Enillwyd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth yr Eisteddfod Genedlaethol 2022 gan bensaer ifanc sy'n gweithio yng Nghanolbarth Lloegr ond sy'n hanu o Bowys.
Bydd Sonia Cunningham o Fachynlleth yn derbyn gwobr o £1,500 am ei gwaith mewn dau brosiect penodol - Mynachlog y Gwenyn ac ysgol Llanidloes.
Sefydlwyd yr ysgoloriaeth hon er mwyn hybu pensaernïaeth a dylunio yng Nghymru ac fe'i dyfernir i'r ymgeisydd mwyaf addawol er mwyn ei alluogi i ledaenu ei ymwybyddiaeth o bensaernïaeth greadigol. Mae'r ysgoloriaeth yn agored i'r sawl dan 25 oed. Cefnogir yr Ysgoloriaeth gan Gomisiwn Dylunio Cymru
Dywedodd y detholwyr, Gethin Jones a Ffion Launchbury: Y ddwy elfen fwyaf yng ngwaith Sonia a wnaeth gymaint o argraff arnom fel beirniaid oedd sut yr oedd yn mynegi'r stori a'i hymdriniaeth â'r siwrnai yn y ddau brif brosiect.
"Roedd prosiect Mynachlog y Gwenyn yn cyfleu dull Sonia a oedd wedi'i seilio ar ymchwil, ac a oedd yn arwain at ddyluniad wedi'i ddarlunio'n hardd.
"Roedd proses feddwl a datblygiad cysyniad y dylunydd yn cael eu cyfleu drwy gymysgedd llwyddiannus o ddarluniadau a delweddau CGI panoramig. Fel rhan o gyflwyniad Mynachlog y Gwenyn, mae golygon allweddol o'r siwrnai i'w gweld o amgylch gweddillion y presennol gydag integreiddiad y dyluniad newydd yn dangos cynnydd y profiad tuag at Deml y Gwenyn. Mae arddull graffigol yn helpu i adrodd stori'r cysyniad gyda phaled o liwiau naturiol."
Ychwanegodd y beirniaid fod Sonia wedi cyflwyno portffolio manwl a thrylwyr gyda sgiliau cyflwyno a lluniadu deniadol.
"Gellir gweld cynnydd y dyluniad drwy archwilio syniadau, arbrofi â deunyddiau, golau a gofod mewn brasluniau a modelau cyd-destunol, sy'n gwella dealltwriaeth y gwylwyr o'r cysyniad. Mae prosiect Ysgol Llanidloes yn dangos agwedd bwyllog ac aeddfed, a chwareus, tuag at y prosiect. Mae hi'n ystyried pwysigrwydd gofodau allanol a sut mae'r trothwyon rhwng y gofodau mewnol ac allanol yn creu mannau ychwanegol i'r meddianwyr eu darganfod. "Rhoddodd y pwyslais manwl ar rannau penodol o'r adeilad bleser arbennig inni gyda sylw i'r hyn a fyddai'n eu gwneud yn llwyddiannus i'r meddianwyr. Mae'r cynllun mewnol yn gwneud y ffiniau rhwng ystafelloedd dosbarth a mannau addysgu ffurfiol yn amwys, ac mae'r defnydd o ddeunyddiau naturiol yn rhoi tynerwch i'r dyluniad.
"Wedi'i ddarlunio'n hardd unwaith eto, mae Sonia wedi llwyddo i gyfleu ansawdd y gofodau, gan ddangos sut y gall golau a deunyddiau gyfoethogi ansawdd gofod a phrofiad i'r plant sy'n defnyddio'r gofodau.
"Edrychwn ymlaen at weld sut fydd yr Ysgoloriaeth Bensaernïaeth yn helpu Sonia i ddatblygu yn ystod y blynyddoedd nesaf," meddai'r detholwyr.
Graddiodd Sonia Cunningham gydag anrhydedd dosbarth cyntaf o Brifysgol Nottingham yn 2019. Yn ystod ei hastudiaethau derbyniodd nifer o ysgoloriaethau gan gynnwys y cyfle i astudio dramor ym Mhrifysgol De Cymru Newydd, Awstralia, fel rhan o raglen cyfnewid myfyrwyr.
Ar hyn o bryd mae Sonia yn cwblhau ei gradd Meistr rhan-amser mewn Pensaernïaeth Gynaliadwy yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen yng Nghymru.
Mae Sonia wedi ymgymryd â hyfforddiant mewn dadansoddi carbon cylch bywyd (LCA) ac yn archwilio offer arbenigol yn ei gwaith ymchwil cyfredol. Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn dylunio amgylcheddol gynaliadwy a modelu ynni a arweiniodd at gwblhau hyfforddiant Dylunydd Passivhaus Ardystiedig yn llwyddiannus.
Ond datgelwyd na fydd y Fedal Aur am Bensaernïaeth na'r Plac Teilyngdod am Bensaernïaeth yn cael eu cyflwyno eleni.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol nad oedd teilyngdod yn y cystadlaethau hyn.
Mae pensaernïaeth yn rhan greiddiol a phwysig o waith yr Eisteddfod a chyflwynwyd y Fedal Aur am Bensaernïaeth am y tro cyntaf yn 1960