Cyhoeddi Rhestr Fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn
19 Meh 2020

Heddiw (19 Mehefin), cyhoeddir rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2020, ar y cyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol a BBC Radio Cymru.

Gyda chymaint o albymau o safon yn gymwys ar gyfer y wobr eleni, cytunodd y beirniaid i gynnwys 11 o albymau ar y rhestr fer, yn hytrach na’r deg arferol.

Bwriad y wobr yw dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy’n cael ei ryddhau yng Nghymru ar hyn o bryd, ac unwaith eto eleni, mae cymysgedd eclectig o gynnyrch ac artistiaid wedi cyrraedd y rhestr fer.  Y cyfnod dan sylw oedd 31 Mai 2019 hyd at ddiwedd Mai 2020.

Bu panel o feirniaid sy’n rhan o’r diwydiant cerddoriaeth yn dewis a dethol eu hoff gynnyrch, gan bleidleisio am eu ffefrynnau ar ddiwedd y broses.  Y beirniaid oedd Elan Evans, Siân Eleri Evans, Huw Foulkes, Gwenan Gibbard, Dyl Mei, Siân Meinir, Gwyn Owen a Neal Thompson.

Gyda’r Eisteddfod yng Ngheredigion wedi’i gohirio eleni, mae’r trefnwyr yn cydweithio gyda Gŵyl AmGen BBC Radio Cymru, a chyhoeddir enillydd y wobr yn ystod yr ŵyl a gynhelir o 30 Gorffennaf – 2 Awst.

Yr albymau a ddaeth i’r brig yw:

  • 3 Hwr Doeth – Hip Hip Hwre
  • Ani Glass – Mirores
  • Carwyn Ellis & Rio 18 – Joia!
  • Cynefin – Dilyn Afon
  • Georgia Ruth – Mai
  • Gruff Rhys – PANG!
  • Gwilym Bowen Rhys – Arenig
  • Los Blancos – Sbwriel Gwyn
  • Llio Rhydderch – Sir Fôn Bach
  • Mr – Amen
  • Yr Ods – Iaith y Nefoedd

Bydd BBC Radio Cymru yn rhoi sylw i bob un o’r albymau yn ystod y dydd ar eu rhaglenni, ac am 18:30, cynhelir sgwrs fyw ar facebook yr Eisteddfod, fel rhan o raglen AmGen fydd yn cloriannu’r rhestr fer.  Yn ogystal, bydd Sôn am Sîn yn cynnal sgwrs yn ystod Gŵyl Tafwyl Digidol i drafod y rhestr fer yn benodol.

Cyhoeddir y rhestr fer ar raglen Huw Stephens ar Radio Cymru 2 am 08:00, fore Gwener, ac yna, bydd yr enillydd yn cael ei gynhoeddi ddydd Sadwrn 1 Awst, a chyhoeddir rhagor o fanylion am y Wobr maes o law dros yr wythnosau nesaf.

-diwedd-

Manylion am yr artistiaid ar y rhestr fer:

Hip Hip Hwre - 3 Hwr Doeth (Recordiau Noddfa) 

Casgliad sydd â themâu yn ymestyn o wleidyddiaeth i ryw, ac o ddigartrefedd i fwyd Tsieniaidd yw Hip Hip Hwre, ail albwm 3 Hwr Doeth.   Wedi’i recordio ym Mhencadlys Pasta Hull, mae Hip Hip Hwre yn adleisio’r hip-hop unigryw cyflwynwyd i gynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru ar yr albwm cynt.  Gyda chaneuon fel ‘Biji Bo’ ac ‘Ma Nain Fi’n Wech Na Nain Chdi’ yn anthemau mewn gigs eisoes mae’r albwm newydd yn gwthio hiwmor ffraeth y Cofis hyd yn oed yn bellach.

 

Mirores - Ani Glass (Recordiau NEB)

Mae pop perffaith Mirores, albwm cyntaf Ani Glass, yn gyfanwaith hyfryd o synnau synth-pop breuddwydiol.  Mae’n gymysgedd hudolus o gerddoriaeth electronig a llais unigryw Anni, sy’n clymu popeth ynghyd a chreu albwm arbennig iawn.  Mae’r albwm yn ein harwain drwy strydoedd Caerdydd, yn daith gerddorol a thematig drwy’r brifddinas, gyda rhai caneuon yn ein hatgoffa o strydoedd prysur, ac eraill yn gyfle i fyfyrio ar ardaloedd agored y ddinas. 

 

Joia! - Carwyn Ellis & Rio 18 (Recordiau Agati / Banana and Louie Records)

Ffrwyth llafur cyfnod o recordio yn Rio de Janeiro yw Joia!  Prosiect diweddaraf Carwyn Ellis, sy’n adnabyddus fel prif leisydd Colorama, yw’r albwm, a chafodd ei gynhyrchu gan y cerddor o Frasil, Kassin.  Aeth Carwyn a’r cynhyrchydd ati i ffurfio band o gerddorion gorau’r ddinas i chwarae ar yr albwm; nhw yw Rio 18.  Wedi’i ysbrydoli gan gerddoriaeth Bossa Nova, mae teitl yr albwm yn crisialu’r cyfanwaith; ym Mhortiwgaleg Brasil mae ‘Joia’ yn golygu groovy!

