Cerflunydd greodd pennau milwyr o fytholeg a chwedloniaeth sydd wedi ennill Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.
Dyfarnwyd y Fedal Aur am Grefft a Dylunio a £5,000 i Natalia Dias o Gaerdydd. Bydd yn derbyn y wobr mewn seremoni arbennig ar Faes yr Eisteddfod yn Nhregaron.
Yn wreiddiol o Bortiwgal bu Natalia'n fyfyrwraig yng Ngholeg Sir Gâr, ac mae'n awr yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio yn y Fireworks Clay Studios yn y ddinas.
Yn y gwaith buddugol mae Natalia yn archwilio'r fenyw fel rhyfelwr, ffigwr sy'n arddel pŵer a hyder, gan addasu i amgylchedd sy'n newid yn gyson, gan drawsnewid rhwng dynol, planhigyn ac anifail.
Y detholwyr eleni oedd Julia Griffiths Jones, Peter Wakelin a Catrin Webster.
Dywedodd y detholwyr am waith Natalia: "Roeddem wedi'n denu gan wreiddioldeb a phresenoldeb y cerfluniau o bennau milwyr benywaidd o fytholeg a chwedloniaeth, wedi'u haddurno â ffurfiau geometrig o fyd natur sy'n awgrym o fetamorffosis rhwng pobl, planhigion ac anifeiliaid.
"Roeddem yn gweld y pwyslais ar fanylder yn ei chrefft: ei medrusrwydd neilltuol wrth greu ffurfiau mor uchelgeisiol ond cywrain, ac ysblander a llyfnder ei gwydredd, sydd wedi'u hysbrydoli gan draddodiadau cerameg Portiwgal, y wlad lle cafodd ei magu. Roedd ei cherfluniau'n amlygu eu hunain fel gwrthrychau wedi'u gweithio'n fedrus a datganiadau ffeministaidd ac amgylcheddol cryf am bŵer menywod a chysylltiad dynoliaeth a natur."
Magwyd Natalia Dias ym Mhortiwgal ac iddi hi roedd tu yn yr eglwys yn oriel gelf.
Dywedodd bod y ffurfiau, lliwiau, emosiynau a symbolaeth a geir y tu mewn i'r gofodau hynny bob amser wedi bod yn ddylanwad sylfaenol o fewn ei gwaith a sut mae'n cael ei arddangos. Fel delweddau cyn-Raffaelaidd a llawer o Fytholeg Roegaidd a Cheltaidd mae ei cherfluniau â gwreiddiau clasurol yn canolbwyntio ar y ffigwr benywaidd ynghyd â natur.
"Mae fy niddordeb mewn ffenomenau geometrig naturiol o batrymau ailadroddus mewn planhigion a chrisialau yn cael ei adlewyrchu yng nghymesuredd llinell a ffurf a geir yn aml yn amgáu fy ffigurau.
"Mae fy ngwaith yn dod â’m treftadaeth ddiwylliannol gyda’i wydredd gloyw cyfoethog a’r traddodiad Prydeinig o sbrigyn Wedgwood gan gyfuno eu hymdeimlad o ffantasi, afiaith a chrefft fedrus iawn.
"Gan ddefnyddio amrywiad o slip castio ac adeiladu â llaw rwy'n creu collage clai wedi'u ffurfio gan ffurfiau cast lluosog, sy'n cael eu tanio sawl gwaith i gyrraedd y dyfnder gwydredd sydd ei angen ar gyfer y gwaith.
“Mae fy ngwaith yn ymhyfrydu yn amrwd bywyd. Yn ddi-ofn, rwy’n anelu at gyfuno nodweddion y cyflwr dynol â harddwch myfyriol a throchi byd natur."
Bydd gwaith Natialia Dias i’w gweld yn Y Lle Celf ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol.