Baneri
6 Hyd 2023

Mae’r gwaith o baratoi ar gyfer gŵyl a phrosiect cymunedol Eisteddfod Genedlaethol 2025 yn cychwyn nos Fercher 18 Hydref mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhelir yn Theatr Glanrafon, Coleg Cambria, Ffordd Caer, Wrecsam am 18:30

Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at gychwyn y gwaith yn ardal Wrecsam.  Rwy’n gwybod bod pawb yn edrych ymlaen at groesawu’r Eisteddfod i’r ardal unwaith eto ymhen dwy flynedd, a bod llawer o bobl ar draws y dalgylch yn awyddus i ymuno â ni i wireddu wythnos a phrosiect cofiadwy.

“Rydyn ni’n awyddus i ddenu trawsdoriad eang o bobl gyda phob math o ddiddordebau ac arbenigedd i fod yn rhan o’r tîm, gyda’r profiadol a’r ifanc yn cydweithio er mwyn creu prosiect a gŵyl fydd yn sicr o ddenu cystadleuwyr ac ymwelwyr atom yn eu miloedd.

“Edrychwn ymlaen am ddeunaw mis hapus yn gweithio ar draws y dalgylch, a gall unrhyw un sydd â diddordeb i fod yn rhan o’r tîm gofrestru ar-lein neu ddod i'r cyfarfod cyhoeddus yn Wrecsam.  Dyma’r tro cyntaf i ni ymweld â’r ardal ers 2011, ac mae llawer iawn wedi newid yn ystod y cyfnod yma, gyda phroffil Wrecsam yn hynod uchel ar hyn o bryd. 

“Rydyn ni’n gobeithio y byddwn ni’n croesawu rhai o dîm Eisteddfod 2011 yn ôl atom, ac yn denu criw newydd ac ifanc i ymuno â ni dros y misoedd nesaf, wrth i ni weithio yn y gymuned ac ar drefnu’r ŵyl ei hun.  Mae’r neges yn syml – mae croeso mawr i bawb.”

Bwriad y cyfarfod cyhoeddus cychwynnol yw rhoi cyfle i bobl leol ddangos eu cefnogaeth a gwirfoddoli i ddod yn rhan o’r prosiect.  Mae’r gymuned yn rhan ganolog o’r gwaith o drefnu’r Eisteddfod wrth i’r ŵyl deithio o amgylch Cymru.

Mae enwebiadau ar gyfer swyddogion Pwyllgor Gwaith wedi agor, a gellir ymgeisio neu enwebu rhywun am swydd Cadeirydd, Is-gadeirydd Strategol, Is-gadeirydd Diwylliannol, Cadeirydd y Gronfa Leol ac Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith ar-lein yma, Ymuno â thîm 2025 | Eisteddfod a’r dyddiad cau yw 17:00, dydd Llun 23 Hydref.

Mae cyfle hefyd i ymuno gyda’r pwyllgorau amrywiol a fydd yn rhan o baratoi ar gyfer yr ŵyl, ac mae gwybodaeth am y rhain i gyd ar gael yma, Pwyllgorau lleol Eisteddfod 2025 | Eisteddfod.  Bydd y pwyllgorau diwylliannol yn cyfarfod am y tro cyntaf am 19:30 yn syth ar ôl y cyfarfod cyhoeddus yn Theatr Glanrafon. Yna, bydd pawb yn dod ynghyd yn Ysgol Plascoch, fore Sadwrn 28 Hydref am 10:30, i ddechrau ar y gwaith o ddewis cystadlaethau, beirniaid a chyfeilyddion er mwyn creu Rhestr Testunau Eisteddfod 2025.

Bydd y gwaith codi arian ac ymwybyddiaeth, ynghyd â’r cyfarfodydd strategol yn cychwyn ddechrau Tachwedd, gyda manylion i’w cyhoeddi ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru, ac ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y sefydliad.

Cynhelir y cyfarfod cyhoeddus yn y Gymraeg gyda chyfieithydd ar y pryd ar gael.  Mae’r Eistedfod yn arbennig o awyddus i ddenu dysgwyr a phobl sy’n cychwyn ar eu taith iaith i ymuno gyda phwyllgorau amrywiol, ac i ddefnyddio’r misoedd nesaf fel cyfle arbennig i ymarfer ein hiaith.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol 2025 yn ardal Wrecsam yn ystod wythnos gyntaf Awst.  Am ragor o wybodaeth ac i ymuno â’r pwyllgorau ewch i wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru.