Credir i'r geiriau emosiynol gael eu creu fel ymateb i lythyr gan frawd Evan yn ei annog i adael Cymru ac ymfudo i'r Unol Daleithiau.
Ond aros yn ei filltir sgwâr wnaeth y bardd a chyn diwedd y ganrif roedd y gân yn cael ei chanu ledled Cymru gan unigolion a thorfeydd mawr.
Mae’r gofeb hon ar ffurf dau ffigwr yn cynrychioli barddoniaeth a cherddoriaeth, ac fe’i dadorchuddiwyd gan y cerflunydd, Goscombe John ym mis Gorffennaf 1930. Mae bedd Evan James o flaen y gofeb.
Fe’i ail-gladdwyd yn y parc yn 1973, ar ôl i Gapel Carmel ger Pontypridd, lle y’i claddwyd yn wreiddiol, gael ei gau a’i ddymchwel.
Perfformiwyd ‘Glan Rhondda’, fel y'i gelwid yn wreiddiol, gyntaf mewn capel ym Maesteg gan Elizabeth John, Pontypridd. Cân mewn amser 6/8 ar gyfer dawnsio oedd hi’n wreiddiol ond fe’i harafwyd i’w thempo presennol pan ddechreuodd tyrfaoedd ei chanu.
Cynyddodd poblogrwydd y gân ar ôl Eisteddfod Llangollen yn 1858, pan enillodd Thomas Llewelyn, Aberdâr gystadleuaeth am gasgliad o alawon Cymreig heb eu cyhoeddi a oedd yn cynnwys ‘Glan Rhondda’.
Gofynnodd y beirniad, John Owen (Owain Alaw), am ganiatâd i’w chynnwys yn ei gyfrol, ‘Gems of Welsh Melody’, a dyma pryd y cafodd ei galw’n ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ am y tro cyntaf.
Yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1874, daeth y gân yn enwocach byth pan gafodd ei chanu gan Robert Rees (Eos Morlais), un o brif unawdwyr Cymraeg y cyfnod. O dipyn i beth, roedd yn cael ei chanu mewn cynulliadau gwladgarol ac yn raddol datblygodd yn anthem genedlaethol er mai'r anthem swyddogol ar y pryd oedd ‘God Bless the Prince of Wales’.
‘Hen Wlad Fy Nhadau’ oedd un o'r caneuon cyntaf i'w recordio yn Gymraeg pan ganodd Madge Breese y gân i'r Gramophone Company yn 1899.
Er nad oedd ‘Hen Wlad fy Nhadau’ yn cael ei chydnabod fel anthem genedlaethol ar y pryd, fe’i perfformiwyd ar ddechrau gêm rygbi Cymru yn erbyn Seland Newydd yng Nghaerdydd yn 1905. Dechreuodd y Crysau Duon berfformio’r Haka ac fel ymateb arweiniodd chwaraewyr Cymru'r dorf i ganu ‘Hen Wlad fy Nhadau’. Yn amlwg, fe weithiodd hyn, gan i Gymru ennill 3-0.
Ym 1977 cynhaliodd tîm pêl-droed Cymru brotest yn eu gêm yn erbyn Lloegr yn Wembley pan wrthododd Cymdeithas Pêl-droed Lloegr ganiatâd i ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ gael ei chwarae cyn y gêm. Penderfynodd y tîm ei chanu eu hunain, gan wrthod dechrau'r gêm nes eu bod wedi gorffen.
Y flwyddyn ganlynol recordiodd Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr fersiwn offerynnol y gitarydd Robert ‘Tich’ Gwilym ar yr albwm ‘Hen Wlad fy Nhadau’.
Mae deisebau i wneud y gân yn anthem genedlaethol swyddogol i Gymru yn cael eu cyflwyno i’r Senedd yn achlysurol. Y tro diwethaf, yn 2014, cododd deiseb ar-lein ddigon o enwau i fynnu dadl ond daethpwyd i'r casgliad nad oedd yn "ddatblygiad posibl ar hyn o bryd'".
Mae ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ wedi’i addasu i anthemau Cernyw (‘Bro Goth agan Tasow’), Llydaw (‘Bro Gozh ma Zadoù’) a'r Wladfa (‘Gwlad Newydd y Cymry’), gyda’r addasiadau hyn yn rhannu'r un dôn a geiriau tebyg.