Ddeufis yn unig ers ei lansio, mae cynnwys prosiect Eisteddfod AmGen wedi’i wylio dros 150,000 o weithiau yn ddigidol ar draws amrywiaeth o blatfformau.
Dechreuodd y prosiect ym mis Mai yn dilyn y newyddion bod rhaid gohirio Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni oherwydd haint Cofid-19. Erbyn hyn, mae dros 200 o sesiynau wedi’u cynnal, a nifer fawr o straeon hefyd wedi ymddangos ar raglen Prynhawn Da.
Ac wrth i ni agosáu at ‘wythnos yr Eisteddfod’ ddechrau Awst, mae’r tîm sydd wrth y llyw yn mynd yn fwyfwy uchelgeisiol ac yn awyddus i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael blas ar yr Eisteddfod mewn ffordd gwbl wahanol eleni.
Meddai’r Prif Weithredwr, Betsan Moses, “Er bod pawb yn disgwyl y newyddion, roedd pobl yn siomedig pan ddaeth y cyhoeddiad bod yn rhaid gohirio’r Eisteddfod eleni - a neb yn fwy na ni a’r criw o wirfoddolwyr yng Ngheredigion ac yn Llŷn ac Eifionydd. Ac fe sbardunodd y siom ni i fynd ati i feddwl mewn ffordd cwbl wahanol - os nad oedd pobl yn gallu dod atom ni, yna, fe fydden ni’n mynd â rhywfaint o’r profiad eisteddfodol atyn nhw.
“Ac ry’n ni’n ddiolchgar i bawb sydd wedi cefnogi, yn berfformwyr, siaradwyr, artistiaid, ond yn fwyaf oll, ry’n ni’n ddiolchgar i’r gynulleidfa sydd wedi gwrando a gwylio, rhai’n fyw a rhai drwy wylio eto ar ein gwefan, ar You Tube ac ar AM. Gwn fod nifer o bobl wedi defnyddio elfennau o dechnoleg am y tro cyntaf er mwyn iddyn nhw wylio sesiwn neu ddilyn y cwrs Cerdd Dafod neu Gerdd Dant.
“Ry’n ni wedi ceisio dangos ychydig o bopeth. Wedi’r cyfan, mae’r Eisteddfod yn ŵyl gwbl eclectig sy’n gartref i bob math o ddiwylliant a chelfyddyd. Ac ry’n ni’n gwerthfawrogi’r gefnogaeth yn arw iawn. Wrth gwrs, mae gwahanol elfennau’n apelio at gynulleidfaoedd amrywiol, ond mae’r ffaith ein bod ni’n gallu cyflwyno rhaglen, sy’n cynnwys y cwmpas ehangaf o gyfranwyr - o Gymdeithas Emynau Cymru i 3 Hwr Doeth, nid yn unig yn arwydd o’r amrywiaeth sydd ar gael yn yr Eisteddfod, ond hefyd yn arwydd o’r awydd i greu cynnwys a chefnogi’r prosiect. Ac ry’n ni’n ddiolchgar iawn i bawb.
“Mae ‘wythnos yr Eisteddfod’ yn prysur agosau, ac erbyn hyn, fel rheol, byddai’r Maes yn tyfu ac yn datblygu’n ddyddiol. Ac mewn ffordd, mae hynny’n dal i ddigwydd gan ein bod ni’n gweithio ar raglen lawn o weithgareddau a digwyddiadau. Mae’n braf iawn bod cynifer o’n partneriaid ni’n awyddus i fod yn rhan o AmGen, ac yn ein gweld fel ffordd o gyrraedd cynulleidfaoedd, boed yn graidd neu’n newydd.
“Bydd gennym ni raglen lawn o weithgareddau yn ystod yr wythnos ar draws nifer o blatfformau digidol a thraddodiadol er mwyn ceisio cyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosibl. Y gobaith yw adeiladu ar lwyddiant y ddeufis cyntaf a rhoi digonedd o fwynhad i bobl o bob oed ym mhob cwr o Gymru a thu hwnt.”
Am ragor o wybodaeth am AmGen ac i wylio’r sesiynau hyd yn hyn, ewch i www.eisteddfod.cymru, ein sianel You Tube neu ein sianel ar blatfform AM.