Edrych yn ôl ar Eisteddfod Sir Conwy
23 Tach 2019

Er i’r tywydd drechu Maes B ddiwedd yr wythnos, bu Eisteddfod Sir Conwy yn wythnos hynod lwyddiannus.

Gyda niferoedd ardderchog yn cystadlu a’r Pafiliwn yn llawn am ran helaeth o’r wythnos, bydd y cystadlaethau corawl yn arbennig yn cael eu cofio fel rhai o oreuon y blynyddoedd diwethaf.

Cafwyd penwythnos cyntaf rhagorol, wrth i bobl heidio i Lanrwst o bob cornel o Gymru a thu hwnt.  A dyna fu’r hanes drwy gydol yr wythnos tan y penwythnos olaf pan ddaeth y gwynt a’r glaw, a bu’n rhaid cau Maes B a’r maes pebyll er mwyn sicrhau diogelwch y cannoedd o bobl ifanc a oedd yn aros yno.

Cafodd hyn, a phenderfyniad yr Eisteddfod i dalu’r artistiaid i gyd ac ad-dalu’r rheini oedd wedi prynu tocynnau ar gyfer y penwythnos ym Maes B, effaith fawr ar lif ariannol yr ŵyl.  Oherwydd hyn, ni fu modd i Eisteddfod Sir Conwy adael gweddill fel roedd y trefnwyr wedi’i obeithio. 

Meddai Llywydd Llys yr Eisteddfod a Chadeirydd y Bwrdd Rheoli, Ashok Ahir, wrth nodi’r golled ariannol o £158,982, “Mae’n bwysig nad yw llwyddiant Eisteddfod Sir Conwy’n mynd yn angof oherwydd y tywydd gwael ar ddiwedd yr wythnos. 

“’Does neb eisiau cyhoeddi manylion colled ar ôl gŵyl a fu’n llwyddiant mewn cymaint o ffyrdd, ond dyna mae’n rhaid i ni’i wneud heddiw.  Wrth ddweud hynny, mae’n bwysig bod pawb yn sylweddoli pam ein bod yn gorfod gwneud hyn.

“Do, bu’n rhaid gwario ychydig yn fwy ar y Maes ar ddiwedd yr wythnos er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch ein hymwelwyr, ac er mwyn sicrhau bod meysydd parcio ar gael i’w defnyddio.  Bu’n rhaid i nifer o wyliau ar draws Prydain gau neu gael eu canslo oherwydd y tywydd, ond rwy’n falch o ddweud bod ein blaengynllunio wedi ein galluogi i wneud yn siwr bod modd cadw’r Maes ei hun ar agor. 

“A gall neb anghytuno gyda’r penderfyniad anodd y bu’n rhaid i ni fel Bwrdd ei gymryd yn dilyn trafodaethau gyda’r gwasanaethau brys a’n partneriaid, i gau Maes B.  Roedd rhagolygon y tywydd ddiwedd yr wythnos yn wirioneddol enbyd, a ‘doedd dim dewis arall ond canslo Maes B. 

“Dyma, yn ei hanfod, sy’n gyfrifol am ran helaeth y diffyg yn y cyfanswm ariannol  Wrth gwrs, gall gŵyl fel yr Eisteddfod ddim fforddio gorfod wynebu colled fel hyn, ac felly, ein blaenoriaeth gorfforaethol dros y blynyddoedd nesaf fydd sicrhau ein bod yn codi arian er mwyn rhoi hwb i’n cronfeydd wrth gefn yn dilyn y canlyniad y bore ‘ma.

“Mae’n bwysig ein bod yn atgoffa pawb na fydd y golled hon yn cael ei chario drosodd i Eisteddfod Ceredigion na phrifwyl Llŷn ac Eifionydd.  Bydd ein cronfeydd canolog yn ysgwyddo’r baich, heb ddisgwyl i eisteddfodau’r dyfodol dalu am effaith tywydd gwael Sir Conwy.”

Roedd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Sir Conwy, Trystan Lewis, yn awyddus i dalu teyrnged i holl waith trigolion lleol, a gododd bron i £400,000 i’r Gronfa Leol.  “Alla i ddim diolch digon i bobl Sir Conwy am eu gwaith, eu brwdfrydedd a’u cyfeillgarwch dros y ddwy flynedd ddiwethaf. ‘Doedd dim byd yn ormod o drafferth.  Roedd hi’n fraint aruthrol arwain tîm a weithiodd mor ddygn er mwyn sicrhau llwyddiant yr Eisteddfod.

“O greu’r pwyllgorau cychwynnol tan y shifft olaf yn gwirfoddoli ar y Maes ynghanol y glaw, mae fy niolch i a’r Eisteddfod ei hun yn enfawr i bob un person a fu’n rhan o’r gwaith.  Chi oedd gwraidd llwyddiant ein Heisteddfod ni, ac ni fydd y newyddion heddiw’n pylu dim ar y gwaith a’r llwyddiant lleol a fu’n gymaint rhan o’r ŵyl.

Ychwanegodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, “Mae llawer wedi dweud bod Eisteddfod Sir Conwy yn wythnos gofiadwy.  Efallai bod y tywydd wedi trechu Maes B ar ddiwedd yr wythnos, ond ni threchwyd yr ŵyl ei hun.  Llwyddwyd i barhau â’r arlwy arbennig a oedd wedi diddanu cymaint o ymwelwyr drwy gydol yr wythnos, gan orffen gyda Dafydd Iwan yn perfformio ar lwyfan y Pafiliwn. 

“Dyma wythnos a lwyddodd i blethu’r traddodiadol a’r newydd, a roddodd lwyfan i sioeau hynod uchelgeisiol fel Y Tylwyth, gan Myrddin ap Dafydd, Gwyneth Glyn a Twm Morys, ac a fu’n gyfle i ni ail-ddarganfod clasur Kate Roberts, Te yn y Grug, drwy lygaid Karen Owen a Cefin Roberts, gyda cherddoriaeth gan Al Lewis.  Roedd hi’n wythnos wych, yn gyfle i’r miloedd o ymwelwyr a heidiodd drwy’r giatiau i greu atgofion oes, wrth i ni gyd-ddathlu ein hiaith a’n diwylliant.

“Diolch i bawb a fu’n rhan o’r trefnu, i’r bobl ifanc a fu mor gwrtais a hawddgar pan fu’n rhaid i ni gau Maes B, i’n hymwelwyr, ein gwirfoddolwyr ac i’r staff a weithiodd mor galed drwy gydol yr wythnos i sicrhau bod modd i Eisteddfod Sir Conwy barhau hyd at y nos Sadwrn olaf.”