Gruffydd Siôn Ywain, sy’n wreiddiol o Ddolgellau, sy’n cipio Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni.
Derbyniodd ei wobr ar lwyfan y Pafiliwn heddiw mewn seremoni arbennig. Cyflwynir y Fedal Ddrama am ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd. Gwobrwyir y ddrama sy’n dangos yr addewid mwyaf ac sydd â photensial i’w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol.
Mae Gruffydd Siôn Ywain yn derbyn Y Fedal Ddrama (er cof am Eiryth ac Urien Wiliam, rhoddedig gan eu plant, Hywel, Sioned a Steffan) a £750 (Cronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli). Cyflwynir rhan o’r gwaith buddugol yn Seremoni’r Fedal Ddrama gyda chefnogaeth Cronfa Goffa JO Roberts.
Y beirniaid eleni oedd Janet Aethwy, Sharon Morgan a Sera Moore Williams, ac meddai Janet Aethwy wrth draddodi ar ran ei chyd-feirniaid, “Daeth pymtheg ymgais i law a braf nodi fod yna ystod o botensial yn y dramâu… hoffem annog pawb fu’n cystadlu i barhau i sgwennu ar gyfer y theatr yng Nghymru - a hoffem hefyd annog cwmnïau theatr yng Nghymru i barhau i gynnig cyfleoedd i ddramodwyr i ddysgu eu crefft.”
O ran y ddrama fuddugol, dywedodd: “Dyma stori afaelgar wedi ei saernïo’n gelfydd. Mae’n ddrama hyderus a chrefftus sy’n portreadu perthynas cwpwl gwrywaidd sy’n chwilio am fam fenthyg er mwyn creu teulu, a’u perthynas hwy gyda ffrind benywaidd.
“Mae’r themâu yn gyfredol a dadleuol a pherthnasol i gynulleidfa heddiw (ac) mae’r cymeriadau yn gwbl gredadwy, yn gelfydd a chrwn. Mae’r ddeialog yn ffraeth ac yn emosiynol ac yn llifo’n wych. Mae’r dramodydd yn defnyddio ei gymeriadau i wthio’r plot yn ei flaen yn araf a phwyllog ac mae sicrwydd y bwriad wrth adeiladu’r stori yn dal ein sylw wrth i ni fuddsoddi yn nhynged y cymeriadau.”
Er iddo fyw gyda cwlt o lysieuwyr yn Orllewin Affrica, goroesi cystadleuaeth dawnsio llinell mewn bar amheus yn Tecsas a chreu hufen ia blas neidr gyda chanlyniadau trychinebus - ennill y fedal ddrama yn sicr yw camp fwyaf Gruff hyd yma.
Magwyd Gruffydd Siôn Ywain ym Mhenybryn Dolgellau, gyda’i ddau frawd a’i chwaer. Er iddo astudio yn Ysgol Gynradd Dolgellau, Ysgol y Gader a Choleg Meirion Dwyfor yr addysg fwyaf oedd y Sesiwn Fawr flynyddol ble cymerodd ei gamau cyntaf fel dylunydd ifanc.
Yn dilyn ei lefel A treuliodd gyfnod yn Ghana yn dysgu, profiad bythgofiadwy a ddangosodd iddo nad oedd dyfodol iddo mewn byd addysg.
Treuliodd flwyddyn yng Ngholeg Menai ar gwrs sylfaen celf lle gafodd gyfle i arbrofi â gwahanol dechnegau celfyddydol cyn penderfynu mai dylunio graffeg ac animeiddio oedd ei faes.
Symudodd i Goleg Chelsea Llundain i astudio dylunio a chyfathrebu ac mae wedi byw yn Llundain ers 15 mlynedd erbyn hyn. Fel aelod o Gôr Llundain mae’n rhan o gymdeithas Cymraeg clos y ddinas.
Mae’n gweithio fel Cyfarwyddwr Creadigol yn y BBC, yn gyfrifol am ddyluniad systemau cynhyrchu a chreadigol y gorfforaeth. Mae hefyd yn parhau i greu gwaith creadigol llawrydd, yn cyd-weithio yn ddiweddar gyda Sŵnami, Hansh a’r Urdd.
Mae ei ddiddordeb yn mewn drama a chyflwyniadau theatrig o bob math wedi cael ei faethu yn ystod ei gyfnod yn Llundain ond dyma’r tro cynaf iddo gystadlu am y fedal ddrama.
Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.