Gwaith yr artist cerameg Elin Hughes
30 Gorff 2022

Dyfarnwyd Yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 i'r artist cerameg Elin Hughes o Ddolgellau.

Sefydlwyd yr ysgoloriaeth hon er mwyn hybu celf a chrefft yng Nghymru. Dyfernir yr ysgoloriaeth i'r ymgeisydd mwyaf addawol er mwyn ei alluogi i ddilyn cwrs mewn ysgol neu goleg celf a dylunio cydnabyddedig neu fynychu dosbarthiadau meistr. Mae'r ysgoloriaeth yn agored i'r sawl dan 25 oed.

Yn ogystal â'r ysgoloriaeth o £1,500 bydd Elin yn cael cynnig gofod i arddangos ei gwaith yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llyn ac Eifionydd  2023.

Dywedodd y detholwyr, Julia Griffiths Jones, Peter Wakelin a Catrin Webster: "Dyfarnwyd Yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc i'r artist cerameg Elin Hughes.

"Roeddem wedi gwirioni â sensitifrwydd cerfluniol, nodweddion ffraeth a gwâr ei photiau, sy'n ymdrin â ffurfiau traddodiadol ac yn eu troi'n rhywbeth newydd. Mae hi'n astudio cerameg hanesyddol a gwneuthurwyr cynharach ac mae hi'n cymryd ffurfiau ac addurniadau haniaethol i dalu gwrogaeth iddynt wrth eu dadansoddi'n ddychmygus. Mae hi'n edrych ar ei phroses fel metaffor am adnewyddiad.

"Byddwn yn cadw golwg fanwl ar ei datblygiad."

Wrth ddisgrifio ei gwaith dywedodd Elin: "Mae'r llestri'n dechrau ar yr olwyn ond maent yn cael eu rhoi at ei gilydd â llaw, eu hystumio, eu torri, eu rhwygo a'u rhoi'n ôl at ei gilydd, nes eu bod yn gwbl wahanol i'w ffurfiau gwreiddiol. Mae'r gwneud yn frwydr anodd a llawn peryglon yn erbyn disgyrchiant, ac nid yw'n un y byddaf yn ei hennill bob tro, felly o ganlyniad mae'r gwrthrychau hyn mewn cyflwr bregus parhaus."

Mae Elin yn sicr yn gwneud enw iddi hi'i hun. Yn wreiddiol o Ogledd Cymru, mae Elin ar hyn o bryd yn dal i fyw a gweithio yn Nolgellau, Gwynedd. Ar ôl graddio o'r BA (Anrh) Serameg yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd yn 2019, mi wnaeth Elin gyrraedd y rhestr fer ar gyfer Wobr Meistri Ifainc Serameg Maylis Grand ac roedd yn un o ddeg artist a ddewiswyd ar gyfer arddangosfa 'Artistiaid Ifainc Cymru' MOMA Machynlleth yn 2020

Ers cyflwyno gwaith i'r Eisteddfod mae wedi cael ei harddangosfa unigol gyntaf, yn Oriel Plas Glyn-y-weddw yn Llanbedrog, ac mae wedi arddangos yn y London Art Fair ac mewn digwyddiad gan y Cyngor Crefftau yn Liberty's, Llundain. 

Dyfernir yr ysgoloriaeth i'r ymgeisydd mwyaf addawol er mwyn ei alluogi i ddilyn cwrs mewn ysgol neu goleg celf cydnabyddedig neu fynychu dosbarthiadau meistr. Mae’r ysgoloriaeth yn agored i'r sawl sydd dan 25 oed ar 31 Awst. Disgwylir i'r ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer baratoi portffolio a chyflwyno cais yn esbonio sut y bwriedir defnyddio'r ysgoloriaeth.

Ystyrir dangos y gwaith a gyflwynwyd yn Y Lle Celf. Yn ogystal, ystyrir cynnig gofod i enillydd yr ysgoloriaeth yn Lle Celf yr Eisteddfod ganlynol.