Michael Strain, cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd
Eryl Crump yn sgwrsio â Michael Strain - 12 Awst 2023

Roedd hi’n werth aros pedair blynedd i Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd gael ei chynnal oherwydd cafwyd yr “Eisteddfod roedden ni’n gobeithio ac yn gweddïo drosti,” meddai cadeirydd y pwyllgor gwaith

Gwahoddwyd yr Eisteddfod Genedlaethol i’r ardal yn swyddogol ym mis Tachwedd 2019 ac roedd i’w chynnal yn 2021. Ond ymyrrodd pandemig Covid-19 a gohiriwyd Eisteddfod Ceredigion 2020 ddwywaith gan wthio’r ŵyl yn Llyn ac Eifionydd ymhellach yn ôl.

Roedd yn caniatáu mwy o amser i godwyr arian gyrraedd y targed cychwynnol o £400,000 meddai Michael Strain, cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd. “Ond roedd yna adegau pan feddylion ni na fydden ni byth yn cyrraedd y targed hwnnw ac yn enwedig ar ôl iddo gael ei godi i £440,00. Ond mae pobl ar draws Llyn, Eifionydd ac Arfon wedi ymateb yn wych gan gyrraedd y targed hwnnw fisoedd lawer yn ôl ac ymchwyddo ymlaen a chodi hanner miliwn o bunnoedd ar ddechrau’r Eisteddfod gydag arian yn dal i ddod i mewn.”

Derbyniodd Mr Strain fod yr Eisteddfod wedi cael dechrau gwael gyda'r tywydd.

"Y tro diwethaf i'r Eisteddfod gael ei chynnal yn ardal Pwllheli oedd 1955 ac fe'i disgrifiwyd gan un papur newydd fel "Steddfod Pwll-haul", addasiad ar enw'r dref oherwydd y dyddiau di-ben-draw o heulwen y bu iddynt fwynhau.

“Ond er gwaethaf Storm Antoni fe wnaethon ni barcio mwy o geir ar y diwrnod soeglyd hwnnw na ar ddydd Llun heulog yn yr Eisteddfod ac roedd miloedd o bobl ar y Maes.

“Nid yw’r Eisteddfod wedi datgelu’r presenoldeb dyddiol ers sawl blwyddyn ond gallaf ddweud bod cyfarwyddwr cyllid yr Eisteddfod wedi bod yn gwenu ar ddiwedd pob diwrnod yr wythnos hon.

“Mae pobl wedi bod yn dod ata’ i a llongyfarch y criw cyfan – y pwyllgor gwaith, y gwirfoddolwyr, y cannoedd sydd wedi cyfrannu at lwyddiant yr Eisteddfod hon.

“Mae’r staff wedi bod yn gweithio oriau hir ers misoedd, ac yn gwneud llawer o ymdrech.

“Cydweithio yw'r Eisteddfod, a thrwy’r holl gydweithio yma fe fyddwn ni’n cyrraedd y Steddfod lwyddiannus sydd gyda ni.”

Uchafbwynt yr Eisteddfod i Michael Strain, cyfreithiwr sydd wedi ei leoli ym Mhwllheli, oedd y cyngerdd agoriadol, Y Curiad.

"Fe allen ni fod wedi llenwi'r pafiliwn mawr ddwywaith drosodd. Hyfryd oedd gweld y côr yn llenwi cefn y llwyfan a Pedair, pedwar cerddor proffesiynol, yn canu eu haddasiadau o ganeuon gwerin Cymreig. Fe ddechreuon ni'n uchel a dydy'r safon ddim wedi gostwng trwy gydol yr wythnos," meddai.

Roedd Michael Strain yn falch iawn o weld yr holl brif dlysau, gwobrau ac ysgoloriaethau a enillwyd yn ystod yr Eisteddfod.

Dywedodd: "Doedden ni ddim am gael y broblem o benderfynu beth i'w wneud pe bai'r Goron, y Fedal Ryddiaith neu'r Gadair wedi eu hatal. Roeddwn yn hynod o hapus i weld Alan Llwyd yn ennill y gadair.

“Treuliodd ei blentyndod yn Abersoch a mynychodd Ysgol Botwnnog sydd hefyd yn hen ysgol i mi.

"Roedd yn amlwg yn arwr i Emyr Pritchard, yr athro Cymraeg yn yr ysgol, oherwydd erbyn diwedd fy wythnos gyntaf ym Motwnnog roeddwn i'n gwybod lle'r oedd Alan Llwyd wedi eistedd. Roeddwn i'n gwybod ei fod wedi ysgrifennu ei ysgrif gyntaf erbyn iddo gyrraedd y hen drydydd dosbarth, blwyddyn naw fel mae'n cael ei hadnabod erbyn hyn, a thra roeddwn yn y chweched dosbarth eisteddais yn wynebu'r wal oedd â thudalen flaen Y Cymro gyda llun Alan Llwyd a stori o'r amser enillodd y Goron a'r Gadair yn 1976."

Mae’n gobeithio y bydd yr un brwdfrydedd tuag at Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd eb yn ymestyn i Eisteddfod Genedlaethol 2024 yn Rhondda Cynon Taf.

“Gŵyl deithiol yw’r Eisteddfod Genedlaethol yn ei hanfod ac mae hynny’n sylfaenol iddi. Bydd yr Eisteddfod yn ymweld â rhan wahanol iawn o Gymru’r flwyddyn nesaf ac yn cael ei chynnal mewn lleoliad hollol wahanol.

“Rwy’n dymuno’n dda iddi ac yn gobeithio y bydd pawb sydd wedi gwirfoddoli yn yr Eisteddfod hon yn mynd tua’r de fis Awst nesaf ac yn gwirfoddoli unwaith eto.