Iechyd meddwl dynion
**Rhybudd cynnwys: hunanladdiad ac iselder
Trafodaeth ar iechyd meddwl dynion gyda Leo Drayton, Iestyn Gwyn Jones, Cai Tomos ac Aled Edwards.
Mae trafodaethau agored trwy gyfrwng y Gymraeg am iechyd meddwl a chyflyrau gwahanol iechyd meddwl wedi dod yn llawer mwy cyffredin dros y ddegawd diwethaf. Fodd bynnag, mae trafodaethau penodol am iechyd meddwl dynion yn llai cyffredin, ac mae stigma am drafod gwahanol gyflyrau yn parhau.
Dyma, o bosib, y drafodaeth gyntaf o’i math ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n sgwrs onest a ffraeth yng nghwmni pedwar sydd wedi profi cyflyrau iechyd meddwl mewn gwahanol ffyrdd.