Gwyn Anwyl
Mae Gwyn Anwyl, Ynys Môn, yn un o ffanfferwyr yr Orsedd, ac yn chwarae rhan allweddol ym mhob un o seremonïau’r Orsedd er 2021. Mae’n bennaeth cynorthwyol yn Ysgol Syr Thomas Jones. Mae’n aelod o Seindorf Beaumaris ac yn cystadlu’n gyson gyda’r band, gan gynnwys yn yr Eisteddfod; yn ogystal mae Gwyn yn aelod o barti Hogia Llanbobman sydd hefyd yn cystadlu’n gyson.
Geraint Cynan
Mae Geraint Cynan, Caerdydd, wedi cyfrannu i ddiwylliant cerddorol Cymru ers bron i hanner canrif, fel aelod o lu o fandiau, yn gyfansoddwr a threfnydd alawon gwerin, cyfoes a chlasurol, yn gyfarwyddwr cerdd i gwmnïau theatr, ac yn drefnydd cerdd i rai o’n rhaglenni teledu mwyaf poblogaidd. Mae ei gyfraniad heb os wedi codi safon cerddoriaeth Cymru ac wedi symud ein diwylliant cerddorol yn ei flaen yn gyffredinol. Rydym yn falch o gael ei anrhydeddu yn yr Eisteddfod eleni.
Gareth William Jones
Rhoddodd Gareth William Jones, Bow Street, oes o wasanaeth clodwiw i fyd addysg, fel athro drama, swyddog gweithgareddau diwylliannol gwasanaeth Llyfrgell Dyfed, a darlithio yn Adran Gymraeg Coleg y Drindod, Caerfyrddin. Ysgrifennodd ddeg o nofelau i blant. Bu hefyd yn arwain cwmni drama llewyrchus yn Rhydypennau am flynyddoedd. Ers ymddeol, mae wedi ymroi’n wirfoddol a diflino i gymdeithasau a mudiadau llenyddol a diwylliannol Gogledd Ceredigion ac i bapur bro ‘Y Tincer’. Mae’i gyfraniad a’i weithgarwch yn cael ei werthfawrogi gan ystod eang o oedrannau ac yn hybu sawl agwedd ar y Gymraeg a Chymreictod yn lleol ac yn genedlaethol.
Mark Lewis Jones
Yn wreiddiol o Rosllannerchrugog, mae Mark Lewis Jones, Caerdydd, yn un o’n hactorion blaenaf, sydd â’i wreiddiau’n ddwfn ym mro ei febyd. Mae wedi ymddangos mewn llu o gyfresi megis ‘Un Bore Mercher’, ‘Dal y Mellt’, ‘The Crown’, ‘Game of Thrones’ ac mae hefyd yn adnabyddus am ei rolau mewn ffilmiau mawr fel ‘Star Wars: Episode VIII’ a ‘The Far Side of the World’. Yn ddiweddar, bu’n rhan amlwg o brosiectau i gofio 90 mlynedd ers Trychineb Gresffordd, sy’n rhan o hanes glofaol yr ardal.
Mared Lewis
Mae Mared Lewis, Ynys Môn, wedi ac yn parhau i roi gwasanaeth diwyd i’w hardal, i Gymru, y Gymraeg a’n diwylliant ers blynyddoedd. Yn awdur saith o nofelau i oedolion, mae hi hefyd wedi cyfrannu sawl nofel ar gyfer dysgwyr fel rhan o’r gyfres ‘Amdani’. Mae’n weithgar gyda’r papur bro lleol, ‘Papur Menai’ a chydag Eisteddfod Môn. Yn wir, mae’n aelod o Orsedd Beirdd Ynys Môn, a hefyd yn diwtor poblogaidd sy’n dysgu Cymraeg i oedolion yn lleol. Braf yw ei chroesawu i’r Orsedd eleni.
John Morgans
Mae John Morgans wedi cyfrannu’n helaeth i fywyd ecwmenaidd eglwysi Cymru drwy ei weinidogaeth gyfoethog, yn arbennig yng nghymuned Pen-rhys yn y Rhondda. Mae’n gredwr cryf mewn cyfiawnder cymdeithasol, a bu’n weithgar iawn ymhlith cymunedau cymoedd de Cymru yn ystod streic y glowyr. Pan oedd yn gymedrolwr i’r Eglwys Unedig Ddiwygiedig yng Nghymru, penderfynodd y teulu symud o’u cartref yng Nghaerdydd i dŷ cyngor ar ystâd Pen-rhys, er mwyn cefnogi’r gweinidog, a phan y’i penodwyd yn weinidog, aeth ati gyda’i wraig, Norah, i sefydlu Eglwys Unedig Llanfair. Mae wedi dysgu’r Gymraeg ac yn gefnogol i bob math o weithgareddau celfyddydol Cymraeg. Mae ei lyfr newydd sy’n cofnodi stori Penrhys yn cael ei gyfieithu i’r Gymraeg, ’Penrhys - y pentre ar y Bryn’.
