Enillydd y Fedal Ryddiaith eleni yw Lleucu Roberts, a dyma’r eildro iddi hi ddod i’r brig yn un o brif seremonïau’r Brifwyl yr wythnos hon.
Lleucu Roberts oedd enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn ein seremoni, nos Fawrth, a bryd hynny, bu tipyn o sôn mai hi oedd y person cyntaf i ennill y ‘dwbl’ rhyddiaith nôl yn 2014. Eleni, mae hi wedi ailadrodd ei champ, gan ennill y ddwy gystadleuaeth yn Eisteddfod AmGen.
Roedd y trefnwyr eisoes wedi derbyn y beirniadaethau ar gyfer y Fedal Ryddiaith nôl ar ddechrau 2020, ac felly eleni, penderfynwyd agor yr amlen a gwobrwyo’r enillydd, er mwyn cefnogi’r diwydiant llyfrau yn ystod cyfnod sydd wedi bod mor anodd a llwm. Mae Lleucu’n derbyn y Fedal Ryddiaith a £750, sy’n rhoddedig gan Gymdeithas Cyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Y beirniaid oedd Rhiannon Ifans, Elwyn Jones ac Elfyn Pritchard, a chyflwynir y Fedal eleni am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau, ar y pwnc ‘Clymau’. Roedd hon yn gystadleuaeth agos eleni, gyda chanmoliaeth fawr i waith Corryn, yn ogystal â chyfrol Cwmwl (Lleucu Roberts), ‘Y Stori Orau’
Meddai Elfyn Pritchard yn ei feirniadaeth, “I mi, y mae’r gyfrol hon yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda’r cyfrolau gorau a enillodd y gystadleuaeth hon yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ychwanegodd Elwyn Jones, “Er bod y mynegiant yn ymddangosiadol syml mae’r awdur yn gwybod yn union sut i drin geiriau a cheir cyffyrddiadau gogleisiol yn gymysg â sylwadau crafog am fywyd ac wrth ailddarllen y gwaith roedd haenau ychwanegol o ystyron yn dod i’r amlwg. Dyma awdur sy’n feistr ar gyfleu perthynas cymeriadau â’i gilydd...”
Rhiannon Ifans, enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy, oedd yn traddodi ar ran ei chyd-feirniaid, ac meddai, “Wel, sut mae hi i fod? O blith y llenorion sydd ar frig y gystadleuaeth eleni, i mi y prif lenor ydi Corryn, ac i’r llenor yma y byddwn i’n dyfarnu’r Fedal.
“Ond mae ‘na dri ohonon ni, a dydan ni ddim yn feirniaid unfryd. Ym marn fy nau gyd-feirniad, nofel Cwmwl am Swyn a’i mam a’r fan VW sy’n dod i’r brig. Llongyfarchiadau calonnog i’r llenor hwnnw, felly, am ein swyno ni’n tri â’i ddawn.
“Mae’n bleser gen i gyhoeddi mai i Cwmwl y dyfernir y Fedal Ryddiaith heno, ynghyd â phob clod ac anrhydedd a berthyn iddi.”
Cardi o Lanfihangel Genau’r Glyn (neu Llandre o roi ei ffurf gwta) yw Lleucu, sy’n byw yn Rhostryfan ers bron i dri degawd bellach. Aeth i Ysgol Rhydypennau, Bow Street ac Ysgol Penweddig, Aberystwyth a chael ei hysbrydoli i ysgrifennu gan ei hathrawon Cymraeg, Alun Jones a Mair Evans.
Graddiodd yn y Gymraeg o’r coleg ger y lli, a mynd yn ei blaen i ennill doethuriaeth am waith ar feirdd yr uchelwyr dan arweiniad ei thiwtor, y diweddar Bobi Jones. Bu am gyfnod yn olygydd yng ngwasg y Lolfa, ond bellach, mae’n gwneud ei bywoliaeth i raddau helaeth drwy gyfieithu, i gwmni Testun Cyf yn bennaf.
Dros y blynyddoedd bu’n ysgrifennu ar gyfer y radio a’r teledu, ac mae wedi gwneud gwaith sgriptio ar nifer o gyfresi drama teledu a radio. Mae’n awdur saith nofel a dwy gyfrol o straeon byrion i oedolion, ac wyth nofel i blant a phobl ifanc.
Enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd Pwllheli 1982, gwobr Tir na n-Og dwywaith am ei nofelau i bobl ifanc, Annwyl Smotyn Bach a Stwff, a Gwobr Goffa Daniel Owen (am ei nofel Rhwng Edafedd) a’r Fedal Ryddiaith (am ei chyfrol o straeon byrion, Saith Oes Efa) yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014. Cipiodd wobr Barn y Bobl Golwg 360 am Saith Oes Efa fel rhan o wobrau Llyfr y Flwyddyn y 2015.
Mae ganddi hi a’i gŵr, Arwel ‘Pod’ Roberts, bedwar o blant, ac wyres. Mae’n cyfrif ei hun yn lwcus tu hwnt iddi gael cyd-swigenna â’i hwyres fach a aned fis Hydref diwethaf. Er na chafodd ei hysbrydoli i ysgrifennu llawer yn ystod y cyfnod clo, mae’n dweud iddo ddyfnhau fwyfwy ei gwerthfawrogiad o gwmni ei theulu.
Gyda gohirio’r Eisteddfod eleni, mae’r trefnwyr, yr Orsedd a’r darlledwyr wedi cydweithio er mwyn sicrhau bod modd cynnal seremonïau urddasola diogel i bawb. Meddai Christine James, Cofiadur yr Orsedd, “Yn naturiol, mae’r amgylchiadau eleni wedi gorfodi nifer o newidiadau arnom: cynulleidfa fach, nifer cyfyngedig o Orseddogion, ac mae’n rhaid gwneud rhai pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol –gyda’r seremonïau’n digwydd gyda’r nos, ac ar ddiwrnodau gwahanol i’r arfer.
“Ond mae llawer o elfennau cyfarwydd hefyd: gorymdaith yr Archdderwydd, Gweddi’r Orsedd a’r Corn Gwlad. A’r un hefyd yw’r urddas a’r ysblander – a’r wefr o ddatgelu a oes rhywun wedi llwyddo i gyrraedd safonau’r beirniaid eleni!”
Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, o fore Sadwrn 7 Awst ymlaen.