Ddiwedd 2015, cyhoeddwyd y byddai’r Eisteddfod yn cyflwyno Pafiliwn newydd ar y Maes o 2016 ymlaen. Cafodd gryn sylw yn y wasg a’r cyfryngau, yn enwedig gan ei fod yn cymryd lle un o’r pafiliynau mwyaf eiconig yn hanes yr Eisteddfod, y Pafiliwn Pinc.
Bu’r Pafiliwn Pinc yn rhan annatod o orwel y Maes am ddegawd gyfan, ond wrth edrych yn ôl ar hanes y pafiliynau yng nghyfnod cynnar yr Eisteddfod fodern, mae’n amlwg bod gan yr Eisteddfod bafiliwn gwahanol bob blwyddyn.
Erbyn hyn, mae’r Pafiliwn yn symbol eiconig o’r Eisteddfod Genedlaethol ac wedi hen ennill ei blwyf fel rhan annatod o’r Maes a diwylliant Cymru. Yn 1861, adeg yr Eisteddfod gyntaf ar ei ffurf bresennol, roedd hanes y Pafiliwn dipyn yn fwy cyffrous, fel yr adroddwyd ym Maner ac Amserau Cymru ar 28 Awst y flwyddyn honno:
“…yn ddisymmwth, cododd yn wynt ystormus tua chanol dydd, dydd Sabbath, a chwythwyd y deyrnbabell i lawr yn chwilfriw. Yr oedd y fath ddigwyddiad mor agos i ddydd yr eisteddfod yn ddigon i wangaloni y galon ddewraf; ond yn lle pendroni uwchben y galanastra, penderfynodd y dewrddyn awenyddol, Alaw Goch, a’r pwyllgor, i fyned ynghyd â chyfaddasu y Marchnad-dŷ i gynnal yr eisteddfod ynddi: a phan ystyriom yr amser bychan oedd ganddynt tuag at gyflawni y fath orchwyl aruthrol, y mae’n hynod ei fod gystal.”
Ac fe gafodd pafiliynau’r Eisteddfod gryn sylw gan y wasg dros y blynyddoedd canlynol, gyda disgrifiadau manwl a diddorol o’r adeiladau hynod yma a fyddai’n wahanol bob blwyddyn – yn bebyll ac yn adeiladau pren – roedd cynllun y Pafiliwn yn un o gyfrifoldebau’r pwyllgorau lleol a oedd yn trefnu’r Eisteddfod ei hun.
Yn 1868, mae’r North Wales Chronicle yn disgrifio Pafiliwn y flwyddyn honno yn Rhuthun, gan nodi, “The Pavilion was a very substantial structure, and admirably adapted for the purpose for which it was intended. In form it was not unlike a church, with a broad lofty nave, and aisles on each side, a large platform and raised seats behind for the choir occupying the east end. It was 156 feet long by 110 feet wide, and capable of comfortably accommodating an assemblage of 5000. So far as the builder, Mr Jones of Rhyl, is concerned, he deserves every credit for his share in the work. The decoration, however, was meagre. The timber rafters afforded a good opportunity for display, but beyond a few lines of evergreens, very little was attempted.”
Porthmadog oedd cartref y Brifwyl yn 1872, ac mae’n amlwg bod rhai problemau wedi codi gyda safle’r Pafiliwn yn ystod yr wythnosau cyn yr Eisteddfod. A hen elyn oesol yr Eisteddfod oedd ar fai yma – y tywydd. Meddai’r North Wales Chronicle, “The first tent was raised in a somewhat exposed situation, and on a damp site; but a storm which took place about two weeks ago made it evident that its position was not the very best which could be chosen, and like men of business the committee decided to move it at once to its present position, though that change cost them something like £30. We highly congratulate them on their good sense, for the site previously fixed upon was one of the most objectionable that could have been chosen, its recommendation being that it was a compromise between the advocates respectively of Portmadoc and Tremadoc as the site of the eisteddfod.”
Felly, ‘doedd dim dianc rhag yr elfennau hyd yn oed yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a hyd heddiw, mae trefnwyr yr Eisteddfod yn gobeithio am dywydd sych a braf ddiwedd Gorffennaf, wrth i’r trefniadau ymarferol gael eu cwblhau, ac yn ystod yr wythnos ei hun ar ddechrau Awst.
Roedd y tywydd yn poeni gohebydd y Western Mail ar 3 Medi 1888, wrth edrych ymlaen at yr Eisteddfod yn Wrecsam y flwyddyn honno. Dywed yr adroddiad, “In the evenings, the pavilion will be lighted with gas. The structure seems to be a substantial one, and likely to protect the audience if the weather should be unfavourable. I do not like to prophecy too positively on matters of that kind. I did so once – at Denbigh – and my prophecy was not verified for the rain came in and deluged, especially the reporters’ quarters. Better things are hoped for here, and it is whispered that as an extra precaution, an old gentleman who takes great interest in the proceedings has been praying for fine weather, but I cannot vouch for the truth of the assertion.”
