Eden, Gig y Pafiliwn
8 Awst 2019

Daw cerddoriaeth ddawns a chlwb ac offeryniaeth glasurol ynghyd am noson gofiadwy wrth i Gig y Pafiliwn, un o lwyddiannau mawr yr Eisteddfod dros y blynyddoedd diwethaf, dalu teyrnged i ddiwylliant pop a chlwb y 90au. 

Yn dilyn llwyddiant 2017 a 2018 a 2016, mae Gig y Pafiliwn yn ôl eto eleni, ac mae’n addo bod yn noson well nag erioed! Gyda’r DJ Huw Stephens, un o bobl fwyaf dylanwadol y sîn Gymraeg yn cyflwyno unwaith eto, mae’r Gig wedi hen ennill ei le fel un o uchafbwyntiau’r flwyddyn.

Yn 2019 mae cynhyrchwyr cyngherddau’r Eisteddfod wedi creu parti anferthol gyda Cherddorfa’r Welsh Pops ac arweinydd Band Pres Llareggub, Owain Roberts, wrth y llyw, a Diffiniad, Eden a Lleden yn perfformio ar y noson.

Ail-ffurfiodd Diffiniad y llynedd, yn arbennig ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd lle roedden nhw’n perfformio ar Lwyfan y Maes yn slot eiconig nos Wener. Roedd hwn yn un o uchafbwyntiau’r wythnos, gyda hyd at 7,000 o bobl yn gwylio. 

Yn wreiddiol o’r Wyddgrug, ffurfiwyd Diffiniad pan oedd y sîn ‘House’ yn ei anterth, a gan eu bod mor agos at glybiau enwog Cream yn Lerpwl a’r Hacienda ym Manceinion, dylanwadodd hyn yn drwm ar eu steil o gerddoriaeth. Dyma’r grŵp a anfarwolodd glasur Injaroc, Calon, ac a ddaeth â gwên i wynebau cenhedlaeth gyfan o Gymry gyda’u hanthemau cofiadwy wrth iddyn nhw ddringo i frig y sîn fel un o fandiau mawr y cyfnod.

Mae Eden hefyd wedi perfformio ar Lwyfan y Maes ar nos Wener, a hynny o flaen miloedd o bobl yn Eisteddfod Ynys Môn 2017. Mae’n anodd credu bod dros 20 mlynedd wedi mynd ers i Paid â Bod Ofn, un o albyms pop mawr Cymru gael ei ryddhau, ac iddyn nhw berfformio ym Maes B yn Eisteddfod Y Bala. 

Daeth y tair – sy’n canu gyda’i gilydd ers dyddiau ysgol –  yn un o brif fandiau’r sîn bop bron yn syth, a’u caneuon bachog, harmonïau a symudiadau slic yn apelio at gefnogwyr o bob oed.

A gyda’r band parti Lleden hefyd yn perfformio, mae hon yn sicr o fod yn noson llawn egni a bywyd.  Bydd digonedd o hen ffefrynnau ac ambell syrpréis, wrth i restr chwarae cenhedlaeth y 90au gael ei hail-greu am un noson yn unig! Be’n well i gloi cyngherddau’r wythnos na cherddorfa ardderchog y Welsh Pops gyda bandiau eiconig a system sain heb ei hail? Mae’n sicr o fod yn wefreiddiol!