Ashok Ahir
9 Awst 2019

Heddiw (9 Awst), etholwyd Ashok Ahir yn Lywydd y Llys a Chadeirydd Bwrdd Rheoli yr Eisteddfod Genedlaethol, gan aelodau Llys y Brifwyl.

Mae Ashok yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu Llywodraeth y DU yng Nghymru ac wedi bod yn Aelod o Fwrdd Rheoli’r Eisteddfod ers hydref 2016. 

Ef oedd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, a ganmolwyd am ei natur gynhwysol ac agored. 

Daw â phrofiad busnes a rheoli i’r ròl fel sylfaenydd a chyfarwyddwr cwmni cyfathrebu Mela a chyn bennaeth Uned Wleidyddol BBC Cymru.

Mae’n aelod o Fwrdd Chwaraeon Cymru a Phwyllgor Cymru’r Cyngor Prydeinig

Daw Ashok yn wreiddiol o Wolverhampton a chafodd ei fagu ar aelwyd cyfrwng Punjabi, ond mae wedi dysgu Cymraeg yn rhugl ers hynny gan gyrraedd rownd derfynol Gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn 2012.

Dywedodd Ashok yn dilyn yr etholiad “Rwyf wrth fy modd cael fy ethol i’r ròl allweddol hon fydd yn canatau i mi barhau i gynorthwyo’r Eisteddfod i ddatblygu ac esblygu.”

“Mae’r Eisteddfod yn agos iawn at fy nghalon ac rwyf wrth fy modd yn dod yn flynyddol gyda fy nheulu.  Mae’n lle ardderchog i rai sydd wedi dysgu Cymraeg fel fi i ymarfer a defnyddio eu Cymraeg.

“Rydw i’n awyddus iawn hefyd i weld yr Eisteddfod yn denu cynulleidfaoedd newydd o bob cymuned yng Nghymru a thu hwnt – yn enwedig pobl ifanc ac o gefndiroedd gwahanol – a dangos iddynt bo croeso i bawb ar y Maes.”

Llywydd y Llys sy’n gyfrifol am gadeirio Cyfarfod Blynyddol yr Eisteddfod ac am sicrhau bod gan aelodau’r elusen lais clir yng ngwaith a chyfeiriad strategol yr Eisteddfod.

Bwrdd Rheoli’r Eisteddfod sy’n goruchwylio gwaith Tîm Rheoli’r Eisteddfod ac sy’n gyfrifol am bennu a gweithredu strategaeth ar gyfer y dyfodol. 

Mae Ashok yn olynu Eifion Lloyd Jones sydd wedi gwasanaethu fel Llywydd y Llys a Chadeirydd Bwrdd Rheoli’r Eisteddfod dros y dair blynedd diwethaf.