Rhiannon Ifans yn ennill y Fedal Ryddiaith
7 Awst 2019

Rhiannon Ifans sy’n ennill y Fedal Ryddiaith eleni mewn cystadleuaeth a ddenodd 18 o ymgeiswyr.  

Testun y gystadleuaeth eleni oedd cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun ‘Cylchoedd’.  Y beirniaid oedd Mererid Hopwood, Aled Islwyn ac Alun Cob.  Cyflwynwyd y Fedal a’r wobr ariannol o £750 gan Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn.

Wrth draddodi’r feirniadaeth o’r llwyfan ar ran ei chyd-feirniaid, dywedodd Mererid Hopwood, “Os oedd y cyfrolau’n amrywiol, mae’n rhaid i fi ddweud ar y dechrau fel hyn – felly hefyd - i raddau - chwaeth y beirniaid. Ac er i eira Ionawr a Chwefror a helbulon moduro Mawrth wneud eu gorau i’n hatal ni rhag cyfarfod ... roedden ni’n benderfynol o roi pob chwarae teg i’r awduron, a dod at ein gilydd i geisio deall pam oedd pwy yn meddwl beth.

Mae’n amlwg bod saith cyfrol wedi mynd â bryd y tri beirniad, ond ar ôl sôn am chwech ohonynt, dywed Mererid fod “Teilyngdod - ie, ond dydy hynny’n werth dim heb gytundeb.”  Aiff ymlaen i drafod yr olaf yn y pentwr, gan ddweud, “Erys un - ffiw!- sef nofel grefftus, raenus, wreiddiol Raphael dan y teitl ‘Ingrid ’. Lleolir y nofel yn Stuttgart, Yr Almaen, ac oddi yno cawn hanes Ingrid , menyw lawn bywyd sy’n araf golli ei meddwl a’i chof. Adroddir ei hanes o’i safbwynt hi ei hunan, ei gŵr, ei mab a’i merch yng nghyfraith, a thrwy’r cwbl, llithra’r dweud yn gelfydd i lais traethydd annibynadwy gan ein hysgwyd i gwestiynu’r naratif heb beri i ni golli’r trywydd yn llwyr chwaith. Prin iawn yw’r nofelau Cymraeg sy’n dod â diwylliant gwlad arall yn fyw, ond yma mae’r Gymraeg yn rhoi ei llais yn gwbl naturiol i fyd yr Almaen.

“Ddwywaith datgelir cysylltiad enigmataidd a chogleisiol â Chymru, y naill yn y rhagair drwy gyfeiriad at Sir Fôn, a’r llall mewn parti Nadolig lle sonnir wrth basio am ryw ‘gymydog o dramor’ yn canu ‘Ar gyfer heddiw’r bore’. Mae’n enghraifft o hiwmor cynnil, bizarre y llenor ac yn esiampl o’r math o ergyd a’m henillodd i’n llwyr. Mae’r Cymry a’r Gymraeg yn gymdogion tramorol mewn nofel Gymraeg sy’n fwy Almaenig na Chymreig. Caiff y darllenwyr oriau o bleser yn mynd ar ôl dyfnder ystyr pob math o elfennau gan gynnwys enwau’r cymeriadau a’u gwaith. Cânt hefyd eu pryfocio i feddwl am gwestiynau mawr Hunaniaeth, Cariad a Gwirionedd. “Dyma waith lle mae dyfnder y deall neu’r diffyg deall, neu’r deall am y diffyg deall yn mynnu ein sylw.  ‘Drwyddi draw’, meddai Aled Islwyn, ‘mae yma lawer sy’n debyg o gosi dychymyg darllenwyr dros y misoedd sydd i ddod ...’ mae lle i gryn drafod ar ‘Ingrid ’ – y nofel a’r cymeriad.’

“Wedi darlleniad cyntaf y deunaw ymgais roedd ‘Ingrid ’ gan Raphael yn y dosbarth cyntaf gan y tri ohonom. Wedi darlleniadau pellach roeddem yn unfrydol mai hon fyddai’n derbyn y Fedal eleni.  Y gorau’ meddai Alun Cob. ‘Campus.’

“Er cystal safon y gweithiau eraill, braf iawn yw gallu dweud ein bod fel triawd yn unfrydol ynghylch teilyngdod ‘Ingrid ’ gan Raphael.  Llongyfarchiadau mawr! Raphael piau’r Fedal.”

Cafodd Rhiannon Ifans ei magu ar fferm Carreg Wian ym mhlwyf Llanidan, Ynys Môn, a’i haddysgu yn Ysgol Gynradd Gaerwen ac Ysgol Gyfun Llangefni. Mae’n ddiolchgar iawn i John Parry, Falmai Rees, Margaret Fisher a Gerald Morgan am ddangos iddi gyfaredd llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg am y tro cyntaf. Yna treuliodd sawl blwyddyn yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn astudio iaith a llenyddiaeth Gymraeg, gan werthfawrogi dysg a deallusrwydd eithriadol Geraint Gruffydd a gallu creadigol anghyffredin Bobi Jones. Erbyn hyn mae Rhiannon Ifans yn arbenigo ym meysydd astudiaethau gwerin a llenyddiaeth ganoloesol. Yn 1980 cyhoeddodd gyda’i gŵr, Dafydd, ddiweddariad o chwedlau’r Mabinogion; yn gynharach eleni cyhoeddodd Red Hearts and Roses? Welsh Valentine Songs and Poems.

Llawenydd ei bywyd oedd cael magu tri mab, Gwyddno, Seiriol ac Einion, ac wrth wneud hynny bu’n ysgrifennu cyfrolau i blant ac yn golygu’n llawrydd pan oedd yr hwyl yn taro. Enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2000 am ei chyfrol Chwedlau o’r Gwledydd Celtaidd ac am yr eildro yn 2003 am ei chyfrol Dewi Sant; cyrhaeddodd Owain Glyndŵr: Tywysog Cymru restr fer Gwobr Tir na n-Og yn 2001. Ar ôl i’r plant dyfu’n hŷn, dychwelodd i fyd y brifysgol gan weithio’n gyntaf ym maes Beirdd y Tywysogion ac yna ym maes Beirdd yr Uchelwyr. Wedi hynny treuliodd ddeuddeng mlynedd hapus yn Gymrawd Tucker ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Mae’n byw ers blynyddoedd lawer ym Mhenrhyn-coch yn ardal Aberystwyth, ac mae’n teithio’n rheolaidd i Gaerdydd i warchod ei hŵyr Trystan a’i hwyres Greta Mair, ac i’r Almaen pan mae amser yn caniatáu. Nofel Ewropeaidd yw Ingrid , wedi’i lleoli yn ninas Stuttgart mewn cyfnod pan mae’r siampaen yn llifo, y neuaddau jazz yn orlawn a’r tŷ opera dan ei sang.

Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy tan 10 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.