3 Awst 2021

Lleucu Roberts yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni.

Derbyniodd yr anrhydedd mewn seremoni yn Sgwâr Canolog y BBC heno, fel rhan o Eisteddfod AmGen.

Bydd enw Lleucu’n adnabyddus iawn i gefnogwyr yr Eisteddfod, gan ei bod hi wedi llwyddo i ennill y ‘dwbl’ nôl yn 2014, drwy gipio Gwobr Goffa Daniel Owen a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.  Hi oedd y cyntaf i ennill y ddwy brif wobr rhyddiaith yn yr un Eisteddfod – tipyn o gamp!

Gan fod trefnwyr eisoes wedi derbyn y beirniadaethau ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion nôl ar ddechrau 2020, eleni penderfynwyd agor yr amlen a gwobrwyo’r enillydd, er mwyn cefnogi’r diwydiant llyfrau yn ystod cyfnod sydd wedi bod mor anodd a llwm.  Felly, mae Lleucu’n derbyn Medal Goffa Daniel Owen, sy’n rhoddedig gan Gareth, Cerys a Betsan Lloyd, Talgarreg, a £5,000, yn rhoddedig gan Brifysgol Aberystwyth.

Y beirniaid oedd Aled Islwyn, Gwen Pritchard Jones a Dafydd Morgan Lewis, a derbyniwyd pum nofel mewn cystadleuaeth a oedd, yn ôl y beirniaid, yn un agos iawn. 

Ond, Ceridwen a’i nofel, Hannah-Jane, ddaeth i’r brig yn y pendraw, gyda Dafydd Morgan Lewis yn cychwyn ei feirniadaeth yn y Cyfansoddiadau a’r Beirniadaethau drwy ddatgan, “Hon oedd y nofel gyntaf i ddod o’r bocs ac fe wyddwn yn syth y byddai yna deilyngdod eleni.”  Ac mae Gwen Pritchard Jones, yn dweud, “Mae’r iaith yn bleser i’w darllen ac yn llifo’n esmwyth, a gall Ceridwen greu disgrifiadau hyfryd.”

Traddodwyd y feirniadaeth heno gan Aled Islwyn, ac meddai, “Ar y cychwyn, ymddengys taw stori bur gonfensiynol, gymunedol a chysurus yw hi am fod – un am hen wreigan gysetlyd gyda chyfrinachau’n llechu yn ei gorffennol a hithau’n brysur golli’i chof ... yn ogystal â’r dydd. Ond yn raddol, amlygir dyfnder aeddfetach a hwnnw’n un digon dirdynnol ar brydiau. Diolch i’r elfen Siapaneaidd yn arbennig, cynigir perspectif gwreiddiol ar aml i sefyllfa gyfarwydd. Wrth i’r nofel fynd yn ei blaen, cefais fy hun yn troi’r tudalennau gyda mwyfwy o frwdfrydedd.

 

“Diolch i’r pum awdur am ddeunydd darllen gwerth cnoi cil trosto. Prin fod trwch blewyn rhwng gweithiau Ceridwen a Mursen: dau awdur o’r iawn ryw a dwy nofel ryfeddol o debyg i’w gilydd o ran themâu a safon. Bu’n ddewis anodd, ond wedi dwys ystyried, rydym yn gytûn taw Hannah-Jane gan Ceridwen sy’n cipio’r wobr eleni.”

Cardi o Lanfihangel Genau’r Glyn (neu Llandre o roi ei ffurf gwta) yw Lleucu, sy’n byw yn Rhostryfan ers bron i dri degawd bellach. Aeth i Ysgol Rhydypennau, Bow Street ac Ysgol Penweddig, Aberystwyth a chael ei hysbrydoli i ysgrifennu gan ei hathrawon Cymraeg, Alun Jones a Mair Evans. Graddiodd yn y Gymraeg o’r coleg ger y lli, a mynd yn ei blaen i ennill doethuriaeth am waith ar feirdd yr uchelwyr dan arweiniad ei thiwtor, y diweddar Bobi Jones. Bu am gyfnod yn olygydd yng ngwasg y Lolfa, ond bellach, mae’n gwneud ei bywoliaeth i raddau helaeth drwy gyfieithu, i gwmni Testun Cyf yn bennaf.

 

Dros y blynyddoedd bu’n ysgrifennu ar gyfer y radio a’r teledu, ac mae wedi gwneud gwaith sgriptio ar nifer o gyfresi drama teledu a radio. Mae’n awdur saith nofel a dwy gyfrol o straeon byrion i oedolion, ac wyth nofel i blant a phobl ifanc.

Enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd Pwllheli 1982, gwobr Tir na n-Og ddwy waith am ei nofelau i bobl ifanc, Annwyl Smotyn Bach a Stwff, a Gwobr Goffa Daniel Owen (am ei nofel Rhwng Edafedd) a’r Fedal Ryddiaith (am ei chyfrol o straeon byrion, Saith Oes Efa) yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014. Cipiodd wobr Barn y Bobl Golwg 360 am Saith Oes Efa fel rhan o wobrau Llyfr y Flwyddyn y 2015.

Mae ganddi hi a’i gŵr, Arwel ‘Pod’ Roberts, bedwar o blant, ac wyres. Mae’n cyfrif ei hun yn lwcus tu hwnt iddi gael cyd-swigenna â’i hwyres fach a aned fis Hydref diwethaf. Er na chafodd ei hysbrydoli i ysgrifennu llawer yn ystod y cyfnod clo, mae’n dweud iddo ddyfnhau fwyfwy ei gwerthfawrogiad o gwmni ei theulu.  

Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, o fore Sadwrn 7 Awst ymlaen.