Mae disgifiad y papur o’r Pafiliwn ei hun, gan ‘Our Special Reporter’ yn arbennig o ddiddorol ac yn rhoi darlun clir i ni o sut y byddai’r adeilad yn edrych, ac roedd hwn yn amlwg yn wahanol iawn i bafiliwn Eisteddfod Rhuthun ugain mlynedd ynghynt. “The pavilion in which the eisteddfod is to be held is a really magnificent structure erected in the Grove Park at a cost of about £600. It is of circular form with a semi-circular wooden roof over the platform and reserved seats. It is, I am informed, expected to hold between 7000 and 9000, and a very striking feature of the preliminaries is the fact that nearly the whole of the 700 reserved seats have already been booked.”
Mae’n werth dyfynnu’r paragraff nesaf o’r adroddiad yn ogystal, gan ei fod, nid yn unig yn ddisgrifiad o’r hyn a oedd i’w weld yn y Pafiliwn, ond hefyd yn enghraifft arbennig o arddull newyddiadurol chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg:
“The pavilion is decorated with mottoes, and the ‘Cof am a fu’ tablets are fixed one on each side of the platform. To the left is ‘Adgof uwch Anghof’ – Beirdd Eisteddfod Gwrecsam 1876 (the bards of the Wrexham National Eisteddfod of 1876), ‘Ceiriog’, ‘Mynyddog’, Andreas o Fon’, Owen Gethin Jones, ‘Tegerin’, ‘Taliesin o Eifion’, ‘Ioan Pedr’, ‘Y Thesbiad’, ‘Y Gohebydd’ – a formidable list of bards and literati who were present at the last gathering in this town, but who have since passed through the valley of the shadows to the bourne whence no traveller returns.”
Bangor oedd cartref yr Eisteddfod yn 1890 ac mae gan Y Genedl Gymreig adroddiad hir am y Pafiliwn yn eu rhifyn ar 27 Awst y flwyddyn honno. Roedd yr Eisteddfod wed’i chynnal ym Mangor yn 1874, ac roedd pwyllgor y Brifwyl yn 1890 wedi dilyn yr un cynllun ar gyfer y Pafiliwn, “nas gallasent wneuthur dim yn well na mabwysiadu yr hen gynlluniau a’u heangu.”
“Perthyn i’r adeilad y fath ragoriaethau fel nas gallwn roddi canmoliaeth ormodol iddo ef a’r adeiladydd poblogaidd, Mr Evan Williams, Garth, yr hwn sydd wedi gwneyd gwaith nas gellid ei deilyngach. Pan y dywedwn fod y babell yn 180 troedfedd o hyd a 160 o led, gwelir ei bod bron yn ysgwar. Amcangyfrifir fod ynddi le i 7500 o bersonau mewn oed neu 8000 o gynulleidfa gymysg eistedd yn gysurus. Y mae prif span y to yn 90 troedfedd o hyd, tra mae spans y ddwy ochr yn 35 troedfedd yr un. Amhosibl fyddai cael llwyfan ar well cynllun; a chredwn mai barn pawb a welant y modd gorphenedig mae y rhan hwn o’r adeilad wedi ei gario allan fydd mai gresyn fydd ei ddymchwelyd wedi yr elo yr Eisteddfod trosodd.”
Ond ei ddymchwel a gafodd y pafiliwn, ac ymlaen yr aeth taith yr Eisteddfod, a oedd erbyn hyn wedi ymgynefino gyda’r patrwm o ymweld â’r gogledd a’r de bob yn ail. Abertawe oedd cartref y Brifwyl y flwyddyn ganlynol yn 1891, a bu hon yn Eisteddfod gythryblus tu hwnt am nifer o resymau. Cawn glywed am un o’r rheini a fu’n gyfrifol am ‘y twrw, yr helbul a’r terfysg’, sef y glöwyr, mewn erthygl arall, ond roedd yr elfennau – y tywydd – yn cael y bai am ran helaeth o broblemau yr Eisteddfod y flwyddyn honno.
