Guto Dafydd yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, ac fe dderbyniodd yr anrhydedd mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn heddiw.
Erbyn hyn, mae Guto wedi hen arfer â sefyll mewn seremonïau Eisteddfodol, gan iddo ennill y Goron ddoe, ynghyd â Choron Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr yn 2014 a Gwobr Goffa Daniel Owen ddwy flynedd yn ddiweddarch yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy.
Tasg yr wyth a ymgeisiodd oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Y wobr yw Medal Goffa Daniel Owen, yn rhoddedig gan Ross a Susan Morgan, Llanrwst, a £5,000, (£3,500 er cof am Olwen Mai Williams, Foel, Cwm Penmachno gan ei theulu, £1,000 Gwasg Carreg Gwalch, a £500 gan Ymddiriedolaeth D Tecwyn Lloyd)
Y beirniaid oedd Haf Llewelyn, Dyfed Edwards a Llwyd Owen, ac wrth draddodi’r feirniadaeth dywedodd Haf Llewelyn, “Un yn unig oedd yn y ras, ac roedd y tri ohonom yn hollol gytûn ar hynny - Carafanio - Arglwydd Diddymdra
“Wedi profi teimladau cymysg wrth fynd trwy'r saith ymgais flaenorol, roedden ni'n eithaf pryderus, gan nad oedden ni'n awyddus i'ch amddifadu o enillydd. Ond dyna droi at dudalen gyntaf 'Carafanio', a daeth ton o ryddhad droson ni.
“Nid mewn cae ar wahân y mae'r awdur hwn, ond yn hytrach ar gyfandir.
“Myfyrdod ar fywyd ydi'r nofel, myfyrdod am y pethau hynny sy'n bryder i ni, ond nid oes ymdrybaeddu mewn angst nac ing, dim ond ei dweud hi fel y mae, yn goeglyd, ddychanol. Hanes teulu yn mynd ar wyliau carafanio sydd yma, does yna ddim stori fawr i'w dweud, na digwyddiadau ysgytwol, does yna 'run gangster na ditectif. A dyna fawredd y nofel, stori am fyw ydi hi - sylwadau craff am y natur ddynol, am ddyheadau a disgwyliadau, ac am ein stad fydol, fregus.
“Apeliodd yr arddull wrthrychol ataf yn syth, bron nad ydy'r awdur yn ysbio o bell ar ei destun, yn ei watwar, yn cynnig sylwadau miniog amdanom ni Gymry, ac am ddynoliaeth yn ehangach.
“Mae Arglwydd diddymdra hefyd yn acrobat ieithyddol, yn llwyddo i ddefnyddio 'aeldlws' a 'getawê' yn yr un frawddeg; yn hyderus i fathu ansoddeiriau fel 'hir-locsynnog' - dan ei ofal mae'r Gymraeg yn heini, yn gallu cyffwrdd pob emosiwn, yn dawnsio ac yn gwneud tin dros ben, yn iaith fodern aml-haenog, ac yn hwyl.
“Mae Carafanio yn nofel onest, yn glyfar, yn ddeifiol - weithiau'n hiraethus, ac yn ei chwmni, cefais blyciau o chwerthin yn uchel, o nodio a phorthi, o dristau weithiau, ac anobeithio, ond yn ei chwmni cefais brofi rhyddiaith ar ei orau. Llongyfarchiadau calonog felly a diolch i'r Arglwydd hwn am ein hachub rhag y diddymdra.”
Daw Guto’n wreiddiol o Drefor. Mae’n byw ym Mhwllheli gyda’i wraig, Lisa, a’r plant, Casi a Nedw.
Bu’n cystadlu’n frwd mewn eisteddfodau bach a mawr ers blynyddoedd. Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd yn 2013, Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2014, a Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2016. Ysgrifennodd y geiriau ar gyfer A Oes Heddwch, cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol 2017.
Mae wedi darllen ei waith mewn degau o festrïoedd, tafarndai, llyfrgelloedd, ysgolion a neuaddau, a thrafod llenyddiaeth yn aml mewn amryw gyhoeddiadau ac ar y teledu, y radio a’r we. Cyhoeddodd nifer o lyfrau, gan gynnwys cyfrol o farddoniaeth (Ni Bia’r Awyr) a dwy nofel (Stad ac Ymbelydredd, a enillodd Wobr Barn y Bobl, Llyfr y Flwyddyn 2017).
Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor. Mae’n gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg. Ef yw trysorydd Eisteddfod Gadeiriol y Ffôr, ac mae’n mwynhau rhedeg, mynd am dro, a charafanio.
Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy tan 10 Awst, Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru