Corn hirlas yn cael ei gludo gan ferch mewn ffrog wen gyda chlogyn coch â phatrwm aur

Mae Cyflwynydd y Corn Hirlas yn chwarae rhan amlwg yn seremonïau Gorsedd Cymru yn ystod wythnos yr Eisteddfod a seremoni'r Cyhoeddi ar 17 Mai 2025.  Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llantwd, Sir Benfro ym mis Awst 2026.

Rydyn ni'n chwilio'n benodol am oedolyn sy'n:

  • Byw neu'n dod o ardal yr Eisteddfod;
  • Awyddus i gefnogi ein gwaith o hyrwyddo ein hiaith a'n diwylliant, ac yn gallu dangos sut maen nhw'n gwneud hyn;
  • Gallu sicrhau eu bod nhw ar gael ar y dyddiau dan sylw;
  • Gallu symud yn urddasol a gosgeiddig i gerddoriaeth araf y delyn a llefaru ar eu cof, mewn llais clir a chroyw, eiriau'r cyflwyniad, sef:

"Hybarch Archdderwydd, yn enw Aelwydydd Sir Benfro
gofynnwn i ti yfed o win ein croeso i'r Orsedd a'r Eisteddfod."

Gellir llogi'r wisg gan yr Orsedd, neu ddarparu gwisg mewn ymgynghoriad â'r Orsedd.

Cynhelir y clyweliadau nos Lun 3 Chwefror o 17:00 - 19:00 yn Neuadd y Farchnad, Crymych. Yna, cynhelir ail gyfweliad yn Neuadd y Farchnad nos Lun 10 Chwefror o 17:00 - 19:00.

Rydym yn croesawu ceisiadau'n arbennig gan ymgeiswyr anabl ac o bob cefndir ethnig ar gyfer y rôl.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 23 Ionawr.

Sut ydych chi'n hyrwyddo ein hiaith a'n diwylliant yn gymdeithasol neu wrth eich gwaith? Nodwch eich diddordebau personol (hyd at 200 gair)