Sioned Erin Hughes o Foduan sy’n ennill y Fedal Ryddiaith eleni mewn cystadleuaeth a ddenodd 17 o ymgeiswyr.
Testun y gystadleuaeth eleni oedd cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun ‘Dianc’. Y beirniaid oedd Meg Elis, Dylan Iorwerth ac Eurig Salisbury. Cyflwynwyd y Fedal a’r wobr ariannol o £750 gan Gymdeithas Cyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Wrth draddodi’r feirniadaeth o’r llwyfan ar ran ei chyd-feirniaid, dywedodd Meg Elis, “Daeth dau ar bymtheg o ymgeiswyr i’r gystadleuaeth eleni - nifer teilwng iawn. Ond mesur, nid pwyso, ydi swyddogaeth beirniaid, felly ein dyletswydd ni’n tri oedd canolbwyntio ar yr ansawdd yn hytrach na’r nifer.
“Fuaswn i ddim ymhell o’m lle, debyg, yn dweud mai’r cyfnod clo a’r amser ychwanegol a roddodd hynny i roi mwy o amser i sgwennu, a esgorodd ar y nifer a anfonodd waith i mewn eleni. Dim byd o’i le ar hynny. Mi wnes i fy hun lawer mwy o arddio yn ystod y cyfnod hwnnw. Ond fuaswn i ddim yn breuddwydio cynnig dim o ‘nghynnyrch i Sioe Chelsea nes fy mod i wedi magu a meithrin cymaint mwy o arbenigedd nag rwy’n feddu ar hyn o bryd.
“A pheidiwch â difrïo’r gymhariaeth: Chelsea ydi pinacl i arddwyr o’r radd flaenaf, a’r gystadleuaeth hon, y brwydrodd cymaint o ryddieithwyr o’n blaenau ni i roi iddi ei statws teilwng, ydi’r lle y dylasem ni fel Cymry weld goreuon ein sgwennwyr yn blodeuo ac yn arddangos eu lliwiau yn eu holl ogoniant.”
Yn ffodus, roedd amryw o’r cyfrolau wedi mynd â bryd y beirniaid, ac yn nes ymlaen yn ei beirniadaeth, meddai Meg Elis, “Fe welwch ein bod ni’n tri wedi amrywio o ran lle’r ydym yn gosod y rhai sydd yn yr ail neu’r trydydd dosbarth, ac y mae hynny’n beth iach. Ond pawn ddown at y tri ymgeisydd sydd wedi cyrraedd y brig, rydym yn unfryd - er nad yn gyfan gwbl felly, fel y cewch weld...
“Mae Mali, Mesen a Gwraig yn haeddu ystyriaeth o ddifrif, ac y mae i’r tri eu gwahanol rinweddau. Cyflwynodd Mali gyfres o storïau dan y teitl ‘Ninefe’: a storïau gorffenedig ydyn nhw, nid darnau bach pytiog. Wrth i chi ddarllen ymlaen, fe welwch fod yna gysylltiad pendant rhwng y storïau, a rhwng y cymeriadau sy’n cael eu darlunio hefyd...
“Mae yma gymeriadau rhyfeddol gan Gwraig yn ei nofel hi, ‘Sut i Ddofi Corryn’. O bosib mai’r wraig ei hun ydi’r cymeriad sy’n ein cyffwrdd fwyaf, a’i hymdrech i ganfod gwellhad i ganser ei gŵr yn ein symud un funud i fyd ffantasi, at ymwneud agos gŵr a gwraig â’i gilydd. Mae Gwraig hefyd wedi llwyddo, bron, i osgoi’r fagl y disgynnodd eraill iddi, sef methu â chadw rheolaeth dros ddeunydd uchelgeisiol. ‘Bron’ ddywedais i, ond nid yn gyfan gwbl...
“Cywair tawel sydd i Mesen, a’i storïau dan y teitl ‘Rhyngom’ ar y cyfan, ond mae yma rywun sy’n gwybod i’r dim sut i gyfleu cymeriad mewn ymadrodd, pryd i fod yn gynnil a phryd i ddefnyddio ambell i gymal sy’n gwneud i’r darllenydd aros yn stond a rhyfeddu. Cryfder Mesen yw’r gallu i daflu goleuni ar y berthynas rhwng pobl a’i gilydd, ac y mae wedi llwyr ddysgu’r wers y talai i lawer o’r ymgeiswyr eraill ei rhoi ar gof a chadw - “dangos, nid dweud.”
“Casgliad Mesen yn bendant a blesiodd Eurig, tra bod Dylan yn cael ei dynnu at Mali. Roedd yng ngwaith Gwraig gymaint o nodweddion oedd yn peri pleser llenyddol i minnau. Ac un o bleserau cyd-feirniadu ydi’r cyfle i drafod, i ail-ddarllen ac ail-ymweld, a myfyrio dros y cynnyrch a gawsom. Dyna a wnaethom ni’n tri, ac mae’n dda gen i ddweud ein bod ni’n tri wedi dod i gytundeb mai, o blith y tair cyfrol a ddaeth i’r brig eleni, mai ‘Rhyngom’, gan Mesen, sy’n teilyngu’r Fedal yn Nhregaron eleni.”
Mae Erin yn 24 mlwydd oed ac yn byw ym Moduan, ger Pwllheli. Graddiodd mewn Cymdeithaseg a Chymraeg ym Mhrifysgol Bangor, cyn dilyn cwrs Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol dan arweiniad yr Athro Gerwyn Wiliams. Daeth yn fuddugol am y Goron yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed yn 2018, a daeth yn ail am y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych eleni.
Hi oedd golygydd a churadur y gyfrol Byw yn fy Nghroen, a oedd ymhlith y buddugwyr yng Ngwobrau Tir na n-Og yn 2020. Ysgrifennodd ei llyfr cyntaf i blant, Y Goeden Hud, yn ôl yn 2021, ar ddechrau'r Clo Mawr cyntaf. Mae hi bellach yn gweithio'n llawrydd ar lond llaw o brosiectau cyffrous.
Ei gobeithion at y flwyddyn sydd i ddod yw troi ei llaw at fyd y ddrama a barddoniaeth, gan ei bod hi'n boenus o ymwybodol mai dim ond blwyddyn sydd ganddi'n weddill cyn iddi fod yn rhy hen i gystadlu gyda'r Urdd! Wedi dweud hyn, mae'n awyddus iawn i bwysleisio mai rhyddiaith, anad unrhyw beth arall, sydd wedi cipio ei chalon.
Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.