David Thomas yn ennill Dysgwr y Flwyddyn
4 Awst 2021

Dysgwr y Flwyddyn eleni yw David Thomas.  Fe’i hanrhydeddwyd mewn seremoni ar BBC Radio Cymru yn dilyn cystadleuaeth o safon uchel iawn.

Cyrhaeddodd pedwar o ddysgwyr ardderchog y rhestr fer eleni, David Thomas, Gosia Rutecka, Rob Lisle a Jo Heyde, a thasg y beirniaid oedd dewis un enillydd - penderfyniad anodd dros ben.  Yn dilyn trafodaethau hir a manwl, cytunwyd i wobrwyo David.  Y beirniaid eleni oedd Shirley Williams, Hannah Thomas a Hanna Hopwood Griffiths

O Gaerdydd y daw David Thomas yn wreiddiol, ac mae’n disgrifio’i hun fel un o’r “genhedlaeth goll” na chafodd gyfle i ddysgu Cymraeg.  Ac o’r herwydd roedd yn teimlo bod rhywbeth ar goll o’i fywyd.  Ar ôl gadael Cymru i fynd i’r brifysgol, bu’n byw yn Lloegr am flynyddoedd, ond roedd wastad yn awyddus i symud yn ôl i Gymru a dysgu Cymraeg.  A chyda’i ŵr, Anthony, yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, dychwelodd y ddau yma gan brynu tyddyn bach yn ardal Caerfyrddin. 

Yn 2018, penderfynodd David ac Anthony sefydlu distyllfa ar eu fferm, ac erbyn hyn, mae brand Jin Talog yn hynod boblogaidd. Dywed fod dysgu Cymraeg wedi newid ei fywyd ac mae’n ei defnyddio bob dydd gyda’r iaith yn rhan ganolog o bopeth yn y busnes.

Wrth siarad ar ran y beirniaid, meddai Hannah Thomas, “Mae Rob, Gosia, David a Jo yn gymeriadau carismatig, sy’n angerddol dros y Gymraeg ac yn barod yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i’n hiaith a’n diwylliant - diolch yn enfawr iddynt am eu brwdfrydedd a’u gwaith caled.  ’Dyn ni’n  ffyddiog y bydd y pedwar yn chwarae rôl flaenllaw yn eu cymunedau a thu hwnt, yn llysgenhadon gwych dros y Gymraeg.

“Credwn y bydd llawer yn uniaethu â phrofiad David.  Mae dysgu’r Gymraeg wedi bod yn brofiad cwbl gadarnhaol iddo, ac mae bellach yn siarad yr iaith yn naturiol ac yn ei defnyddio ym mhob agwedd ar ei fywyd yn Sir Gâr. 

“Mae David yn angerddol am y cyfleoedd mae’r Gymraeg yn ei rhoi i chi a gallu’r Gymraeg, fel sgil ymarferol, i drawsnewid bywydau.  Wrth ddysgu’r iaith, mae David wedi ymchwilio i’w achau a darganfod bod ei gyndeidiau yn siarad Cymraeg – mae’n teimlo, felly, ei fod wedi ad-ennill ei etifeddiaeth. 

“Mae’r Gymraeg o’n cwmpas ym mhob man, ac yn ôl David, does dim cyfrinach i’w dysgu - gydag ymdrech ac amser, mae’n bosibl i bawb.  Mae’n berson cynnes, ffraeth a bydd yn llysgennad ardderchog.”