Mae un o wobrau mwyaf arwyddocaol yr Eisteddfod Genedlaethol yn dathlu pen-blwydd nodedig yn yr Eisteddfod eleni
Bydd cantorion yn cystadlu am Wobr Goffa David Ellis ddydd Sadwrn, 12 Awst am 15:45.
Fe'i gelwir hefyd yn gystadleuaeth y Rhuban Glas i unawdwyr dros 25 oed ac fe'i dyfarnwyd gyntaf 80 mlynedd yn ôl pan lwyfannwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor.
Roedd David Ellis yn ddyn busnes yn ardal Wrecsam ac roedd hefyd yn denor o fri ac yn arweinydd sawl côr.
Am dair blynedd bu'n aelod o'r Wales Costume Choir ac enillodd lawer o wobrau mewn eisteddfodau lleol. Enillodd David Ellis hefyd yr unawd tenor yn yr Eisteddfod Genedlaethol dair gwaith ac ymddangosodd yng nghyngherddau’r Eisteddfod dim llai nag 16 o weithiau.
Astudiodd yn yr Academi Gerdd Frenhinol a chanu yn y Royal Albert Hall a lleoliadau mawreddog eraill.
Disgrifiwyd David Ellis fel "dyn o natur swynol, cryfder mawr ei gymeriad ac o ffyddlondeb aruthrol mewn cyfeillgarwch".
Bu farw ym Mai 1941 yn 68 oed a’r flwyddyn ganlynol sefydlwyd cronfa yn ardal Wrecsam gan Maurice Evans, Crwner Dwyrain Sir Ddinbych i goffau David Ellis. Y gobaith oedd codi digon o arian i ddarparu gwobr flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac o bosibl sefydlu ysgoloriaeth agored i gantorion Cymraeg yn y Coleg Cerdd Brenhinol.
Fe'i dyfarnwyd gyntaf yn 1943 i'r soprano Megan Thomas o Lanelli.
Ers hynny mae Gwobr Goffa David Ellis wedi rhoi uchafbwynt blynyddol teilwng i’r Eisteddfod Genedlaethol.
Mae panel o feirniaid yn dewis pedwar cystadleuydd o blith cystadlaethau soprano, mezzo-soprano, tenor a bariton yn ystod yr Eisteddfod.
Bydd y cantorion yn canu’r darn gosod o’u cystadleuaeth unigol a hunan-ddewisiad o ddarn gan gyfansoddwr Cymreig.
Mae’r enillwyr wedi cynnwys nifer a ddaeth yn adnabyddus ac a aeth ymlaen i gael gyrfaoedd canu llwyddiannus.
Maen nhw’n cynnwys Ritchie Thomas, Penmachno, Stuart Burrows, Pontypridd a David (Dai) Jones, Llanilar.
Mae Rhys Meirion, un o denoriaid mwyaf poblogaidd Cymru, yn dweud mai'r Eisteddfod Genedlaethol sy'n gyfrifol am ei yrfa. Ar ôl ennill y Rhuban Glas ym Mro Dinefwr (Llandeilo) yn 1996 rhoddodd y gorau i'w swydd fel prifathro er mwyn dilyn gyrfa ym myd opera.
“Roedd pobl yn dod ata i ac yn dweud, ‘ydych chi wedi ystyried gyrfa fel canwr proffesiynol. Dyna pryd y plannwyd yr hedyn gyntaf,” meddai.
Er ei fod yn briod gyda babi ifanc enillodd le yn Ysgol Gerdd a Drama'r Guildhall yn Llundain. Ers graddio mae Rhys wedi perfformio yn Nhŷ Opera Sydney a thai opera blaenllaw eraill. Roedd perfformio Deuawd y Pysgotwyr Perlau yn y Royal Albert Hall gyda’i ffrind Bryn Terfel cyn-filwr arall yn yr Eisteddfod yn uchafbwynt mawr arall. Bydd yn ôl ar y Maes eleni ond fel beirniad y tro hwn.
Cantorion adnabyddus eraill sydd wedi ennill y wobr yw Marian Roberts, Brynsiencyn, Tom Evans, Gwanas, Dolgellau; Shân Cothi, Ffarmers; John Eifion Jones, Caernarfon; Aled Wyn Davies, Llanbrynmair; Eleri Owen Edwards, Llanymddyfri a Kees Huysmans, Llandysul.
Mwy o fanylion am Eisteddfod Genedlaethol 2023 ar-lein yn eisteddfod.cymru