Mared sy’n derbyn Tlws Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni am ei halbwm Y Drefn ar label I KA CHING Records.
Cyhoeddwyd hyn ar BBC Radio Cymru heno gan Siân Eleri ac Ifan Davies, fel rhan o weithgareddau Eisteddfod AmGen eleni.
Mae 'Y Drefn’ - albwm unigol gyntaf Mared - yn gymysgedd o sawl arddull gwahanol, gydag agweddau o jazz, gwerin a pop yn cymysgu i greu albwm prydferth sy’n rhoi llwyfan i lais unigryw'r gantores.
Mae’n record deimladwy ac emosiynol sy’n cydio’r gwrandäwr o linell leisiol gyntaf Mared yn 'Y Reddf' i ddiweddglo epig 'Dal ar y Teimlad'. Fel gymaint o albymau eraill recordiwyd yn Stiwdio Sain, Llandwrog, mae’r albwm yma yn hawlio ei le mewn unrhyw gasgliad, gyda Mared a’i llais yn serennu yng nghanol y cyfan.
Meddai Mared, “Mae 'nghalon i’n llawn! Diolch gymaint am wneud fy mlwyddyn i fil gwaith gwell! Mae’r albwm yma’n golygu’r byd i fi, felly mae cal ymateb fel hyn yn hollol sbesial. Diolch am yr holl gefnogaeth dwi ‘di gael a diolch yn enwedig i I KA CHING, Branwen, Osian ac Ifan am fod y tîm neisia’ yn y byd!”
Ychwanegodd Branwen Haf Williams ar ran label I KA CHING, “Does ‘na ‘run cerddor ‘dw i wedi gweithio â nhw mor ddiffuant o dalentog, mor anhygoel o gynhyrchiol ac mor, mor weithgar â Mared Williams. Mae hi’n haeddu pob tamed o sylw sy’n dod i’w rhan, ac mae’r wobr yma’n gydnabyddiaeth hollol deilwng o un o berlau’r sin gerddoriaeth ar y funud.”
Y 10 albwm ar y rhestr fer oedd:
- Carw - Maske
- Carwyn Ellis & Rio 18 – Mas
- Cwtsh – Gyda’n Gilydd
- Datblygu – Cwm Gwagle
- Elfed Saunders Jones - Gadewaist
- Jac Da Trippa – Kim Hong Chon
- Mared – Y Drefn
- Mr - Feiral
- Mr Phormula - Tiwns
- Tomos Williams – Cwmwl Tystion
Meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, “Ry’n ni wrth ein boddau bod Mared wedi ennill y wobr hyfryd hon eleni. Dechreuodd ei gyrfa’n cystadlu ar ein llwyfan ni, ac mae’n wych dilyn ei llwyddiant dros y blynyddoedd. Roedd yn bleser ei chroesawu hi’n ôl i’r Eisteddfod yr wythnos yma, fel rhan o’r Eisteddfod Gudd a Gig y Pafiliwn. Ry’n ni’n dymuno pob llwyddiant iddi yn y dyfodol.”
Mae Mared yn derbyn tlws arbennig sydd wedi’i gynllunio a’i greu gan Tony Thomas, crefftwr yr Eisteddfod. Fel nifer o weithiau eraill Tony, gan gynnwys y llythrennau mawr sy’n sillafu’r gair ‘Eisteddfod’, mae tlws Albwm Cymraeg y Flwyddyn wedi’i greu allan o un o hen greiriau’r Eisteddfod. Y tro hwn, mae Tony wedi defnyddio cog oddi ar hen jac codi baw a ddefnyddiwyd gan yr Eisteddfod nôl yn Eisteddfod Bro Madog, 1987 er mwyn cynrychioli record fel rhan o’r Tlws unigryw hwn.