Falyri Jenkins o Dal-y-bont, Ceredigion yw enillydd Medal Goffa Syr TH Parry-Williams er clod eleni. Cyflwynir y Fedal yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.
Yn wreiddiol o ardal Sling ger Bethesda, graddiodd Falyri yn y Coleg Normal, Bangor cyn cychwyn ei gyrfa ym myd addysg yn ardal Wrecsam. Symudodd i ardal Aberystwyth yn 1974, ac mae wedi bod yn hynod o weithgar yn yr ardal ers hynny, gan ymgartrefu yn Nhal-y-bont yn 1978.
Mae’n athrawes o’r radd flaenaf yn ôl ei chydweithwyr - yn wir, fe’i disgrifiwyd ar lafar fel ‘chwip o athrawes’ gan un o arolygwyr ESTYN. Cafodd nifer fawr o blant a phobl ifanc ei bro eu hysbrydoli gan Falyri, yn enwedig ym maes cerddoriaeth, wrth iddi hyfforddi unawdwyr, partïon, corau ac offerynwyr lu am flynyddoedd lawer.
Cynhyrchodd nifer o lyfrau cerddoriaeth deniadol ar gyfer cylchoedd meithrin ac ysgolion cynradd yn ystod ei gyrfa, ac yn ddi-os, mae cenedlaethau o blant o bob cwr o Gymru wedi mwynhau canu caneuon o lyfrau megis Caneuon Bys a Bawd a’r gyfrol enwog Clap a Chân i Dduw, sef casgliad o emynau modern ar gyfer ysgolion ac ysgolion Sul.
Bu ei chyfraniad i fyd addysg yn ei hardal ac yn genedlaethol yn sylweddol, felly hefyd ei gwaith gwirfoddol ar lawr gwlad yn ardal Ceredigion. Bu’n cefnogi gwaith ieuenctid yn Ysgol Sul Bethel, yn gwirfoddoli gyda’r Cylch Meithrin ac yn gweithio’n ddiwyd gyda’r Clwb Ieuenctid Cristnogol.
Bu’n un o hoelion wyth y papur bro lleol, Papur Pawb, yn Nhal-y-bont am flynyddoedd, fel cyd-olygydd gyda’i gŵr, Gwyn, ac yna fel gohebydd y pentref am dros ddeng mlynedd. Mae’n parhau i gyd-olygu rhifyn misol bob blwyddyn, gan sicrhau bod gofod wedi’i neilltuo i weithgareddau plant a phobl ifanc.
Yn gefnogwr brwd o fyd y ddrama, cydiodd Falyri yn y cyfle i wahodd Theatr Bara Caws i Dal-y-bont flynyddoedd yn ôl ac erbyn heddiw, mae’r Neuadd Goffa’n croesawu’r cwmni’n rheolaidd, gan sicrhau bod modd i drigolion lleol fwynhau perfformiadau theatr yn eu cymuned, gyda Falyri yng ngofal hyrwyddo’r sioe a gwerthu tocynnau bob tro.
Yn ddi-os, mae’i brwdfrydedd a’i chyfraniad yn crisialu amcanion Cronfa Goffa Syr TH Parry-Williams, a thrwy hynny, mae’n llawn haeddu derbyn y Fedal er clod eleni.
Bu Syr TH Parry-Williams yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod Genedlaethol, ac yn Awst 1975, yn dilyn ei farwolaeth ychydig fisoedd ynghynt, sefydlwyd cronfa i goffáu’i gyfraniad gwerthfawr i weithgareddau’r Eisteddfod. Gweinyddir y gronfa gan Ymddiriedolaeth Syr Thomas Parry-Williams.