Jim Parc Nest yn ennill Cadair Eisteddfod Sir Conwy
9 Awst 2019

Cododd wyneb cyfarwydd iawn i’w draed ar ganiad y Corn Gwlad y prynhawn ‘ma wrth i Jim Parc Nest (T James Jones) ddod i’r brig yn seremoni olaf yr wythnos yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy.

Mae Jim yn derbyn y Gadair am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd, heb fod dros 250 o linellau ar y teitl Gorwelion.  Y beirniaid eleni oedd Myrddin ap Dafydd, Llion Jones ac Ieuan Wyn. 

Wrth draddodi’r feirniadaeth o’r llwyfan ar ran ei gyd-feirniaid, soniodd Llion Jones mai saith o feirdd yn unig oedd wedi ymgeisio am y Gadair eleni, ac ar ôl trafod y chwech arall, daw at y cyfansoddiad buddugol, gan ddweud, “Os ydach chi wedi gwneud eich sỳms, fe fyddwch chi’n gwybod fod yna un bardd yn dal i redeg. Wil Tabwr ydi’r bardd hwnnw, a diolch amdano. Drama fydryddol ar gynghanedd sydd gan Wil, ac ynddi, cawn bortread llachar o Iolo Morgannwg, y saer maen o Drefflemin a thad Gorsedd y Beirdd, ac yng ngeiriau ei gofiannydd, yr hanesydd Geraint Jenkins, ‘un o’r Cymry mwyaf deallus a chreadigol a welwyd erioed’.

“Dyma gerdd, sydd yn y pen draw, yn clodfori’r ysbryd creadigol a radical oedd yn rhan o anian Iolo, ac sydd, yn ôl y bardd ac Iolo fel ei gilydd, yn anhepgor i oroesiad cenedl.

“Mae’n bwrw trem yn ôl ar draws canrifoedd o draddodiad barddol o Gatraeth i Gilmeri ac ni chlyw ond marwnadau beirdd, gan beri iddo holi’r cwestiwn ‘Ai hyn oll fu ei siwrne hi, ‘mond storom o hunandosturi?’.  Mae’r cwestiwn hwnnw yn ei dro yn arwain at gwestiwn rhethregol pellach ‘Ai dyma’r eiliad i ymwroli?’

“Ym marn gytûn y tri ohonom, mae cerdd Wil Tabwr gryn dipyn ar y blaen yn y ras am y gadair eleni, o safbwynt ei huchelgais, ei chyfeiriadaeth, ei meddylwaith a’i mydryddiaeth. Mae lliwiau a haenau ei ‘stori ganfas’ yn amlygu ei feistrolaeth ar holl gyweiriau a rhythmau’r Gymraeg. Ond dydi Wil ddim wedi’i gwneud hi’n hawdd i ni’r beirniaid ychwaith. Mae’r gwaith mewn cynghanedd gyflawn yn sicr, ac yn cynnwys nifer o gynganeddion dolennog cywrain iawn, ond mae’r cwestiwn a ydi hi’n awdl neu gasgliad o gerddi yn destun seiat ddifyr. Oni bai iddo ddewis gosod y rhestr o gyflawniadau Iolo fel talp o ryddiaith, fe fyddai Wil hefyd wedi herio un arall o amodau’r gystadleuaeth trwy fynd dros drothwy'r 250 o linellau.

“Ond does dim dwywaith mai gan Wil y mae’r weledigaeth eleni. Ganddo ef hefyd y mae’r ddawn a’r adnoddau i roi mynegiant i’r weledigaeth honno. Yn ei feirniadaeth, mae’r archdderwydd presennol yn tynnu sylw at y ffaith fod eleni “yn ddau canmlwyddiant uno ein sefydliad cenedlaethol hynaf – yr Orsedd – gyda’r sefydliad sydd, erbyn hyn, wedi cyflawni mwy na’r un arall at oroesiad ein diwylliant – sef yr Eisteddfod”. Yng ngeiriau Myrddin, “mae cerdd Wil Tabwr yn uno’r angen am ddychymyg Iolo Morganwg yn y ddeunawfed ganrif gyda’r angen am ddychymyg tebyg yn ein hoes ni i ganfod ein llwybr at ryddid”.

“Mae Wil Tabwr wedi canu cerdd ddramatig a dyfeisgar sy’n gwbl deilwng o gadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy. Mae’n siwr y byddai Iolo ei hun yn ei elfen wrth feddwl y caiff ei orsedd heddiw anrhydeddu bardd sy’n dal i ganu ‘uwch düwch dibyn’ ac sy’n mynnu dangos bod rhyw olau yn rhywle dan yr olew o hyd.

Yn wreiddiol o  o Gastellnewydd Emlyn, mae Jim Parc Nest bellach wedi ymgartrefu yn Radur, Caerdydd.  Mae’n gyn-Archdderwydd ac felly’n hen gyfarwydd â’r prif seremonïau ar lwyfan y Brifwyl. 

Dyma’r eilwaith iddo ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, yn dilyn ei lwyddiant yn Eisteddfod Sir y Fflint dddeuddeng mlynedd yn ôl yn 2007.  Mae hefyd wedi ennill Coron yr Eisteddfod ddwywaith, yn Abergwaun yn 1986 a Chasnewydd yn 1988.

Yn fardd cyhoeddedig, dramodydd llwyfan, radio a theledu, ef yw awdur Dan y Wenallt, ei gyfieithiad o Under Milk Wood, Dylan Thomas. Cyfansoddwyd y ddrama honno dan gymylau tywyll yr Ail Ryfel Byd, a fygythiai ddifancoll dynolryw.

Crëwyd yr awdl hon mewn cyfnod gwleidyddol bygythiol i Gymru. Ond drwy dderbyn gweledigaeth obeithiol Iolo Morganwg, y Bardd Rhyddid, efallai y bydd modd i ninnau, yn y cyfnod brawychus hwn, wrthsefyll gormes imperialaeth Prydeindod.      

Gwerthfawrogir cefnogaeth ac ysbrydoliaeth teulu agos ac estynedig, ynghyd â ffrindiau. Cydnabyddir hefyd ymchwil angenrheidiol Yr Athro Geraint Jenkins a’i gydweithwyr i fywyd a gwaith y ‘Digymar Iolo’.

Noddir y Gadair gan Undeb Amaethwyr Cymru, Canghennau Sir Gaernarfon a Sir Ddinbych.  Rhoddir y wobr ariannol eleni er cof am y Prifardd Gwynfor ab Ifor gan y teulu.

Gwenan Jones, merch ifanc o ddalgylch yr Eisteddfod, sy’n gyfrifol am gynllunio a chreu’r Gadair eleni. Dywed, “Mae’n anrhydedd i gael cynllunio a chreu Cadair ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol, a hynny ym mro fy mebyd.  Rwy’n gwerthfawrogi’r cyfle ac wedi mwynhau’r profiad yn fawr.

“Afon Conwy a diwydiannau’r sir sydd wedi ysbrydoli’r cynllun. Yr afon yw asgwrn cefn y sir, yn llifo o’i tharddle yn Llyn Conwy ar fynydd y Migneint i’r aber yng Nghonwy, ac fe’i gwelir yn rhedeg i lawr y ddwy ffon fugail sy’n ffurfio ochrau’r Gadair. Mae siâp y ffon yn adlewyrchu cefndir amaethyddol y sir, a’r afon yn llifo’n frown er mwyn adlewyrchu mawndir yr ardal.”

Ar ochr uchaf y ddwy goes flaen, gosodwyd gwely llechen o chwarel Cwm Penmachno, a hwnnw wedi’i fframio gan haenau o gopr wedi’u mewnosod. Mae’r ysgrifen a’r dyddiad hefyd wedi’u gosod mewn copr.

“Ro’n i’n meddwl ei bod hi’n bwysig defnyddio gwahanol ddeunyddiau o ardal Sir Conwy, felly mae lle amlwg i lechen leol ac i gopr, gan fod chwarel gopr hanesyddol ym Mynydd y Gogarth, Llandudno. Mae’r copr hefyd i’w weld ar y Nod Cyfrin ar banel cefn y Gadair.

“Yn ogystal, mae tref Llanrwst yn weledol bwysig, a phont y dref, gyda’i gwrthgyferbyniad o siapiau crwn ac onglog ysbrydolodd gynllun y ddwy goes flaen. Rydw i hefyd wedi creu cerflun o’r bont ar banel cefn y Gadair: mae ‘na orffeniad gwyn i hwn er mwyn adlewyrchu technegau adeiladu calch a sment yr hen oes. Yna, mae tair gwythïen liw yn rhedeg o waelod cefn y gadair, yn anelu at dri bwa’r bont ac yn ymestyn tua’r gorwel. Wrth ddilyn y gwythiennau lliw, sy’n cynrychioli’r Cymry, i fyny’r gadair, cawn ymdeimlad o chwilio am y gorwel, sef adlewyrchiad o destun ysgrifenedig y Gadair eleni.”

Defnyddiodd Gwenan dechneg gyfoes o resin clir er mwyn creu’r sedd, gyda dau damaid o dderw gydag ochrau amrwd yn adlewyrchiad o lan Afon Conwy. Rhwng y ddau ddarn o bren, mae hi wedi crynhoi cerrig Afon Conwy o’r tarddle at y glannau, gan gynrychioli’r sir gyfan. Mae pysgod hefyd wedi’u cloi yn y resin hwn, sy’n symboleiddio bywyd yr afon a’r sir.

Gwnaethpwyd y Gadair â llaw gan Gwenan yn ei gweithle ym Maerdy, Corwen.

Bydd y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, ar werth yn dilyn y seremoni hon.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy ar gyrion Llanrwst tan 10 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.