Mae Y Genedl Gymreig, 26 Awst 1891, yn adrodd yr hanes, “Yr oedd yr elfenau fel pe wedi ymgynghreirio ynghyd i gadw pobl draw o’r cyfarfodydd, ac i ddinystrio eu clydwch a’u cysur wedi iddynt dd’od. Yr oedd y gwynt a’r glaw megus wedi penderfynu gwneyd sport o’r babell. Fe ddichon nad oedd y babell lawn can gadarnhad ag y dylasai fod. Ond rywfodd, pan godir adeilad nad oes ond wythnos o bridles arno, fe geisir ei wneyd yn y modd rhataf. Yr un ydyw y natur ddynol yn Abertawe ac yn rhywle arall. Cydymdeimlwn o eigion calon â’r pwyllgor yn y brofedigaeth hon o’r eiddynt. Er eu mwyn hwy ac er mwyn yr Eisteddfod gofid nid bychan i ni oedd fod clerc y tywydd mor ddidostur. Torcalonus iawn oedd deall fod un foneddiges wedi syrthio yn aberth i gynddaredd yr elfenau.”
Mewn adroddiad arall, nododd Baner ac Amserau Cymru ar 26 Awst, 1891, “Chwerwder wermodaidd yw adgof ei diwrnod cyntaf; a sonir y rhawg am farwolaeth adfydus Mrs Matilda Williams, o Henffordd, pa bryd bynag y sonir am Eisteddfod Abertawe.”
‘Does dim mwy o fanylion na hyn yn y papurau, ond mae’n amlwg bod rhywbeth mawr wedi mynd o’i le gyda’r Pafiliwn y flwyddyn honno, a bod Mrs Matilda Williams wedi colli’i bywyd yn ystod yr wythnos. Ymhen dwy flynedd, roedd yr Eisteddfod wedi dychwelyd i’r de ac i dref Pontypridd, a hyn am y tro cyntaf yn hanes yr Eisteddfod fodern. Cymysg oedd ymateb Baner ac Amserau Cymru i’r pafiliwn a’r modd sut y’i adeiladwyd.
Meddai’r adroddiad, “Am y babell, yn mae genym air o ganmoliaeth, a gair o gondemniad hefyd, i’w ddywedyd ynglŷn â hi. Dyma y babell fwyaf a wnaed ar gyfer unrhyw Eisteddfod erioed. Nid ydyw Pafiliwn Caernarfon ond pitw bychanaidd o’r gyferbynu â chruglwyth anferth pabell Pont-y-pridd. Yr oedd ei gwneuthuriad yn gadarn. Daliai ddwfr hefyd; a da oedd hyny, pan y dechreuodd cerhyntoedd gwlaw ddisgyn arni. O bossibl, mai ei hanfantais fwyaf oedd ei mawredd. Gan ba feirniaid y mae cloch a fedrai gyrhaedd pen draw y fath adeilad? Ac i ba arweinydd erioed y rhoddwyd udgorn i beri clywed ei seiniau yn y fath eithafoedd? Nid ydyw hyd yn oed MABON ei hun yn ei feddu – na CHYNONFARDD chwaith , gyda’r holl lywodraeth ddihafal sydd ganddo ar ei lais. Ond y mae’n rhaid addef, ac y mae yn bleser genym wneyd hyny, fod hon yn babell ardderchog o ran gwneuthuriad a chyfleuderau, ac yn anrhydedd i’r pwyllgor, a’r eisteddfod. Ei mawredd, meddwn etto, oedd ei hanfantais.”
Ond rhaid cloi gyda’r paragraff hwn, o Faner ac Amserau Cymru unwaith eto:
“Yr ydym yn hyderus y bydd pwyllgorau adeiladu pebyll eisteddfodol y dyfodol yn wyliadwrus i wneyd un peth arall tyr anghofiodd pwyllgor Pont-y-pridd ei wneyd; sef gosod adran bendant yn eu cyttundeb yn gwahardd pob gweithio ar y Sabbath arnynt. Gan nad beth ydyw y syniad cyfandirol am sancteiddrwydd dydd Duw, ni ddieddy Cymru mo hono, beth bynag; ac os goddefir ef, y mae’n sicr o fod yn hoel yn arch yr hen sefydliad. Cymmered pwyllgor Llanelli afael yn yr awgrym hwn…”
Felly, gwahanol iawn oedd y pafiliynau mewn Eisteddfodau yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, rhai ohonynt yn bebyll ac eraill yn adeiladau digon swmpus, ond yr hen elyn – y tywydd – yn achosi problemau yn weddol reolaidd. Bryd hynny, byddai’r Pafiliwn yn dal hyd at 8,000 neu 9,000 o bobl ac yn ystod blynyddoedd cynnar yr ugenifed ganrif, tyfodd y Pafiliwn yn adeilad hyd yn oed mwy, er mwyn dal cynulleidfa a 12,000 – 15,000 a fyddai’n tyrru i’r Eisteddfod, yn enwedig pan oedd David Lloyd George yn Lywydd y Dydd ar ddydd Iau.