Dathlu cystadleuaeth Llwyd o'r Bryn
12 Awst 2023

Am y tro cyntaf bydd pob cyn-enillydd Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn yn cael gwahoddiad i fod yn rhan o seremoni cyflwyno'r fedal ar ddydd Sadwrn olaf yr Eisteddfod

Yr un diwrnod  bydd Sesiwn Goffa Llwyd o'r Bryn yn y Babell Lên.

Roedd gan Llwyd o'r Bryn, neu Robert Lloyd i roi ei enw'n llawn, y ddawn i adrodd stori ar lafar ac mewn llyfr. Am y rhan fwyaf o'i oes bu'n arweinydd a beirniad mewn llu o eisteddfodau yng ngogledd a chanolbarth Cymru. Bu'n un o hyrwyddwyr Eisteddfod gyntaf Urdd Gobaith Cymru yng Nghorwen yn 1929 a rhwng 1938 ac 1950, ef oedd arweinydd ffraeth Parti Tai'r Felin gyda Robert Roberts (Bob Tai'r Felin) a'u cyfeillion bu'n cynnal cyngherddau trwy Gymru a chyda chymdeithasau Cymraeg yn Lloegr.

Fe'i ganwyd yn Llandderfel ger Y Bala yn 1888 ac fe'i bedyddiwyd gan y Parch Michael D Jones. Wedi priodi ag Annie bu'n ffermio Derwgoed nes ymddeol yn 1944.

Sefydlwyd y wobr am adrodd er cof am Robert (Bob) Lloyd yn Eisteddfod Genedlaethol 1963 a gynhaliwyd yn Llandudno. Roedd hyn tua deunaw mis ar ôl ei farwolaeth yn Rhagfyr 1961.

Yr enillydd cyntaf o'r wobr, ac yn wir yr ail hefyd, oedd Stewart Jones - Ifas y Tryc i rai o oedran arbennig. Ef oedd un o'r pedwar adroddwr sydd wedi cyflawni'r gamp o ennill y wobr nodedig hon fwy nag unwaith. Y rhai eraill yw Brian Owen o'r Groeslon ger Caernarfon (Y Drenewydd, 1965 ac Y Barri 1968) a Carwyn John o Fethel, Caernarfon (Casnewydd 2004 a Wrecsam 2011).

Yr unig ferch i ennill y wobr ddwywaith yw Siân Teifi, Cadeirydd Pwyllgor Llefaru Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023. Daeth i'r brig yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 1978 ac ailadrodd y gamp bedair blynedd yn ddiweddarach yn Abertawe.

Dywedodd ei bod yn cofio'r Pafiliwn mawr yng Nghaerdydd yn orlawn gan fod y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yr un prynhawn â'r Cadeirio.

"Ro’n i newydd gael fy mhen-blwydd yn 19 oed, ac roedd y lle'n llawn dop ac ro’n i’n nerfus iawn.

"Yn ddiddorol iawn, fe gyflwynais i ddetholiad o Pedair Sêr gan JJ Williams sy'n sôn am fagwraeth bachgen ifanc o Ben Llyn. Mae'n rhyfedd fel tasa'r cylch yn dod 'nôl eleni. Aled Gwyn oedd wedi ei ddewis, fe oedd yn fy nysgu, ac fe ddywedodd ar y pryd mai ei hoff lyfr yn y byd oedd Pedair Sêr a dyna pam ddewisodd y darn i mi’i gyflwyno," meddai.

Yn Abertawe roedd cystadleuaeth Llwyd o'r Bryn yn cael ei chynnal ar ddechrau noson o gystadlu ar y nos Sadwrn. Roedd yn uchafbwynt yr wythnos i lawer," ychwanegodd Siân.

Ers ei buddugoliaeth yn Abertawe mae Siân wedi cael y fraint o feirniadu’r gystadleuaeth ddeg gwaith ac wedi bod yn brif feirniad chwe gwaith. Mae hefyd wedi hyfforddi enillwyr fel Carwyn John a Carys Bowen gipiodd y wobr ym Môn yn 2017.

Wrth son am y dathliadau eleni dywedodd Siân ei bod yn gobeithio medru gwahodd y cyn-enillwyr i'r gystadleuaeth yn flynyddol o hyn ymlaen.

"Dwi'n gobeithio y gall hyn ddigwydd yn flynyddol er cof am Llwyd o'r Bryn. Eleni, Daniel Evans - un o gyn-enillwyr y wobr - fydd yn cael ei holi gan Ffion Dafis am ei fywyd a'i waith ym myd y gair llafar. Daniel yw Cyd-gyfarwyddwr Artistig newydd yr RSC Stratford," meddai.

Hefyd y prynhawn ‘ma, cynhelir Sesiwn Goffa Neli Boduan (Neli Williams) yn Cymdeithasau 1 am 15:00.  "Rhoddir Medal Goffa Llwyd o'r Bryn eleni gan y teulu er cof amdani, ac mae un o feirniaid yr Adran Lefaru - Siân Mair - yn gyn-ddisgybl iddi," meddai Siân.

Mae arfraffiad newydd a diwygiedig o gyfrol R Alun Evans ar Y Llwyd o’r Bryn wedi’i chyhoeddi yn barod ar gyfer yr Eisteddfod.  Bydd copïau ar gael i’w prynu o wefan yr Eisteddfod ddechrau’r wythnos, www.eisteddfod.cymru, neu maen nhw ar gael yn yr Hwb Gwybodaeth wrth ymyl y brif fynedfa ac yn sesiwn Cofio Neli Boduan brynhawn Sadwrn.