Gwenallt Llwyd Ifan yn ennill Cadair Eisteddfod AmGen
6 Awst 2021

Gwenallt Llwyd Ifan yw enillydd Cadair Eisteddfod AmGen.

Daeth y bardd o Dregaron, sy’n byw yn Nhal-y-bont i‘r brig am ei awdl mewn cynghanedd gyflawn, hyd at 200 o linellau ar y pwnc ‘Deffro’.  Mae Gwenallt yn derbyn Cadair hardd, a gynlluniwyd a chrëwyd gan grefftwr yr Eisteddfod, Tony Thomas.  Y beirniaid eleni oedd Jim Parc Nest, Guto Dafydd a Caryl Bryn.

Unwaith eto heno, cynhaliwyd y seremoni yn Sgwâr Canolog BBC Cymru yng Nghaerdydd, gydag enillydd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy, 2019, Jim Parc Nest yn traddodi’r feirniadaeth gyfansawdd.  Meddai, “Mae awdl Gwyliwr  wedi ei chanu yn y wers rydd gynganeddol.  Yn agos at agoriad yr awdl, wele linell drawiadol: ‘Un ar erchwyn hanes yn chwilio am awch eiliad.’ Sôn y mae am redwr wedi cyrraedd copa mynydd Gwylwyr, yn sefyll i syllu ar y wawr. Erbyn diwedd y gerdd y mae’r un rhedwr yn canfod gwawr arall, y wawr sy’n dynodi deffroad cenedlgarwch y Cymry.

“Rhwng y ddwy wawr ceir cyfres o nosau neu fachludoedd gormesol, a’r darlunio yn gyson gelfydd a chyffrous.  Fe dynnaf sylw yn fy meirniadaeth ysgrifenedig at un gwendid, sef y gorhoffedd o glystyru llinellau o gynganeddion sain, ynghyd â manylu ar y rheswm pam yr ystyriaf y gorddefnydd hwn yn wendid yn y wers rydd. Mae’n deg dweud nad yw Guto Dafydd o’r un farn â mi yn y cyswllt hwn, ac fe barchaf y farn honno.

“Ond y mae’r tri ohonom yn cytuno bod awdl Gwyliwr yn cyrraedd safon teilyngdod eleni. Oherwydd y cyfwng a orfodwyd arnom cyn i Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2020 droi’n rhith, bydd y cadeirio hwn yn un hanesyddol. A gobeithio na welir mo’i debyg. Ond gobeithiwn hefyd y bydd gwefr y cadeirio mor wefreiddiol ag erioed i’r bardd buddugol, oherwydd haeddiant yr awdl arbennig hon ar y testun ‘Deffro’.”      

Yn wreiddiol o Dregaron, bu Gwenallt yn athro a phennaeth bioleg mewn ysgolion yn y gogledd am rai blynyddoedd, a thra’n byw yn Ninbych, mynychodd ddosbarthiadau cynganeddu John Glyn Jones.

Enillodd nifer o gadeiriau am ei farddoniaeth ac yn 1999, enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Môn am ei awdl ‘Pontydd’.  Ef yw capten tîm Talwrn y Beirdd Tal-y-bont. Mae hefyd yn aelod o dîm Ymryson y Beirdd Ceredigion. 

Yn 2009, penodwyd ef yn Bennaeth Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig, Aberystwyth. Yn dilyn ei ymddeoliad o swydd y Pennaeth yn 2018, daeth yn hyfforddwr athrawon Gwyddoniaeth, Cemeg a Bioleg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cyhoeddwyd nifer o’i gerddi mewn gwahanol gyhoeddiadau a chasgliadau. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, DNA, yn 2021.  Yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn 2019 enillodd Gwenallt dlws coffa John Glyn Jones, ei hen athro barddol, am englyn y dydd gorau’r wythnos.

Ei ddiddordeb mawr arall yw pysgota â phlu. Cynrychiolodd Gymru nifer o weithiau ar lynnoedd ac afonydd ledled yr ynysoedd hyn a thramor a bu’n bencampwr rhyngwladol Prydain ac Iwerddon ar ddau achlysur.

Mae’n rhedwr brwd a gwelir ef yn aml yn rhedeg ar hyd llwybrau ardal Tal-y-bont. Mae’n briod gyda Delyth ac mae ganddynt fab a merch, Elis ac Esther.

Cafodd y Gadair ei chreu yng ngweithdy’r Eisteddfod Genedlaethol ei hun yn Llanybydder, gan y crefftwr, Tony Thomas, allan o bren onnen.  Mae’n bren cryf iawn ac yn hyblyg hefyd, ac yn berffaith ar gyfer creu Cadair Eisteddfod.  Noddir y Gadair gan gwmni J&E Woodworks Ltd, Llanbedr Pont Steffan, a chafodd ei chreu o fewn ychydig filltiroedd i le syrthiodd y coed ychydig flynyddoedd yn ôl.

Ac mae cynllun y Gadair yn drawiadol iawn hefyd.  Cafodd Tony ei ysbrydoli gan Gerrig yr Orsedd wrth feddwl am y cynllun ar gyfer y Gadair.  Mae llafnau o bren yn codi o amgylch y sedd, yn union fel Cylch yr Orsedd ar Faes yr Eisteddfod.  Mae’r Cerrig hefyd yn cynrychioli llaw, a honno’n cofleidio’r enillydd, wrth iddo fo neu hi gael ei urddo gan yr Archdderwydd, gyda’r syniad o ofalu am ein traddodiadau a’n diwylliant ni’n rhedeg drwy’r cynllun.  

Gyda gohirio’r Eisteddfod eleni, mae’r trefnwyr, yr Orsedd a’r darlledwyr wedi cydweithio er mwyn sicrhau bod modd cynnal seremonïau urddasol a diogel i bawb.  Meddai Christine James, Cofiadur yr Orsedd, “Yn naturiol, mae’r amgylchiadau eleni wedi gorfodi nifer o newidiadau arnom: cynulleidfa fach, nifer cyfyngedig o Orseddogion, ac mae’n rhaid gwneud rhai pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol -gyda’r seremonïau’n digwydd gyda’r nos, ac ar ddiwrnodau gwahanol i’r arfer.

“Ond mae llawer o elfennau cyfarwydd hefyd: gorymdaith yr Archdderwydd, Gweddi’r Orsedd a’r Corn Gwlad. A’r un hefyd yw’r urddas a’r ysblander – a’r wefr o ddatgelu a oes rhywun wedi llwyddo i gyrraedd safonau’r beirniaid eleni!”

Bydd modd prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, fore Sadwrn 7 Awst.