Dyfarnwyd animeiddiwr o Geredigion yn enillydd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022
Bydd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain a £5,000 yn cael ei gyflwyno i Seán Vicary mewn seremoni ar Faes yr Eisteddfod yn Nhregaron ar ddiwrnod agoriadol yr Ŵyl.
Yn ôl y detholwyr, Julia Griffiths Jones, Peter Wakelin a Catrin Webster roedd gwaith Seán Vicary yn "gyffrous a gwreiddiol".
Mae ei fideo, Sitelines, yn ymateb i nofel Alan Garner The Owl Service, sydd yn ei thro'n ymateb i chwedl Blodeuwedd, gan greu naratif newydd o'i hamgylch yn nyffryn Llanymawddwy yn y 1960au.
Treuliodd Seán ddwy flynedd mewn gwaith maes o gwmpas dyffryn Llanymawddwy yn ymchwilio, casglu ac animeiddio gwrthrychau cyseiniant. Ymhlith thain oedd ewinedd o'r 18fed ganrif, potel wrach, blew march a phlastr calch. Roedd y broses haptig o animeiddio stop-symud yn debyg i erfyn defodol o hud sympathetig, gan greu 'derbynnydd' ar gyfer tiwnio i donfeddi sbectrol a dadgodio trosglwyddiadau gweddilliol; gan ddarparu opteg iasol ar yr un pryd ag amser aflinol.
Meddai'r detholwyr: "Aeth Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain i Seán Vicary am ei animeiddiadau fideo, sy'n gyffrous o wreiddiol ac yn hynod atgofus.
"Er ei fod wedi astudio paentio'n wreiddiol, cafodd ei swyno gan bosibiliadau cyfryngau newydd ar ffurf ffotograffiaeth ddigidol ac animeiddio.
"Mae ffilm Seán yn cyfleu cysylltiadau gorffennol cyfoethog yn nyffrynnoedd ucheldir Cymru. Mae'n cofnodi gwrthrychau a ddarganfuwyd - darn o blaster blew ceffyl, hoelion wedi'i gwneud â llaw, 'potel wrach' - ac yn eu gwau'n ddawns swrrealaidd, ddychmygus i gerddoriaeth amser dwfn.
"Cawsom ein gwefreiddio gan ei gyfuniad o natur, technoleg, barddoniaeth ac amwysedd. Gellir edrych ar ei waith fel dilyniant o draddodiad neo-ramantaidd sy'n dyddio o'r 1930au sy'n cael ei gysylltu â thirwedd Cymru - er ei bod wedi'i wreiddio'n gyfan gwbl yn y presennol a'r dyfodol wrth edrych ar gyfleoedd cyfryngau newydd."
Symudodd Seán Vicary i Gymru bron i 30 mlynedd yn ôl, ac mae erbyn hyn yn byw yn Aberteifi. Mae yn gweithio ar draws delweddau symudol, animeiddio a chyfryngau digidol. Mae ei waith wedi cael ei ddarlledu ym Mhrydain a'i arddangos yn rhyngwladol.
Dywedodd mai ymateb yw 'Sitelines' i nofel gwlt Alan Garner The Owl Service, sy'n ail-luniad o chwedl Blodeuwedd o'r Mabinogion o'r 1960au wedi'i lleoli yn nyffryn Dyfi.
Eglurodd fod y ffilm yn archwilio syniadaeth y nofel o'r dyffryn fel 'cronfa ddŵr' wedi'i gwefru ar gyfer grymoedd anweledig ond hefyd fel sbardun i broses greadigol Garner a'i broses greadigol bersonol.
"Dechreuwyd y broses yn wreiddiol fel rhan o brosiect mapio dwfn cydweithredol gydag athrawon llenyddiaeth a daearyddiaeth o brifysgolion Caerdydd ac Abertawe, a thros amser daeth y broses yn gynyddol atblygol gyda phlygu rhyfedd o fy hun yn y ffilm.
"Cefais fy magu gyda nofelau cynnar Garner. Wrth edrych yn ôl, gwelaf sut y gwnaethant awgrymu fframwaith ar gyfer mapio ffiniau fy mhlentyndod fy hun: a ddiffinnir gan ffos, cae a gwrychoedd. Ond rhywbeth arall oedd The Owl Service. Yn rhy ifanc i'r llyfr, fy nghyflwyniad oedd addasiad teledu 1969. Dw i ddim yn siŵr i mi wella erioed," meddai.
Gwireddir Arddangosfa Agored Y Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol mewn partneriaeth gyda Chyngor Celfyddydau Cymru.