Eisteddfod Amgen 2020
12 Mai 2020

Heno (12 Mai), mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn lansio prosiect newydd, sy’n rhoi blas o’r Brifwyl i bawb dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Bwriad AmGen yw sicrhau bod elfennau o’r Eisteddfod ar gael i bobl eu mwynhau yn ystod y cyfnod anodd hwn. 

Wrth gyhoeddi’r prosiect, dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, “Fel pawb arall, ry’n ni’n hynod siomedig nad oes modd i ni gynnal yr ŵyl yng Ngheredigion eleni.  Ond roedden ni’n benderfynol na fyddai’n rhaid i bawb fynd heb ychydig o ‘Steddfod am eleni.

“Byddwn yn cynnal Eisteddfod AmGen yn ystod wythnos gyntaf mis Awst, pan roedd pawb wedi gobeithio bod ar y Maes yn Nhregaron, ac yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am yr ŵyl dros yr wythnosau nesaf.  Rydym yn falch o gael gweithio gyda nifer o bartneriaid er mwyn gwireddu rhywbeth a fydd o’r un anian â’r Eisteddfod, ond yn cael ei gyflwyno mewn ffordd wahanol iawn.

“Dros yr wythnosau diwethaf, ry’n ni wedi bod yn mynd drwy archif yr Eisteddfod, yn trafod gyda nifer fawr o bartneriaid ac yn meddwl am syniadau gwreiddiol a newydd a fydd, gobeithio, yn apelio at ein cynulleidfa.  Ry’n ni, fel pawb arall wedi gorfod meddwl am ein gwaith mewn ffordd cwbl wahanol, ac mae wedi bod yn brofiad diddorol rhoi rhaglen at ei gilydd sy’n cynnig rhywbeth i bawb, gobeithio.

“Ond does dim rhaid aros tan Awst er mwyn dechrau mwynhau cynnwys o bob math sy’n ymwneud â’r Eisteddfod.  O ddydd Llun 18 Mai ymlaen, bydd AmGen yn rhedeg o leiaf un gweithgaredd y dydd, gan ddefnyddio nifer fawr o blatfformau, a chan weithio’n agos gyda’r wasg a’r cyfryngau ar draws Cymru hefyd.

“Byddwn yn cyhoeddi amserlen wythnosol AmGen bob dydd Gwener, gyda nifer o weithgareddau’n ymddangos ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol yr Eisteddfod ac eraill yn weithgareddau ar blatfformau fel Zoom ac AM. 

“O weithdai sy’n rhoi blas o ambell grefft gynhenid Gymraeg fel y cynganeddion a gosod cerdd dant, i arbrofion gwyddonol wythnosol i blant, ac o gyfle i fwynhau rhai o ddarlithoedd eiconig y blynyddoedd diwethaf i setiau cerddoriaeth byw a gweithgareddau i ddysgwyr, fe fydd rhaglen wythnosol AmGen yn cynnwys yr un cymysgedd eclectig ag ymweliad â’r Maes.

“Yn ogystal, bydd ambell ddigwyddiad mwy yn cael ei ddarlledu o dro i dro, gan roi blas i bobl o brosiectau fel Encore a'r Tŷ Gwerin.  Ein gobaith yw cyhoeddi nifer fawr ohonyn nhw ar wefan yr Eisteddfod a’n sianel You Tube wedyn, fel bod gennym gofnod o’r gweithgareddau, a bod pobl yn gallu dychwelyd atyn nhw dro ar ôl tro dros yr wythnosau nesaf.

“Nid pawb sy’n defnyddio technoleg, ac felly fe fyddwn yn gweithio gyda’r wasg a’r cyfryngau ar draws Cymru, er mwyn sicrhau bod gan bawb fynediad hygyrch i weithgareddau AmGen.  Gan gydweithio’n rheolaidd gyda rhaglenni fel Heno a Prynhawn Da, bydd cyfle i’r gynulleidfa gartref fwynhau agweddau o’r prosiect, a byddwn yn datblygu elfennau penodol i apelio at wahanol gynulleidfaoedd.

Wrth groesawu prosiect AmGen, meddai Eluned Morgan AS, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, “Byddwn yn gweld eisiau holl ddigwyddiadau Cymru eleni, yn enwedig yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n denu cannoedd o filoedd o bobl i wahanol leoliadau pob blwyddyn i ddathlu ein hiaith a’n diwylliant byw.

“Mae’r Eisteddfod, fel nifer o ddigwyddiadau arall, wedi gorfod bod yn arloesol ar gyfer 2020 – heddiw maent wedi cyhoeddi menter newydd – Eisteddfod AmGen! – yn lle’r digwyddiad wythnos o hyd arferol. Mae’r digwyddiad ar-lein yn darparu cyfleoedd i ni gyd gymryd rhan a gwylio cystadlaethau a gweithgareddau wythnosol. Dwi’n gobeithio bydd cymaint o bobl a phosibl yn manteisio ar y cyfle i fwynhau’r arlwy unigryw a hwyliog sydd ar gael.”

Ychwanegodd Betsan Moses, “Ry’n ni hefyd yn edrych ymlaen at gynnal rhai gweithgareddau sy’n benodol ar gyfer ein cefnogwyr yn nalgylch yr Eisteddfod yng Ngheredigion a Llŷn ac Eifionydd.  Byddwn yn trafod syniadau amrywiol gyda’r pwyllgorau lleol er mwyn sicrhau bod cynnwys AmGen yn apelgar i’r ardaloedd hyn, ac ein bod yn ail-gydio yn ein gwaith ymgysylltu cymunedol ar lawr gwlad, mewn ffordd cwbl wahanol. 

“Ond fel yr Eisteddfod ei hun, mae AmGen yn brosiect cenedlaethol, ac felly ry’n ni am i bobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt allu ymuno gyda ni ar gyfer ein gweithgareddau amrywiol yn ystod y cyfnod anodd hwn.  Ar ddiwedd y prosiect, y gobaith yw ein bod ni wedi llwyddo i ysbrydoli ein cynulleidfa ac ein bod ni wedi llwyddo i greu cynnyrch newydd ac amgen mewn ffordd cwbl wahanol i’r arfer.

“Ry’n ni’n edrych ymlaen at gychwyn ar y prosiect ac at gyhoeddi ein hamserlen gyntaf ddiwedd yr wythnos.  Felly, cadwch olwg allan am AmGen dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf, ac os oes gennych chi unrhyw syniadau am bethau eraill y byddech chi’n hoffi’u gweld, cysylltwch!”

Cyhoeddir amserlen gyntaf AmGen ddydd Gwener 15 Mai, gyda’r gweithgareddau’n cychwyn ar 18 Mai.