Ym mis Chwefror, wrth i’r trefnwyr baratoi i gyhoeddi’r Testunau am y flwyddyn, cyhoeddwyd y pwt canlynol ym Maner ac Amserau Cymru ar 5 Chwefror 1862, “Hoff gennym ddeall fod y pwyllgor gweithiol yn ddiwyd gyda’u paratoadau ar gyfer yr ŵyl fawr yn yr hen Gastell yn Awst nesaf… Ni bu gwell adeg am Eisteddfod na’r oes hon, na gwell lle na Chaernarfon. Y mae y dref mor fanteisiol i gynnal Eisteddfod ag un man yn Nghymru; a chan fod y Dywysogaeth wedi ei britho â Chymdeithasau Llenyddol, y rhai ydynt Eisteddfodau ar scale fechan, diau y bydd i aelodau y cyfryw deimlo sêl dros y Sefydliad Cenedlaethol, yr hwn sydd yn goron i’r oll…”
Wythnos yn ddiweddarach, ymddangosodd y Testunau yn y wasg, gyda neges glir i’r rheini oedd yn bwriadu cystadlu, “Rhaid i’r Cyfansoddiadau fod nid yn unig yn oreu, ond hefyd yn deilwng o’r wobr, ac y mae yn ofynnol iddynt fod yn llaw yr Ysgrifenyddion erbyn y 12fed o ORPHENAF. Gwneir swm y gwobrwyon yn hysbys cyn gynted ag y byddo modd.”
Ac roedd nifer fawr o gystadlaethau wedi’i gosod, mewn amryw o feysydd. Roedd y cystadleuaethau offerynnol yn cynnwys “I’r Ferch o dan 18 oed a chwareuo oreu y Perdoneg (Pianoforte)” ac un arall “I’r Chwareuwr goreu ar yr harmonium”.
Y Flwyddyn oedd teitl yr Awdl, ac roedd Tlws a Gwobr i’r enillydd, ac yn ôl Y Gwladgarwr ar 6 Medi, “Yr oedd naw o gyfansoddiadau wedi dyfod i law, y goreu o ba rai oedd Yr Eryr, yr hwn a ymddanghosodd yn mherson y Parch R Williams (Hwfa Môn), Bethesda, a derbyniodd y wobr, yn nghyda’r anrhydedd o gadair Gwynedd.”
Moses: Gwaredigaeth Israel o’r Aipht, heb fod dros 4,000 (ie, 4,000!) o linellau oedd teitl yr Arwrgerdd. Roedd Tlws a Gwobr i’r enillydd yn y gystadleuaeth hon hefyd - er efallai fod y beirniaid hefyd yn haeddu gwobr am ddarllen cyfres o gerddi heb fod yn hwy na 4,000 llinell ar y pwnc hwn! Cafwyd pum ymgais ar yr Arwrgerdd, gyda Nicander yn dod i’r brig, ac yn ennill £21 (£2,570 heddiw). Mae’n rhyfeddol gweld y wobr ar gyfer yr “englyn goreu ar Ddiwydrwydd” - pibell gwerth 2b gan Mr Williams, Tobacconist, Caer!
Roedd amryw o gystadlaethau traethodau hefyd, ac mae’n teimlo’n wrthun iawn i ddarllen rhai o’r pynciau hyn erbyn heddiw:
- Ar y dull goreu i Addysgu yr Iaith Saesoneg i Blant Cymreig mewn ysgolion dyddiol Saesoneg
- Benyw: Ei Dylanwad ar Gymdeithas – Dyledswydd Dyn tuag ati – a’r moddion goreu i wellhau ei sefyllfa
Ond, mae’n bosibl mai’r cystadlaethau mwyaf diddorol oedd y rheini yn yr adran celf a chrefft. Dros y blynyddoedd, mae’r cystadlaethau hyn wedi rhoi cipolwg arbennig i ni o fywyd yng Nghymru yn ystod y cyfnod dan sylw, yn arbennig efallai'r cystadlaethau pensaernïaeth yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Ac ni chawsom ein siomi gan y testunau yn yr adran hon yn 1862, oedd i’w gweld yn rhifyn 15 Chwefror 1862 o’r Gwladgarwr:
- Paentyddiaeth - Darlun goreu (oil or water). Gellir cael y testyn drwy anfon ‘stamped directed envelope' i’r ysgrifenyddion. Cyhoeddwyd wedyn mai ‘Fy nawn hallt yn ddafnau rhed’ oedd testun y darlun.
- Darlun Crayon yn arddangos ‘Ymgynghoriad Augustine ag Esgobion yr Eglwys Brydeinig.’ Maentioli 50 modfedd wrth 40 modfedd
- Cynlluniau (plans) o Adeilad Cyhoeddus ar ddarn o dir cyffelyb i’r lle agored sydd ar yr ochr ogleddol i Sefydliad y Morwyr yng Nghaernarfon
- Ffurflun (model) gyda gwelliantau o Schoonner (coaster) o 140 o dunelli
- Cynlluniau (plans) neu ffurflun (model) o beiriant newydd i’w ddefnyddio mewn Chwarelau, neu welliant ar ryw un sydd eisioes mewn arferiad
- Cynlluniau (plans) neu ffurflun (model) o beiriant newydd i’w ddefnyddio i ddyben amaethyddol; neu welliant ar ryw un sydd eisioes mewn arferiad
Felly, roedd y testunau wedi’u cyhoeddi, a’r trefniadau ar gyfer Eisteddfod fawr Caernarfon wedi cychwyn, gyda’r wasg yn dilyn ei hanes yn eiddgar yn ystod y misoedd hyd at y Brifwyl. Roedd y cysyniad o ‘Eisteddfod Genedlaethol’ wedi cydio, fel yr adroddwyd ym Maner ac Amserau Cymru ar 30 Ebrill 1862, “Y mae yn ffaith nad ellir ei hammheu fod Eisteddfodau y dyddiau hyn yn chwanegu cryfder a bod eu dylanwad yn fawr. Nid phib ydyw eu galw yn genedlaethol, yr oedd Eisteddfodau Dinbych, Llangollen ac Aberdar, mor genedlaethol ag y gellid disgwyl. Os nad oedd cannoedd a miloedd o bobl y ‘South’ yn bresennol yn Ninbych a Llangollen, ac felly o’r ‘North’ yn Aberdar, yr oedd teimlad a chydymdeimlad y Gogledd a’r Deheu, gyda phob un ohonynt.”
