Pedair
11 Awst 2023

Enillwyr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2023 yw Pedair am eu halbwm, Mae ‘Na Olau

Pedair yw prosiect diweddaraf criw o leisiau amlycaf canu gwerin Cymru – Siân James, Gwyneth Glyn, Gwenan Gibbard a Meinir Gwilym.

Gan blethu agweddau nodweddiadol ar eu harddulliau unigol, maent eisoes wedi profi eu hunain yn un o grwpiau mwyaf poblogaidd Cymru.

Ar eu halbwm cyntaf, Mae ‘Na Olau, mae harmonïau tyner yn cydblethu ag offeryniaeth gynnil wrth i’r pedwarawd gwerin gyflwyno alawon traddodiadol a gwreiddiol.

Heb os, gobaith yw un o brif themâu’r record hon, gyda Pedair yn ein hatgoffa trwy eu caneuon cynnil fod harddwch i’w ganfod ym mhob cornel o’n byd.

Mae pedwar aelod Pedair wedi cael wythnos brysur yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ymddangosodd y bedair ar y cyd yn y cyngerdd agoriadol, Y Curiad, gyda chôr gwerin yr ŵyl ddydd Sadwrn diwethaf.

Ers hynny maent wedi ymddangos mewn gwahanol bafiliynau a llwyfannau ledled y Maes naill ai gyda'i gilydd neu'n unigol.

Derbyniodd yr enillwyr dlws a gomisiynwyd yn arbennig.

Mae'r wobr, a drefnir gan yr Eisteddfod Genedlaethol a BBC Radio Cymru, yn dathlu'r cymysgedd eclectig o gerddoriaeth Gymraeg a recordiwyd ac a ryddhawyd yn ystod y flwyddyn.

Enwebwyd naw band ac artist gan gynnwys Adwaith, Cerys Hafana a Fleur de Lys ar gyfer y wobr.

Eisteddodd panel o feirniaid, gan gynnwys Iwan Teifion Davies, Marged Siôn, Gwenno Roberts, Mirain Iwerydd, Dom James, Dafydd Hughes ac Aneirin Jones, i gyd i wrando ar yr albyms cyn pleidleisio am eu ffefryn.