 

Dilyn Afon - Cynefin

Ar ôl tair blynedd o ymchwilio a recordio daeth Dilyn Afon, albwm cyntaf Cynefin allan yn 2020.  Casgliad o hen ganeuon gwerin o ardal sir Ceredigion yw’r record, sy’n dilyn cynefinoedd diwylliannol yr ardal.  Mae’r albwm yn llwyddo i roi llais modern i dreftadaeth ac alawon coll yr ardal a’n cyflwyno deunydd angof a bregus mewn golau newydd.

 

Mai - Georgia Ruth (Bubblewrap Records)

Mae Mai yn gasgliad agos-atoch o wyth o ganeuon a thri darn offerynol hyfryd, sydd â moliant i fis Mai gan Eifion Wyn yn rhan ganolog ohono.  Mae elfen fwy modern i arddull gwerinol Georgia Ruth nag i rai artistiaid eraill, wrth iddi gyfuno’r delyn gydag offerynnau trydanol a thraddodiadol.  Gwrandewch ar Madryn, wedi’i chyflwyno i’w mab ifanc, cân sy’n crisialu cynnwys yr albwm hudolus hwn.

 

Pang! - Gruff Rhys (Rough Trade)

Pang! yw albwm uniaith Gymraeg cyntaf Gruff Rhys ers 2005.  Mae’n cyfuno arddull acwstig prosiectau unigol yr artist gyda synau Affricanaidd diolch i gynhyrchu gwych Muzi, o Dde Affrica.  Fel yn y mwyafrif o’i waith, mae Gruff Rhys yn gadael sylw ar gyflwr y byd mewn ffyrdd hynod [laid-back] ar Pang! gyda synau a gweadau cwbl newydd yn arwain y ffordd.  Bydd y gân ‘Bae Bae Bae’ oddi ar yr albwm yn gyfarwydd i chi fynychodd Eisteddfod Genedlaethol 2018 gan ei fod yn rhan o arddangosfa arbennig ‘Carnifal y Môr.’

 

Arenig - Gwilym Bowen Rhys (Recordiau Erwydd)

Dyma drydydd albwm unigol y cerddor amryddawn a chynhyrchiol, Gwilym Bowen Rhys, sydd erbyn hyn wedi dargyfeirio’n llwyr o’i ddyddiau cynnar fel prif leisydd Y Bandana.  Mae gan Gwilym lais unigryw ac mae’r casgliad o ganeuon amrywiol hwn, yn gyfle i ni fwynhau’i lais mewn pob math o arddulliau, o’r dwys yn ‘Byta dy Bres’ i’r cariaduw yn ‘Er fy Ngwaethaf’.

 

Sbwriel Gwyn - Los Blancos (Recordiau Libertino)

Albwm cyntaf Los Blancos, Sbwriel Gwyn, yw’r diweddaraf o don o albymau anhygoel i ddod gan label Recordiau Libertino.  Mae’r record yma gan y pedwarawd o Gaerfyrddin yn gymysgedd o senglau adnabyddus y grŵp, fel ‘Cadw Fi Lan’ a ‘Clarach,’ a chynnyrch newydd roedd eisoes yn ffefrynnau mewn gigs.  Mae egni amrwd byw'r band yn cael ei amlygu drwy gydol yr albwm diolch i gynhyrchu Kris Jenkins.  Heb amheuaeth mae’r record yma wedi sicrhau lle Los Blancos fel un o brif fandiau’r sin.

 

Sir Fôn Bach - Llio Rhydderch (Fflach)

Er ei bod yn perfformio ac yn rhyddhau cerddoriaeth wych ers degawdau bellach, does dim arafu ar Llio Rhydderch.  Dyma gyfle i glywed meistres ei chrefft ar ei gorau, gyda synnau nefolaidd y delyn yn ein cludo i fyd gwahanol.  Mae’r albwm yn ddehongliad newydd o nifer o alawon traddodiadol, a chawn gamu’n ôl o brysurdeb bywyd a’r byd modern, ac ymlacio wrth wrando ar y delyn yn ei holl ogoniant. 

 

Amen - Mr (Strangetown Records)

Yn dilyn ailymddangosiad yn y sin Cymraeg yn 2018 gyda’r albwm Oesoedd, Amen yw ail albwm Mr, sef prosiect diweddaraf Mark Roberts o’r Cyrff a Catatonia gynt.  Mae dylanwad amlwg prosiectau cynt ar yr albwm ond hefyd, fel arfer, mae Mark yn llwyddo i wthio ffiniau yn gerddorol ar yr albwm.  Does dim cân yn amlygu’r nostalgia a themâu modern sydd ar y record mwy na chân olaf yr albwm; ‘Llanrwst Revisited,’ sef fersiwn cyfoes a chwbl wahanol o glasur Y Cyrff, ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst.’

 

Iaith y Nefoedd - Yr Ods (Lwcus T)

Trydydd albwm hir-ddisgwyliedig Yr Ods yw Iaith y Nefoedd.  Mae’r albwm yn rhan o gyfanwaith cysyniadol ar y cyd gyda’r awdur Llwyd Owen sy’n cynnwys nofela o’r un enw.  Mae’r Ods yn tywys y gwrandäwr i Gymru ôl-terfyn ble mae’r iaith Gymraeg bron wedi’i ei ddifa ar record sy’n llwyddo i’n dychryn a gwneud i ni gwestiynu ein Cymreictod a moderniaeth mewn ffordd wirioneddol drawiadol.