30 Gorff 2021

I ni yng Nghymru, ‘wythnos ‘Steddfod’ yw wythnos gyntaf mis Awst, ac mae hynny'r un mor wir eleni, gyda thros 200 o ddigwyddiadau a gweithgareddau’n cael eu cynnal dros yr wythnos nesaf.

Wrth gwrs mae eleni’n wahanol, gan nad oes modd i ni ddod ynghyd ar Faes Eisteddfod arferol, ond yn ôl y trefnwyr, mae diogelwch ymwelwyr, gwirfoddolwyr, perfformwyr a thîm yr Eisteddfod yn hollbwysig.  Y gobaith yw y bydd modd cynnal Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion y flwyddyn nesaf, ddwy flynedd yn hwyrach na’r disgwyl.

Yn wahanol i’r llynedd pan drefnodd yr Eisteddfod raglen o weithgareddau’n rhedeg o ganol Mai tan ddechrau Awst, mae’r rhaglen eleni’n canolbwyntio ar yr wythnos ei hun., gyda llu o ddigwyddiadau ar draws y Maes yn sicr o apelio at y gynulleidfa ehangaf bosibl.

Ac nid ar-sgrîn yn unig mae modd bod yn rhan o’r Eisteddfod eleni.  Dros y penwythnos, fe fyddwn ni’n camu i mewn i fyd hudolus cerddoriaeth fyw ac i’r Eisteddfod Gudd.  Dyma’r ŵyl gerddoriaeth rithiol fwyaf erioed i’w chynnal yn y Gymraeg gyda bron i bymtheg awr o gerddoriaeth yn cael ei ffrydio’n fyw gan gychwyn am 14:00 bnawn Sadwrn. 

Gyda chyfyngiadau COVID yn dechrau llacio erbyn hyn, mae nifer fach wedi llwyddo i sicrhau tocyn i fynd i wylio’r perfformiadau’n fyw yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.  Ond dilyn y ffrwd byw o wefan yr Eisteddfod ac YouTube yw’r ffordd orau i ymlacio a mwynhau’r cyfan o gartref – neu’r ardd gyda ffrindiau gobeithio.

Ymysg y rheini sy’n perfformio’n fyw yn Aberystwyth mae Eden, Alffa, criw Welsh at the West End, Georgia Ruth a Band Pres Llareggub, gyda sesiynau ar leoliad gan Bryn Fôn a’r Band, Huw Chiswell, Kim Hon, Lily Beau a llawer mwy yn ffrydio yn ystod y penwythnos.

Dydd Llun bydd gweithgareddau’n cychwyn yn yr ‘is-bafiliynau’ ar hyd a lled y ‘Maes’ gyda chyfle i wylio popeth ar wefan yr Eisteddfod ac ar YouTube.  Mae’r holl ffefrynnau yma eto eleni, y Babell Lên, Cymdeithasau, Tŷ Gwerin, Encore, y Pentref Dysgu Cymraeg a llawer mwy. 

Ac yn wahanol i’r llynedd, mae’r cystadlu’n ôl, ac yn cael ei ddarlledu ar BBC Radio Cymru ac S4C bob prynhawn.  Bu’r cystadleuwyr yn cael eu ffilmio yng Nghanolfan Pontio, Bangor a Neuadd Dewi Sant, Caerdydd yn ddiweddar, gydag ambell un hefyd yn cystadlu o gartref oherwydd cyfyngiadau hunan-ynysu.  Yn ogystal â chystadlaethau llwyfan, roedd llu o gystadlaethau cyfansoddi hefyd, a bydd y prif enillwyr yn cael eu hanrhydeddu mewn seremonïau arbennig sy’n cael eu darlledu’n fyw o Sgwâr Canolog y BBC yng Nghaerdydd.

Y Fedal Ddrama fydd y seremoni fawr nos Lun, ac yna nos Fawrth, cawn wybod a oes enillydd i Wobr Goffa Daniel Owen eleni,.  O nos Fercher ymlaen, mae’r Orsedd yn ymuno â ni, gyda seremoni’r Coroni nos Fercher, y Fedal Ryddiaith nos Iau a’r Gadair nos Wener.  Mae’r trefnwyr, yr Orsedd a’r darlledwyr wedi bod yn cydweithio ers misoedd er mwyn sicrhau bod y seremonïau’n urddasol ac yn llawn statws er gwaethaf y cyfyngiadau sy’n parhau mewn lle.

Wrth edrych ymlaen at yr wythnos, meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, “Ry’n ni’n edrych ymlaen yn arw at wythnos wych.  Yn dilyn llwyddiant AmGen y llynedd, roedden ni’n benderfynol o ddatblygu’r rhaglen ymhellach, ac rwy’n credu ein bod ni wedi llwyddo i wneud hynny. 

“Mae hwn yn gyfle i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect eleni - i’r artistiaid a’r perfformwyr i gyd, i’n pwyllgorau ni a’n gwirfoddolwyr ni am eu cyngor doeth a’u cymorth parod drwy gydol y flwyddyn, a’r llu o gystadleuwyr, beirniaid a chyfeilyddion a fu wrthi’n ddiwyd yn paratoi am oriau. 

“Ond yn fwyaf oll, diolch i’r tîm sydd wedi tynnu popeth at ei gilydd unwaith eto eleni.  Mae wedi bod yn waith eithriadol o galed, ond ry’n ni i gyd wedi mwynhau, a gobeithio mai’r mwynhad yma fydd yn disgleirio drwy’r rhaglen yn ystod yr wythnos, ac y bydd pawb adref hefyd yn cael modd i fyw yn yr Eisteddfod AmGen eleni.

Mae manylion llawn Eisteddfod AmGen ar gael yma, www.eisteddfod.cymru/amgen.  Mae sesiynau AmGen ar gael ar-lein, ar sgrin, ar radio ac ar alw.