Dyfan Lewis yn ennill y Goron
4 Awst 2021

Dyfan Lewis yw enillydd Coron Eisteddfod AmGen.

Daeth y bardd, sy’n wreiddiol o Graig-cefn-parc, ond yn byw yng Nghaerdydd, i’r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 19 o geisiadau.

Cyflwynir y Goron, a gynlluniwyd a chrëwyd gan grefftwr yr Eisteddfod, Tony Thomas, am gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 200 o linellau ar y pwnc, Ar wahân.  Y beirniaid oedd Aled Lewis Evans, Elan Grug Muse ac Elinor Wyn Reynolds.

Meddai Elan Grug Muse yn ei berniadaeth, “Mae’r casgliad yn un cyflawn, a’r safon dros ddwsin o gerddi yn gyson. Mae’r cerddi yn llwyddo i wyro oddi ar lwybrau disgwyliedig, treuliedig, gan droi i gyfeiriadau newydd ac weithiau annisgwyl.

Roedd geiriau Elinor Wyn Reynolds yng nghyfrol y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau hefyd yn llawn canmoliaeth, “Dyma gyfres o gerddi trydanol, cyhyrog, deallus; mae’r bardd yn ddiwastraff yn ei ddefnydd o eiriau a’i fynegiant. Mae ganddynt undod pendant ac maent yn creu casgliad amlhaenog, aeddfed o gerddi sy’n haeddu eu darllen sawl gwaith o’r bron. Casgliad sy’n cyrraedd y Dosbarth uchaf yn ddiamheuol yw’r hwn.”

Aled Lewis Evans oedd yn traddodi ar ran y tri beirniaid heno, ac wrth ysgrifennu am gasgliad Mop yn y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, dywedodd, “Hoffais gynildeb y bardd hwn: emosiwn wedi ei ddal yn dynn a’i harneisio’n effeithiol. Gwelwn y gallu i grisialu rhin ac addewid a dirgelwch Caerdydd o oes i oes, ond hefyd i ddal ton newydd ei hyder. Mae’r bardd yn gafael ynom efo’r cysyniadau a’r naratif sydd yn y dilyniant hwn. Mae’n fynegiant celfydd uniongyrchol, heb geisio bod yn flodeuog.

“Er bod hoff gerddi personol gennym fel tri beirniad unigol, roedd y tri ohonom wrth ddidoli wedi gosod y canlynol yn y Dosbarth Cyntaf : Cysgod, Crwydryn, a Mop. Wedi trafodaeth werthfawrogol am y gystadleuaeth drwyddi draw, daethom i’r farn gytûn mai Mop yw enillydd Coron (AmGen) yr Eisteddfod eleni.”

Magwyd Dyfan Lewis yng Nghraig-cefn-parc. Aeth i Ysgol Gynradd Felindre ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe cyn astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn 2018, dechreuodd rannu ei waith creadigol gyda phamffled o gerddi a ffotograffau o'r enw Golau. Y flwyddyn honno hefyd enillodd ar y stori fer ac ar yr ysgrif yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Daeth Mawr, pamffled arall o gerddi yn 2019, a'r llynedd cyhoeddodd gyfrol o ysgrifau taith, Amser Mynd ar ôl derbyn ysgoloriaeth gan Lenyddiaeth Cymru. Mae'n cyhoeddi ei waith drwy ei wasg ef ei hun - Gwasg Pelydr. Mae'r wasg bellach yn curadu creiriau.cymru, labyrinth celfyddydol ar y we sy'n croesawu cyfraniadau gan artistiaid o bob math.

Mae'n diolch i Efa, i'w rieni Angharad ac Emyr, ac i Owain ac Esyllt am eu cefnogaeth gyson.

Cafodd y Goron ei chreu yng ngweithdy’r Eisteddfod Genedlaethol ei hun yn Llanybydder, gan y crefftwr, Tony Thomas.  Mahogani yw’r prif bren yn y Goron, gydag elfennau wedi’u creu o dderw Cymreig.  Cafodd ei chreu â llaw, gyda’r prosiect yn un manwl a gofalus iawn.  Cafodd cap y Goron ei greu gan Carole Leigh, a bu Nicky Williams hefyd yn gweithio gyda Tony ar y prosiect.

Gan mai Tony sy’n gyfrifol am greu’r Gadair a’r Goron eleni, am y tro cyntaf, mae cysylltiad pendant rhwng y ddwy wobr.  Cafodd ei ysbrydoli gan Gerrig yr Orsedd ac mae hyn i’w weld yng nghynllun y Goron a’r Gadair.  Mae’r Cerrig hefyd yn cynrychioli llaw, a honno’n cofleidio’r bardd buddugol wrth iddo fo neu hi gael ei urddo gan yr Archdderwydd, gyda’r syniad o ofalu am ein traddodiadau a’n diwylliant ni’n rhedeg drwy’r cynllun cyfan.

Gyda gohirio’r Eisteddfod eleni, mae’r trefnwyr, yr Orsedd a’r darlledwyr wedi cydweithio er mwyn sicrhau bod modd cynnal seremonïau urddasola diogel i bawb.  Meddai Christine James, Cofiadur yr Orsedd, “Yn naturiol, mae’r amgylchiadau eleni wedi gorfodi nifer o newidiadau arnom: cynulleidfa fach, nifer cyfyngedig o Orseddogion, ac mae’n rhaid gwneud rhai pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol –gyda’r seremonïau’n digwydd gyda’r nos, ac ar ddiwrnodau gwahanol i’r arfer.

“Ond mae llawer o elfennau cyfarwydd hefyd: gorymdaith yr Archdderwydd, Gweddi’r Orsedd a’r Corn Gwlad. A’r un hefyd yw’r urddas a’r ysblander – a’r wefr o ddatgelu a oes rhywun wedi llwyddo i gyrraedd safonau’r beirniaid eleni!”

Bydd y cerddi buddugol yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Eisteddfod ar ôl y seremoni, a bydd modd prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, fore Sadwrn 7 Awst.