6 Awst 2023

Wrth lansio Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn swyddogol o lwyfan y Pafiliwn Mawr, cyhoeddodd Llywydd yr Ŵyl, Liz Saville Roberts AS bod y gronfa leol wedi pasio hanner miliwn, a hynny am y tro cyntaf erioed

Ar fore cyntaf yr Eisteddfod, roedd cyfanswm y gronfa wedi cyrraedd £503,610, gyda chymunedau ar draws Llŷn, Eifionydd ac Arfon wedi cyfrannu miloedd o bunnoedd drwy gynnal digwyddiadau a gweithgareddau, noddi gwobrau a thrwy godi ymwybyddiaeth lleol am yr ŵyl dros y blynyddoedd diwethaf.

Meddai Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Michael Strain, “Bedair blynedd yn ôl, fe gawson ni darged ariannol uchelgeisiol o £400,000 ar ddechrau’r prosiect.  Ac yna daeth COVID, gyda’r targed yn ymddangos yn bell o’i gyrraedd.

“Does gen i ddim byd ond parch ac edmygedd at ein holl wirfoddolwyr – o Abergwyngregyn i Aberdaron ac o Benrhyndeudraeth i Bontnewydd – am eu holl waith, eu hymroddiad a’u brwdfrydedd,  Roedden nhw’n benderfynol o gyrraedd y targed, ac fe ail-ddechreuodd y gweithgareddau i gyd ar ôl COVID.

“Rydw i’n grediniol fod y targed ac awydd ein trigolion lleol ar draws y dalgylch i gefnogi’r Eisteddfod wedi helpu i ail-agor Llŷn, Eifionydd ac Arfon yn dilyn y pandemig.  Fe ddaeth pobl yn ôl at ei gilydd.  Fe ail-ddechreuodd y cymdeithasu ac fe lifodd yr arian i mewn i goffrau ein gŵyl.

“Felly heddiw, mae’n bleser cyhoeddi ein cyfanswm - hyd yn hyn.  Ac mae’r arian yn dal i’n cyrraedd bron yn ddyddiol.  A galla i ddim ond diolch i bob un o’n gwirfoddolwyr, pawb sydd wedi trefnu neu ddod i ddigwyddiad - ac yn fwyaf oll i’n Pwyllgor Cronfa Leol, a Dafydd Rhun y cadeirydd am ein harwain at y fath lwyddiant.  Diolch o galon i bawb.”

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd tan 12 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.