Ac roedd pawb yn edrych ymlaen at gael dod i Gaernarfon ym mis Awst, ac at y cystadlu, a’r cymdeithasu, fel yr adroddwyd yn Seren Cymru, 18 Gorffennaf y flwyddyn honno, “Y mae y darpariadau gyferbyn a’r Eisteddfod fawreddog hon, yn cael eu cario yn mlaen, fel y deallwn, ar gynllun helaeth iawn. Y mae gwasanaeth prif feirniaid y Dywysogaeth wedi ei sicrhau, a bydd i aelodau Seneddol lywyddu y cyfarfodydd. Bydd prif lenorion Cymru yn bresennol, fel y dysgwylir; a chredir y bydd yr Eisteddfod hon nid yn unig yn un o’r rhai mwyaf mawreddog, ond y mwyaf mawreddog a gofnodwyd erioed. Hyderwn hefyd y bydd y cyfansoddiadau yn deilwng o athrylith Gymreig.”
Ac ymhen dim o dro, roedd wythnos yr Eisteddfod wedi bod ac wedi mynd, a chyfle i edrych yn ôl ar wyl lwyddiannus yng Nghastell Caernarfon. Cafwyd tudalen ar dudalen o adroddiadau canmoladwy drwy'r wasg, a neb yn fwy canmoliaethus na phapur newydd Y Gwladgarwr yn rhifyn 30 Awst, “Mawr ydyw y siarad a’r paratoi sydd wedi bod yn ystod y flwyddyn gogyfer a’r Eisteddfod hon; ond o’r diwedd y mae yr adeg wedi gwawrio. Mae y dref yn llawn bywiogrwydd; ac i chwanegi at y cynbwrf a’r bywiogrwydd eisteddfodol, y mae y gwron ymladdgar Tom Sayers wedi ymweled a ni. Y mae pabell yr Eisteddfod wedi ei gosod i fyny o fewn i’r Gastell, ac y mae yn ddigon eang i gynnwys ugain mil o bersonau.”
Ac mae’n amlwg fod pobl Caernarfon, yn union fel trigolion Aberdar y flwyddyn flaenorol, wedi edrych ymlaen at ymweliad yr Eisteddfod, ac wedi bod wrthi’n addurno’r dref, “Yr oedd boreu dydd Mawrth diweddaf yn ddechreuad cyfnod newydd yn hanes llenyddol ein hoffus wlad. Oddeutu deg o’r gloch, yr oedd heolydd y dref wedi gwisgo agwedd ynillgar a heinyf rhyfeddol. Gwelid plethdorchau o flodau yn croesi yr heolydd, a heulwen y greadigaeth yn taflu ei belydrau pefreddog ar yr hen arwyddair hwnnw, ‘Oes y byd i’r iaith Gymraeg,’ yr hwn sydd i’w ganfod mewn gwahanol fannau trwy dref a chastell hir hoedlog Caernarfon.”
Mae’n werth gorffen gydag adroddiad o bapur Y Gwladgarwr, ar 6 Medi, lle maen nhw’n cloriannu wythnos arbennig iawn yn y dref. Mae’n braf gweld bod croeso cynnes i’r wyl dros 150 mlynedd yn ôl a bod busnesau lleol yn gweld ei gwerth hyd yn oed bryd hynny - yn ogystal â gweld cyfle i wneud rhywfaint o fusnes drwy gynnig gwasanaeth i Eisteddfodwyr!
“Cawsom Eisteddfod luosog dros ben am y tri diwrnod cyntaf. Y mae Cymru erioed, ac yn parhau eto mewn rhai lleoedd yn enwog am garedigrwydd a lletygarwch. Ni ddangosodd neb gymaint o wladgarwch ar yr achlysur a Mr. Humphres, stationer. Da oedd gennym ei weled wedi darparu ymborth rhagorol i ddyeithriaid, mewn man y gallai pawb fyned iddo heb frifo dim ar eu teimladau ac am bris nad oedd ond prin ddigon i’w ddiogelu rhag colled ariannol.
“Yr oedd hefyd masnachwyr y dref o’r ardal wedi dangos eu parch i’r Eisteddfod Genedlaethol, a’u cariad at eu gweision a’u cynorthwywyr, trwy roddi pob mantais iddynt fyned i’r cyfarfodydd. Y dosbarth mwyaf caethwasol yn y deyrnas ydyw bechgyn y siopau; ond yr oedd masnachfeistri Caernarfon mor haelionus at y cyfryw, ag ydyw masnachwyr nemawr dref yng Nghymru. Cauwyd y siopau yn gynnar o ddydd Mawrth hyd ddydd Gwener, fel y byddai i’r bechgyn hyn, fel dynion eraill, gael y fantais o gydgyfranogi o bleser barddonol, llenyddol, a cherddorol yr Eisteddfod Fawr hon. Terfynwn yn awr, gyda dymuno ‘Oes y Byd i’r Iaith Gymreig.’”