Cyhoeddi 2024- lluniau o bobl ar y stryd yn Aberdar yn Gorymdeithio drwy'r dref.

Ddydd Sadwrn 17 Mai, byddwn yn dathlu fod yr Eisteddfod yn dod i ardal y Garreg Las o 1-8 Awst 2026, gyda digwyddiad arbennig yn Arberth.

Bydd yr orymdaith yn cynnwys ysgolion, grwpiau cymunedol, cymdeithasau lleol a Gorsedd Cymru, a bydd pawb yn ymgynnull yn y maes parcio y tu ôl i Neuadd y Frenhines er mwyn cychwyn am 10:00 ac yn gorymdeithio drwy’r dref cyn cynnal Seremoni’r Cyhoeddi ar lecyn glas Townsmoor, toc cyn 11:00. Bydd angen cyrraedd cefn Neuadd y Frenhines cyn 09:45 er mwyn eich gosod yn yr orymdaith. Parciwch ym
maes parcio’r ysgol gynradd a cherddwch draw i gefn Neuadd y Frenhines.

Rydyn ni’n eich gwahodd chi i ddod â chynrychiolaeth o’r ysgol i ymuno â’r orymdaith, er mwyn dangos eich cefnogaeth i’r Eisteddfod. Bydd gennym griw o stiwardiaid yn goruchwylio’r orymdaith, ond bydd angen i chi sicrhau bod oedolion ar gael i gerdded gyda’r plant yn ystod yr orymdaith.

Mae’r Eisteddfod yn ŵyl liwgar a chyfeillgar, ac rydyn ni am i’n gorymdaith adlewyrchu hynny, ac felly rydyn ni’n annog grwpiau i baratoi baneri i’w cario wrth gerdded.

Cysylltwch os fyddech chi’n hoffi i un o’r tîm alw draw i sgwrsio gyda'ch grwp, ysgol neu gymdeithas am y Cyhoeddi neu’r Eisteddfod.  Ebostiwch ni am ragor o fanylion, lowri@eisteddfod.cymru.

Cofrestrwch i gymryd rhan yn yr orymdaith yma. 

Yn ogystal â'r Cyhoeddi, cynhelir Eisteddfod Llandudoch, ddydd Sadwrn 17 Mai, a byddwn wedi gorffen yn Arberth mewn da bryd i bawb fynd draw i gefnogi'r eisteddfod yn lleol.

Logos eisteddfod 2026, menter iaith sir benfro, menter gorllewin sir gar a cered ar gefndir gwyn