Am un noson yn unig, bydd Maes B, gŵyl gerddorol yr Eisteddfod Genedlaethol i bobl ifanc, yn cael ei thrawsnewid ar gyfer sioe theatraidd ymdrochol newydd sbon
Popeth ar y Ddaear yw’r comisiwn ysgrifennu dramâu cyntaf i bedwar dramodydd ifanc sy’n dod i’r amlwg – Marged Tudur, Mari Elen, Iestyn Tyne a Lauren Connelly. Maen nhw’n addo sioe bryfoclyd ac ysgytwol a fydd yn codi cwestiynau mawr am y dyfodol.
Dywedodd Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen fod y cynhyrchiad yn ffrwyth pedair blynedd o waith datblygu ac y bydd yn gwahodd cynulleidfa i gamu i fyd y dyfodol agos, lle mae trychineb trychinebus wedi boddi cymunedau.
Dywedodd y bydd ymwelwyr â Maes B yn dod ar draws Tom, sy'n aros i glywed a fydd yn derbyn lloches, ac Undeg, sydd angen gwneud penderfyniad drosti ei hun a'r babi yn ei bol. Mae hi’n noson olaf Malltwen ar y Ddaear – ac mae hi’n benderfynol o adael y byd mewn cyflwr gwell.
Bydd saith artist cyswllt ifanc yn cysgodi’r tîm artistig craidd, ynghyd ag ensemble o dros 100 o bobl ifanc ac artistiaid proffesiynol, a bydd cerddoriaeth fyw, wreiddiol gan HMS Morris.
Meddai Gethin Evans: “Mae’r perfformiad mawr hwn yn dod â grŵp o bobl ifanc hynod dalentog a thîm proffesiynol at ei gilydd, i syfrdanu’r dorf ym Maes B fel erioed o’r blaen.
"Fel Nia Morais, awdur Imrie, mae'r pedwar awdur yn rhan o genhedlaeth newydd o ddramodwyr ifanc yng Nghymru sy'n creu gwaith gwefreiddiol a gonest - ac sydd â digon i'w ddweud am y byd o'u safbwynt nhw."
Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol: "Dyma'r cam nesaf yn y berthynas bwysig rhwng yr Eisteddfod a Frân Wen, ac mae'n gam hynod gyffrous. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at gynnig profiad theatrig arbennig iawn ar y Maes B eleni.
“Rydym yn credu’n gryf fod angen mynd â’n hiaith, ein diwylliant a’n celfyddydau at bobl o bob oed, ac mae’r cyfle i wneud hyn gyda Popeth ar y Ddaear yn wefreiddiol ac yn sicr o ddenu cynulleidfa newydd i ymddiddori ym myd y theatr yng Nghymru."
Cyflwynir Popeth ar y Ddaear gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Phrifysgol De Cymru ac fe’i hariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy’r Loteri Genedlaethol.