Elen Mai Nefydd
Mae cyfraniad Elen Mai Nefydd, Wrecsam, ym maes addysg uwch dros y chwarter canrif ddiwethaf wedi bod yn un hollbwysig i ardal Wrecsam, ar y cychwyn fel arweinydd yr Adran Theatr, Teledu a Pherfformio ym Mhrifysgol Wrecsam, cyn ei phenodi’n Bennaeth Darpariaeth y Gymraeg yno. Derbyniodd wobr cyfraniad eithriadol i addysg uwch cyfrwng Cymraeg gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol y llynedd. Balchder mawr i Elen Mai yw iddi gael ei hethol yn Is-gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025 gan arwain ar yr elfen ddiwylliannol, ac mae’n angerddol am ddenu cynulleidfaoedd newydd i’r Gymraeg a’r Eisteddfod.
Ann Parry Owen
Mae’r Athro Ann Parry Owen, Aberystwyth, yn academydd o’r radd flaenaf sy’n arbenigo ar iaith, gramadeg a barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. A hithau wedi derbyn ei haddysg uwchradd yn Llangollen, mae’n gweithio bellach yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ac wedi cyfrannu’n helaeth at nifer fawr o brosiectau ymchwil dros y blynyddoedd; mae hi hefyd yn olygydd hŷn gyda Geiriadur Prifysgol Cymru. Yn ogystal ag arwain timoedd ymchwil dros y blynyddoedd, bu’n gyfrifol am feithrin ysgolheigion ifanc a thrwy hynny gyfrannu’n sylweddol at ddatblygiad y Gymraeg fel disgyblaeth academaidd. Mae hefyd yn brif olygydd y cylchgrawn ‘Studia Celtica’ ac yn aelod o banel Comisiynydd y Gymraeg ar enwau lleoedd.
Hywel Wyn Owen
Mae’r Athro Emeritws Hywel Wyn Owen, Llandegfan, yn adnabyddus fel arbenigwr ar enwau lleoedd Cymru. Yn wreiddiol o Benbedw, bu’n athro Lladin a Saesneg yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, cyn symud i hyfforddi athrawon yn y Coleg Normal ym Mangor. Sefydlodd Ganolfan Ymchwil Enwau Lleoedd yn y brifysgol lle cafodd ei benodi’n gyfarwyddwr a dyfarnu cadair bersonol iddo. Yno roedd yn gyfrifol am y gwaith o ddigido Archif Melville Richards, un o drysorau’n cenedl bellach. Bu’n llywydd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, y Society for Name Studies in Britain and Ireland a’r English Place-Name Society, ac mae’n aelod o banel Comisiynydd y Gymraeg ar enwau lleoedd. Mae’n dal i gyfrannu at ddigwyddiadau cymunedol a chenedlaethol sy’n hyrwyddo enwau a Chymreictod.
Ceinwen Parry
Mae Ceinwen Parry, Treuddyn, Yr Wyddgrug, wedi ymroi’n llwyr i hyrwyddo ein hiaith a’n diwylliant mewn ardal sydd ond gwta ddeg milltir o’r ffin. Bu’n ysgrifennydd Eisteddfod Gadeiriol Treuddyn ers 1985, ac er ceisio ymddeol ryw flwyddyn yn ôl, mae’n dal i wneud llawer o’r gwaith. Cefnogodd i’r eithaf bob achos da yn yr ardal ac yn enwedig wrth sicrhau cronfa ariannol addas o’r pentref wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol ddod i’r Wyddgrug ddwywaith a’r Urdd i Fflint yn 2017. Yn 2015 derbyniodd dystysgrif anrhydeddus Cymdeithas Eisteddfodau Cymru. Pobl fel Ceinwen sy’n sicrhau bod yr iaith Gymraeg i’w chlywed o hyd yn yr ardal hon; yn sicr mae’n llawn deilyngu cael ei hanrhydeddu gan yr Orsedd.
Shân Eleri Passmore
Rydym yn anrhydeddu Shân Eleri Passmore, Caerdydd, am ei gwasanaeth ym myd yr eisteddfodau mawr a mân dros gyfnod maith. Cyn symud i Gaerdydd yn 1981, bu Shân yn ysgrifennydd Eisteddfod Gadeiriol Maenclochog am sawl blwyddyn. Bu Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yn ffodus iawn o’i chael hi’n Swyddog Datblygu am gyfnod, a bu’n gweithio hefyd i’r Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Yn fwy diweddar bu Shân yn gymorth mawr wrth sefydlu eisteddfod gadeiriol newydd yng Nghaerdydd, a ddatblygodd yn ddigwyddiad llwyddiannus bellach, a hi sydd wedi paratoi cadair yr eisteddfod honno dros y tair blynedd diwethaf.
