yn llenwi colofnau’r papurau newydd am beth amser.
Roedd tipyn o’r wasg hefyd yn cwyno bod yr Eisteddfod wedi mynd yn rhy Seisnigaidd, a bod y Cymry’n moesymgrymu i’r gynulleidfa Seisnig, tra bod y wasg Seisnig yn teimlo bod yr Eisteddfod yn ymfalchïo mewn bychanu’r iaith Saesneg ac ymwelwyr o Loegr yn ystod yr wythnos.
Yn anffodus, nid oes copïau o rai o’r papurau o’r cyfnod ar gael ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a braf fyddai bod wedi darllen adroddiadau Seren Cymru a Baner ac Amserau Cymru yn cloriannu’r Eisteddfod yn ei chyfanrwydd. Byddai hyn wedi ein galluogi i gael darlun cliriach o’r hyn a ddigwyddodd, ond mae’n rhaid defnyddio’r adnoddau sydd ar gael yn unig.
Felly, gyda hyn oll yn gefndir, doedd hi ddim yn llwyddiant mawr, er bod cymaint o ganmol wedi bod i’r Pafiliwn yn yr wythnosau cyn yr ŵyl. Wrth gwrs, bu problemau mawrion gyda’r Pafiliwn yn Abertawe'r flwyddyn flaenorol, gydag un o’r trawstiau’n cracio a dechrau disgyn yn ystod un o’r cyngherddau nos. O’r herwydd, roedd pwyllgor Llandudno’n awyddus i bwysleisio’r ffaith fod y Pafiliwn yn 1864 yn mynd i fod yn well nag unrhyw adeilad eisteddfodol o’r blaen.
Mae’r erthygl hon yn Seren Cymru ar 19 Awst 1864 yn dangos fod y trefnwyr, a gwneuthurwyr y Pafiliwn wedi bod wrthi’n ddiwyd yn canmol yr adeilad i’r wasg yn ystod yr wythnosau hyd at yr Eisteddfod:
“Deallwn fod paratoadau mawrion yn cael eu gwneyd yn Llandudno gyferbyn â chynnaliad yr Eisteddfod Genedlaethol yno yr wythnos nesaf. Y mae y pavilion ar gael ei gwbl orphen, a bydd yn un o’r adeiladau harddaf a godwyd erioed at gynnal Eisteddfod ynodd. Y mae o ran ffurf yn wyth-onglog, gydag esgynlawr eang yn un pen; ac y mae felly ar y ffurf fwyaf fanteisiol i weled a chlywed. Y mae y tir hefyd ar yr hwn y saif yn codi yn raddol, yr hyn fydd yn fanteisiol i’r naill weled dros y llall. Y mae hefyd wedi ei doi â felt, a bydd felly yn hollol ddiddos rhag y gwynt a’r gwlaw. Y mae ei drefniadau mewnol hefyd yn hollo gyfleus, fel pan elo dyn i fewn drwy y fynedfa briodol i’r tocyn fyddo ganddo, bydd yn ei le ei hun, yr hyn a arbeda lawer o drafferth o ymwthio o’r naill fan i’r llall.”
Cafwyd erthygl debyg yn The Aberystwith Observer ar 27 Awst, “We find that the pavilion, which is one of the largest, best arranged and most imposing erections ever seen in Wales, was completed on Friday with the exception of the in-door ornamentations, which are chiefly carried out under the management of professional taste and talent of the architect, Mr Felton, and the business promptness of Mr. Prichard the builder. The general arrangements are perfect and leave nothing to be desired.
We are glad, too, to find that proper care has been taken to secure ample ventilation, ans should more be required it can easily be obtained by simply removing one of the top boards around the building. The retiring room for the lady and gentleman artistes are most conveniently fixed under the orchestra, and are spacious, private and commodious… Altogether, the pavilion is a credit to Wales and to all parties concerned in its erection.”
Ac roedd mwy o ganmol i’r Pafiliwn yn The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality ar 27 Awst, “The decorations of all kinds was something immense as well as beautiful, and were solely the handiwork of the members of the Ladies’ Committee, presided over by Mrs. Morgan, of the Rectory, to whom too much praise cannot be awarded for their taste, patriotism and industry. The decorative department of the pavillion was under the superintendence of Mr. Morrell.
“In order to render the Eisteddfod more attractive and more in accordance with its new character, the Council exhibited, in front of the platform, several specimens of sculpture, the work of Mr. David Davies, a Welshman now residing in the metropolis. The same artist also sent a full life-size figure of Alexander, when roused to fury by Timotheus, he seized the flambeau to fire Presopolis. There was also exhibited a large case of excellent photographs of literary and musical celebrities, chiefly connected with Eisteddfodau.”
