Sut i hyrwyddo defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg mewn cymunedau sydd â dwysedd is o siaradwyr Cymraeg.

 

Dewch i ddysgu mwy am CEFR (Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd) sydd wedi'i ddefnyddio ers blynyddoedd yn Ewrop ac yng Nghymru hefyd ym maes Cymraeg i oedolion.

Mae’r fframwaith yn sail i gyrsiau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a chymwysterau ‘Defnyddio’r Gymraeg’ CBAC. Yn awr mae Llywodraeth Cymru’n paratoi i ehangu defnydd o’r fframwaith i ddisgrifio gallu siaradwyr Cymraeg o bob oed, gan gynnwys yn y sector addysg ac mewn gweithleoedd.

Siaradwyr: Meinir Ebbsworth, Eleri Vaughan Roberts