Arwydd Encore - ysgrifen du ar gefndir hufen gyda ffram las ar Faes Eisteddfod 2023

Mae’n adeilad trawiadol a deniadol sydd â rhaglen lawn o weithgareddau drwy gydol yr wythnos.

Dewch i fwynhau datganiadau cerddorol gan rai o’n cyn-enillwyr dros y blynyddoedd diwethaf, sgyrsiau am gymeriadau cerddorol lleol a chenedlaethol difyr, a phob math o berfformiadau.

Mae Encore yn le perffaith i glywed sesiynau syml a di-ffws gan rai o gerddorion blaenaf Cymru ac mae’r awyrgylch ymlaciol ac apelgar yn siŵr o ddenu cynulleidfaoedd sy’n mwynhau cerddoriaeth.

Mae naws leol i ran helaeth o’r rhaglen eleni. Dewch i glywed rhagor am y traddodiad cerddorol yn ysgolion Cymraeg y dalgylch, gyda chyfle i fwynhau ambell berfformiad. 

Cawn hanes dau ganwr amlwg o Gilfynydd, Syr Geraint Evans a Stuart Burrows, ac i newid cywair yn llwyr, dewch i hel atgofion am y Ffatri Bop yn Y Porth a ddenodd sêr rhyngwladol y sin bop i’r Cymoedd ar ddechrau’r 2000au.

 

Cefnogir Encore gan:

Logos noddwyr Encore 2024 - James Pantyfedwen, Pontio, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Ty Cerdd a Gwasanaeth Cerdd RCT