Ond roedd y wasg Gymreig yn llai canmoladwy o’r trefniadau ar gyfer yr Eisteddfod, ac ar 13 Awst, cyhoeddodd Y Gwladgarwr y rhybudd canlynol, yn awgrymu na fyddai Prifwyl Llandudno’n llwyddiant. “Y mae yr Eisteddfod i gael ei chynal eleni yn nhref hynafol Llandudno, yng Ngogledd Cymru, ar y 23ain, 24ain, 25ain a’r 26ain o’r mis presenol. Nid yw yr Eisteddfod hon yn creu llawer o gyffro yn y Deheubarth, gan nad beth am y Gogledd hefyd. Y mae gweithrediadau y pwyllgor yn guddiedig oddiwrth y werin, ac nid oes un o fil o honynt yn gwybod dim am y testynau gan na chawsant eu cyhoeddi mewn un o newyddiaduron ein tywysogaeth. Gallwn sicrhau fod pwyllgor Eisteddfod Llandudno wedi gwneud grand mistake wrth beidio gwneud testynau eu Heisteddfod yn hysbys trwy y newyddiaduron; bydd i’r pwyllgor gael sicrwydd o’r ffaith pawn yn cyfrif y derbyniadau arianol tranoeth i’r Eisteddfod.
“Yr ydym yn condemnio yr arferiad presenol o gymhwyso yr Eisteddfod Genedlaethol at foddhau ac enill ffafriaeth y Seison, ar draul esgeuluso y Gymraeg; a gwyddom fod yr arferiad hwn yn achos i lawer Cymro gwladgarol i gefnu ar ein heisteddfodau. Gadawer idd ein Heisteddfod Genedlaethol, beth bynag, i fod yn Gymreig; neu tynu allan y gair ‘Cenedlaethol’ sydd yn gysylltiedig wrthi, er rhoddi lle i’r gair ‘Seisnig’… Gobeithiwn y bydd i bwyllgor Aberystwyth i gymeryd yr awgrym erbyn y flwyddyn nesaf, a gochelyd efelychu y pwyllgorau blaenorol yn eu Seisnegeiddiwch, a ‘gwell hwyr na hwyrach’ ys dywed yr hen ddiareb Gymreig. Cofied, ‘Yr Eisteddfod,’ (sef y prif bwyllgor) gan ei fod yn honi ei hun i fod yn Genedlaethol, fod ei holl weithrediadau yn agored i feirniadaeth y Wasg a’r genedl Gymreig, ac y byddant yn dra thebyg o wneud eu rhan.”
Geiriau hynod gryf, ac yn y rhifyn a gyhoeddwyd ar 3 Medi, yn syth ar ôl yr Eisteddfod, cyfeiriodd Y Gwladgarwr at y rhybudd a gafwyd ganddynt hwy wythnosau ynghynt, gan ddatgan i’r Eisteddfod fod yn fethiant.
“Bu llawer o ddyfalu a darogan am ei thynged; ond bellach, y mae ei helynt yn hysbys i’r cyhoedd, ad yn agored i feirniadaeth y Wasg a’r werin Gymreig. Y mae yn flin genym orfod dyweyd mai Eisteddfod Llanudno oedd y gwaelaf o’r pedair a ymgyfenwent yn Genedlaethol; ond eto ni chawsom ein siomi, gan ein bod wedi amlygu ein barn yn flaenorol mai felly y buasai. Pa fodd y gallesid dysgwyl cynulliad lluosog, a chystadleuaeth dda, tra yr oedd y pwyllgor yn ymatal rhag cyhoeddi y testynau yn newyddiaduron y Dywysogaeth.
“Ni chyhoeddwyd amseriad yr Eisteddfod yng nghymaint ag un o bapyrau y Deheubarth; ac ni ddygwyddodd i ni hefyd weled hysbysleni o honi ar barwydydd ein trefydd a’n pentrefydd, y tu yma i diroedd y Gogledd.”
Ond roedd y trefnwyr wedi gwneud eu gorau i ddenu ymwelwyr. Roedd hysbysebion wedi ymddangos yn y papurau newydd, fel mae’r hysbyseb isod yn eu dangos. Roedd y trefnwyr hefyd wedi mynd ati i drefnu bod modd i bobl ymweld â’r Eisteddfod o bob rhan o’r gogledd a thu hwnt, ond efallai nad oedd y trefniadau hyn wedi’u hysbysebu’n ddigon eang.
ythefnos cyn i’r wyl gychwyn, ymddangosodd yr adroddiad hwn yn Seren Cymru ar 19 Awst, “Gyda golwg ar y cyfleusderau i ddyfod i’r dref, y maent yn bob peth ag a ellid ddymuno. Bydd agerfad yn gadael Pont Menai bob bore am wyth o’r gloch, gan alw yn Mangor a Beaumaris, a dychwela o Landudno am chwech yn yr hwyr. Bydd agerlong yn cychwyn o Lynlleifiad hefyd bob boreu am saith ac yn dychwelyd tua hanner awr wedi pump. Bydd cerbydresi rhad hefyd yn rhedeg o’r holl orsafoedd cymmydogaethol; a boreu dydd Llun y 22ain, cychwyna cerbydres rad o’r Deheudir, a gellir dychwelyd unrhyw ddiwrnod yn ystod yr wythnos.”
Roedd hyn i gyd yn ymddangos yn drefnus ac yn gynhwysfawr iawn, ond yn amlwg, nid oedd yn ddigon i ddenu torfeydd helaeth draw i Landudno ar ddiwedd mis Awst, nac hefyd yn ddigon i ennyn cefnogaeth y wasg Gymreig. A oedd dyfodol i’r Eisteddfod Genedlaethol yn dilyn y fath gecru, neu a fyddai’r sefydliad newydd yn dod i ben ar ôl dim ond pedair blynedd? Rhaid troi at 1865 i weld beth ddigwyddodd nesaf yn hanes y Brifwyl.