Dilwyn Price
Mae Dilwyn Price, Hen Golwyn, yn adnabyddus i genedlaethau o blant Cymru fel arweinydd byrlymus a heintus Jamborîs yr Urdd. Mae wedi cyfrannu yn helaeth i fyd addysg yn y Gogledd. Bu’n weithgar yn hyfforddi plant ac ieuenctid yn yr ysgolion, a hefyd wedi arwain Adran ac Aelwyd yr Urdd yn Abergele. Yn gerddor amryddawn, mae’n arweinydd ar gôr cymysg, Côr Alaw, Bae Colwyn. Mae hefyd yn arweinydd Cymanfaoedd, yng Nghymru a’r tu hwnt, gan dderbyn gwahoddiadau i arwain Cymanfaoedd yn Taranaki, Seland Newydd, a Melbourne, Awstralia. Mae’n gymeriad egnïol a brwdfrydig sydd wedi ysbrydoli llu o blant ac ieuenctid Cymru, am bron i hanner canrif. Derbyniodd Dlws John a Ceridwen Hughes yn Eisteddfod yr Urdd, Caerffili 2015.
Rhys Roberts
’Does neb fel Rhys Roberts, Blaenau Ffestiniog am hyrwyddo ac atgyfnerthu’r celfyddydau ymysg pobl ifanc yn ei gymuned leol. Mae’n gweithio’n galed ac yn aml yn wirfoddol i sicrhau fod pobl ifanc dosbarth gweithiol yn cael cyfleoedd i ddatblygu sgiliau o fewn y celfyddydau, gan gynnwys cerddoriaeth, creu ffilmiau, trefnu gigs a digwyddiadau celfyddydol. Mae’r plant sy’n dod drwy raglenni Rhys yn cael eu hymbweru i deimlo balchder yn eu bro, ac mae’n cynnig cefnogaeth a chyfeiriad iddynt – ac yn credu yn eu potensial nhw. Mae hefyd yn aelod o’r band, Anweledig, sydd wedi ail-ffurfio i chwarae yn yr Eisteddfod eleni.
Jessica Robinson
Graddiodd y soprano, Jessica Robinson, Crymych, o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf, rhagoriaeth yn ei MA Perfformio Opera a derbyniodd wobr goffa Aneurin Davies, gwobr Mansel Thomas, Gwobr Margaret Tann, a gwobr Soprano Elias. Hi hefyd oedd y cynrychiolydd cyntaf i gyrraedd rownd derfynol Canwr y Byd am 20 mlynedd a’r Gymraes gyntaf yn hanes y gystadleuaeth. Bu'n eisteddfodwraig i'r carn mewn cystadlaethau llefaru a cherdd ers yn ifanc iawn, a llwyddo yng nghystadlaethau Eisteddfodau’r Genedlaethol a'r Urdd. Bu hefyd yn aelod o’r CFfI am flynyddoedd, yn cystadlu’n lleol a chenedlaethol, ac mae’n bachu ar bob cyfle i hyrwyddo ein hiaith a’n diwylliant.
Stephen Owen Rule
Efallai fod Stephen Rule, Coed-llai, Sir y Fflint, yn fwy adnabyddus fel ei bersona digidol, y Doctor Cymraeg. Mae ganddo dros 80 o filoedd yn dilyn ei gyfrif Instagram ac mae pob un o’i ffilmiau’n amlygu ei angerdd dros y Gymraeg a’i awydd diflino i’w hyrwyddo. Yn athro Cymraeg (ail iaith) wrth ei alwedigaeth, mae’n cynnig cyngor a chefnogaeth i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg di-hyder ar draws y byd gyda’i frwdfrydedd heintus a’i ddealltwriaeth o darddiad enwau, ystyron dywediadau, y treigliadau, gramadeg a chystrawen. Mae’n un o’r cyfathrebwyr gorau dros ein hiaith a’n diwylliant, ac mae’n braf ei anrhydeddu gan yr Orsedd yn Eisteddfod Wrecsam eleni.
Dylan Williams
Mae ymroddiad Dylan Williams, Caernarfon, i addysgu, ysbrydoli a denu diddordeb ym myd cerddoriaeth yn uchel iawn, yn arbennig ymhlith bechgyn ifanc. Mae’n credu’n gryf mewn rhoi cyfle i bob plentyn dderbyn gwersi offerynnol ac yn pwysleisio fod cerddoriaeth i fod yn hwyl i bawb! Mae wedi addysgu cannoedd o blant yn ysgolion rhanbarth Caernarfon dros y blynyddoedd, yn arwain band iau y rhanbarth, band Pres Hŷn Gwynedd a Môn, ac wedi cael llwyddiannau mawr gyda bandiau Ysgol Brynrefail, Ysgol Syr Hugh Owen ac Ysgol Bontnewydd. Mae hefyd yn brif gornedydd Seindorf Arian Deiniolen, sy’n gystadleuwyr brwd bob blwyddyn.