Carafan yn cyrraedd y maes carafanau ac yn cael ei arwain i'r safle yn Eisteddfod 2023

Gadewch i ni wybod pryd rydych chi'n bwriadu cyrraedd y maes carafanau a gwersylla eleni.

Os ydych chi'n rhentu carafan gan rywun arall, nodwch pryd maen nhw'n bwriadu dod â'r garafan ar eich rhan. Gwnewch yn siwr fod gan y cyflenwr rif eich archeb a'ch rhif safle wrth gyrraedd, os gwelwch yn dda.

Mae Pontypridd yn dref brysur ar y gorau, a gall traffig fod yn broblem ar ddiwrnod arferol. 

Rydym am sicrhau nad ydym yn ychwanegu at y broblem, ac nad yw ein hymwelwyr yn cael trafferth cyrraedd y maes carafanau.

Rydym yn gofyn i garafanwyr anelu at gyrraedd Pontypridd rhwng 18:30 a 20:30, nos Iau neu nos Wener, rhwng 10:00 a 15:30 neu 18:30 a 20:30 ddydd Gwener neu rhwng 08:00 a 20:30 ddydd Sadwrn.

Os ydych chi'n byw yn lleol, byddai'n ein helpu ni'n fawr pe gallech chi ddod â'ch carafan ddydd Iau neu ddydd Gwener.

Cofiwch ddarllen ein Rheolau ac Amodau cyn cyrraedd.

Diolch am eich cydweithrediad.

 

Maes Carafanau - Rheolau ac Amodau 2024 Lawrlwytho