Heddiw, cyhoeddwyd nad oedd neb yn deilwng yng nghystadleuaeth Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy.
Y dasg eleni oedd cyfansoddi cyfanwaith i Gôr SATB 6-8 munud o hyd gyda chyfeiliant neu yn ddigyfeiliant, gan ddefnyddio unrhyw ddetholiad o’r gerdd Llwch y Sêr gan Grahame Davies, i gynnwys dau neu dri darn.
Y wobr oedd Tlws y Cerddor (Urdd Cerddoriaeth Cymru) a £750 (Prosiect Y Gymdeithas Seryddiaeth Frenhinol) ac Ysgoloriaeth gwerth £2,000, yn rhoddedig gan Y Gymdeithas Seryddiaeth Frenhinol) i hyrwyddo gyrfa’r cyfansoddwr buddugol.
Cafwyd deg ymgais ar gyfer y Fedal, ac wrth draddodi’r feirniadaeth ar lwyfan y Pafiliwn ar ran ei gyd-feriniaid, Gareth Glyn ac Eilir Owen Griffiths, dywedodd Richard Elfyn Jones, ““Wrth bori drwy’r deg cyfansoddiad cofiais am yr hen gartŵn o Punch o amser pell pell yn ôl lle'r oedd ciwrad nerfus yn gorfod aros y noson gyda’i esgob ac wrth i’r ddau gael brecwast sylweddolodd y ciwrad druan bod ei wy-wedi-ferwi yn ddrwg iawn. “Sut mae’ch wy chi giwrad?” gofynnodd yr esgob. Ac ateb y ciwrad nerfus oedd, “Iawn mewn rhannau, Esgob, iawn mewn rhannau!”
“A dyna oedd fy nheimlad i hefyd yn y gystadleuaeth hon sef bod llawer o’r cyfansoddiadau yn “iawn mewn rhannau” - llawer o’r ysgrifennu yn iawn ond llawer o’r mynegiant braidd yn anwadal yn dechnegol a heb daro deuddeg o ran adlewyrchu’n effeithiol cerdd hudolus Grahame Davies.
“Mae’r gerdd Llwch y Sêr mewn dwy ran ac yn fynegiant llachar ac emosiynol o bwysigrwydd llwch y sêr i ni ac i ddynoliaeth ers cyn cof, ac yn enwedig wrth i ni ddathlu hanner canmlwyddiant taith annhygoel Apollo 11.
“Un sylw cyffredinol cyn dyfarnu. Nid ydym yn gwybod faint o gerddoriaeth gorawl gyfoes mae llawer o’r ymgeiswyr wedi gwrando arni cyn mentro i’r gystadleuaeth hon. Gan fod cerddoriaeth yn iaith ryngwladol nid oes terfyn ar fodelau eithriadol grefftus ac ysbrydoledig y gall cyfansoddwr uchelgeisiol eu hastudio a chael ei ysbrydoli ganddynt, ac wedyn efallai eu defnyddio fel modelau.
“Mae’n od i ni fod cynifer o’r cystadleuwyr heb ddangos ymwybyddiaeth o’r cyfoeth o fodelau sydd ar gael i’w hastudio ac i fod yn ysbrydoliaeth iddynt.
“Yn ein barn ni, yr unig rai sy’n haeddu cael eu hystyried mewn dosbarth uwch na’r rhelyw eleni ydy Canrhawdfardd, Sagan a Delw. A phetai Delw wedi bod yn fwy gofalus ‘rydym yn siŵr y gallai ef neu hi fod wedi cyfansoddi darn teilwng iawn. Ond ni ddigwyddodd hynny yn ei fersiwn o Llwch y Sêr. Felly, ’rydym ein tri braidd yn siomedig ond yn gytûn na ddylid, yn anffodus, wobrwyo eleni.”
Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy ar gyrion Llanrwst tan 10 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.