Fiona Collins yw Dysgwr y Flwyddyn
7 Awst 2019

Dysgwr y Flwyddyn eleni yw Fiona Collins.  

Fe’i hanrhydeddwyd mewn seremoni arbennig nos Fercher, ar lwyfan y Pafiliwn yn dilyn cystadleuaeth o safon uchel.  Dyma’r tro cyntaf i’r gystadleuaeth gael ei chynnal ar lwyfan y Pafiliwn, a’r gobaith yw bod hyn yn mynd i godi statws y gystadleuaeth ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.

Y beirniaid eleni oedd Daloni Metcalfe, Janet Charlton ac Emyr Davies.

Yn gyn-athrawes, mae Fiona Collins yn gweithio fel chwedleuwraig ers nifer o flynyddoedd gan adrodd chwedlau, mythau a hanesion o bob math i blant ac oedolion. 

Mae’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn credu bod lle pwysig i chwedloniaeth Cymru yn ein bywydau, gyda straeon y Mabinogi’n gallu goleuo ein gwlad a’n haddysgu am dirwedd ein cenedl, a dywed fod ganddi ‘genhadaeth gyfrinachol’ i gyflwyno pawb i’r chwedlau anhygoel yma. 

Mae Fiona’n byw yng Ngharrog ers dros bymtheng mlynedd, ac wedi sefydlu Caffi Stori yn yr ardal, lle daw criw ynghyd yn fisol i chwedleua, adrodd barddoniaeth neu ganu.  Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 1999, ac eleni, roedd yn teimlo’n ddigon hyderus i ymgeisio yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.

Bydd yr enillydd yn derbyn tlws arbennig, yn rhoddedig gan Gari Bryn Jones, Pentrefoelas, a £300 (Soroptimist Rhyngwladol Llandudno.  Bydd Fiona hefyd yn cael ei gwahodd i fod yn aelod o’r Orsedd.

Y tri arall yn y rownd derfynol oedd Paul Huckstep o Benmachno, Grace Emily Jones o Lanfihangel Glyn Myfyr, a Gemma Owen o Faenan, Llanrwst, a derbyniodd y rhain dlysau sydd hefyd yn rhoddedig gan Gari Bryn Jones, Pentrefoelas a £100 yr un, gyda’r arian wedi’i gyflwyno gan Gangen Merched y Wawr Capel Garmon, Gwawr Dafydd, Conwy a Changen Merched y Wawr Penmachno.  

Bydd y pedwar yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn i’r cylchgrawn Golwg, a rhoddion gan fudiad Merched y Wawr. 

Bydd cyfle i gyfweld Fiona yn y gynhadledd i’r wasg fore Iau.